Neidio i'r prif gynnwy

Crynodeb

Dyma seithfed datganiad polisi tâl blynyddol Llywodraeth Cymru.

Mae’r Datganiad Polisi Tâl hwn yn darparu’r fframwaith ar gyfer penderfyniadau ynghylch tâl, yn arbennig tâl uwch reolwyr. Mae’n cydategu gwybodaeth arall sydd wedi’i chyhoeddi ar ein gwefan, y gallwch ei gweld drwy’r dolenni isod. Os na allwch ddod o hyd i’r wybodaeth yr ydych yn chwilio amdani cysylltwch â cymorth@llyw.cymru.

Cyflwyniad

Rwyf yn falch o gyflwyno Datganiad Polisi Tâl 2022, yr un cyntaf imi ei gyhoeddi ers cychwyn yn fy rôl fel Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru ym mis Tachwedd 2021. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd system tâl a gwobrwyo sy’n caniatáu inni recriwtio a chadw staff talentog sydd wedi ymrwymo i gyflawni dros bobl Cymru.

Rwyf yn credu y dylai ein system dâl fod yn gyfartal i bawb, yn briodol, yn dryloyw, rhoi gwerth am arian a gwobrwyo staff yn deg am y gwaith y maent yn ei gyflawni. Yn ogystal â chyflog, mae Llywodraeth Cymru’n cynnig amrywiaeth eang o fuddion ariannol ac anariannol yn y gweithle. Mae’r rhain yn cynnwys aelodaeth o Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil, mynediad at drefniadau blaenswm cyflog ac aberthu cyflog, cyfleoedd dysgu a datblygu eithriadol a chynlluniau llesiant gweithwyr yn ogystal â ffyrdd o weithio sy’n adeiladu ar y datblygiadau mewn technoleg a gweithio clyfar yr ydym wedi’u datblygu yn ystod y pandemig.

Mae’r datganiad hwn yn amlinellu sut rydym yn edrych ar gyflog a’r berthynas rhwng cyflogau gweithwyr a chydnabyddiaeth ariannol i uwch reolwyr. Paratowyd y datganiad hwn yn unol ag egwyddorion ‘Tryloywder cydnabyddiaeth ariannol uwch reolwyr yn y sector cyhoeddus datganoledig yng Nghymru’ Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2016 a chanllawiau dilynol a gynhyrchwyd gan y Comisiwn Staff Gwasanaethau Cyhoeddus.

Andrew Goodall
Ysgrifennydd Parhaol

Egwyddorion

Egwyddorion Tâl

  • Bydd y system dâl yn fforddiadwy ac yn cynnig gwerth da am arian i drethdalwyr.
  • Bydd yn canolbwyntio ar sicrhau cyflog cyfartal i weithwyr a bydd camau’n cael eu cymryd i ymdrin â’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau, a’r bylchau o ran ethnigrwydd ac anabledd.
  • Bydd trefniadau tâl yn agored, yn dryloyw ac yn syml. Ceir gwared ag unrhyw gymhlethdod diangen.
  • Bydd datblygiad cyflog syml gyda graddfeydd cyflog cynyddrannol yn galluogi gweithwyr
  • i gyrraedd cyfradd gyflog eu rôl yn gyflym. Bydd y Cyflog Byw gwirioneddol (fel y’i diffinnir gan y Sefydliad Cyflog Byw) yn sail i gyfraddau cyflog a byddwn yn parhau i fod yn gyflogwr Cyflog Byw Gwirioneddol achrededig.

Fframwaith deddfwriaethol

Mae gan Lywodraeth Cymru bŵer i benodi staff dan adran 52 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006; ac mae’n cydymffurfio â’r holl ddeddfwriaeth gyflogaeth berthnasol wrth bennu cyflog a chydnabyddiaeth ariannol ei staff. Mae gan yr Ysgrifennydd Parhaol gyfrifoldebau dirprwyedig oddi wrth y Prif Weinidog dan Ddeddf y Gwasanaeth Sifil (Swyddogaethau Rheoli) 1992 ar gyfer swyddogaethau personél, gan gynnwys materion cyflogaeth.

Penderfyniadau gan gynnwys ystyried gwerth am arian

Mae’r Ysgrifennydd Parhaol yn gyfrifol am argymell trefniadau cyflog priodol ar gyfer staff dirprwyedig i’r Gweinidogion. Staff dirprwyedig yw gweithwyr ar lefelau Cymorth Tîm, Swyddog Gweithredol, Swyddog Gweithredol Uwch, Uwch-swyddog Gweithredol, Gradd 7 a Gradd 6. Yn sylfaen i’r trefniadau hyn, mae’r Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol yn gyfrifol am sicrhau bod Undebau Llafur yn chwarae rhan lawn yn y trafodaethau cyflog, mewn ysbryd o bartneriaeth gymdeithasol, a thrwy Gytundeb Bargeinio ar y Cyd.

Ar gyfer y mwyafrif helaeth o’r gweithwyr cyflogedig, Llywodraeth Cymru sy’n pennu telerau ac amodau eu gwasanaeth, gan gynnwys eu cyflog. Er hynny, yn unol â rheoliadau TUPE, efallai bod rhai aelodau staff o sefydliadau sydd wedi uno â’r Llywodraeth wedi dewis cadw telerau ac amodau gwasanaeth eu cyn-gyflogwyr. Nid yw trefniadau o’r fath yn dod o dan drefniadau bargeinio ar y cyd Llywodraeth Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru’n falch iawn o’r trefniadau cadarn i weithio mewn partneriaeth gyda chydweithwyr yn yr Undebau Llafur, ac yn gweithio’n agos gyda nhw ar faterion yn ymwneud â chyflog. Mae’r trefniadau ar gyfer ymgynghori a thrafod cyflog wedi’u hamlinellu mewn Cytundeb Bargeinio ar y Cyd.

Fel rheol bydd dyfarniadau cyflog i staff dirprwyedig yn cael eu trafod yn flynyddol, ond gellir cytuno ar drefniadau eraill, er enghraifft pan fo cytundebau presennol yn cwmpasu cyfnod estynedig.

Trefniadau cyflog

Gellir gweld bandiau cyflog Llywodraeth Cymru yn Atodiad 1. Bydd penodiadau newydd fel rheol yn cael eu recriwtio ar isafbwynt y band cyflog perthnasol. O dan rai amgylchiadau, er enghraifft lle bo tystiolaeth gref yn y farchnad yn bodoli, gall gweithiwr newydd gael ei benodi ar gyfradd uwch o fewn y raddfa. Yna mae’r cyflogau’n codi fesul cam bob blwyddyn nes cyrraedd yr uchafswm (fel rheol o fewn 2-3 blynedd). Os yw unigolyn yn tangyflawni yn ôl ei asesiad, nid yw’n gymwys i gael codiad cyflog cynyddrannol. Wrth gael dyrchafiad, y cyflog cychwynnol fydd isafbwynt y band cyflog ar gyfer y raddfa newydd. Gellir gweld sawl aelod o staff sydd ar bob gradd yn Atodiad 2.

Gellir gweld ystod cyflog yr Uwch Wasanaeth Sifil (a bennir gan Lywodraeth y DU) yn Atodiad 1.

Taliadau a lwfansau ychwanegol

Gan ddibynnu ar anghenion busnes, mae’n bosibl y bydd gweithwyr yn gymwys i gael y taliadau ychwanegol canlynol wrth gyflawni eu swyddogaethau – lwfans dyrchafiad dros dro, lwfansau proffesiynol, a chostau teithio a chynhaliaeth. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cyflogi nifer bach o staff yn Llundain sy’n cael lwfans i adlewyrchu cost ychwanegol byw a gweithio yn Llundain.

Cyflog uwch reolwyr

Rôl yr Ysgrifennydd Parhaol

Dechreuodd Andrew Goodall yn ei swydd fel Ysgrifennydd Parhaol ym mis Tachwedd 2021. Yr Ysgrifennydd Parhaol yw pennaeth Gwasanaeth Sifil Llywodraeth Cymru. Mae gan Lywodraeth Cymru gyllideb o £25.5bn, ac mae’n gyfrifol am amrywiaeth eang o wasanaethau cyhoeddus, gan gyflogi tua 5,659 o staff (cyfwerth ag amser llawn) ar 31 Mawrth 2022.

Mae’r Ysgrifennydd Parhaol yn cael ei benodi ar sail teilyngdod, yn sgil hysbysebu’r swydd yn gyhoeddus, gan banel sy’n cynnwys fel rheol Pennaeth y Gwasanaeth Sifil, un o Gomisiynwyr y Gwasanaeth Sifil a pherson annibynnol o’r tu allan i’r Gwasanaeth Sifil. Ar ôl iddo gael ei benodi, mae’r Ysgrifennydd Parhaol yn edrych yn benodol i’r Prif Weinidog am gyfarwyddyd, am ei flaenoriaethau personol ac am flaenoriaethau gwasanaeth sifil Llywodraeth Cymru.

Cyflog yr Ysgrifennydd Parhaol

Mae cyflog yr Ysgrifennydd Parhaol yn cael ei benderfynu gan Swyddfa’r Cabinet adeg ei benodiad ac yn cael ei gymeradwyo gan Brif Ysgrifennydd y Trysorlys. Ystod cyflog yr Ysgrifennydd Parhaol yw £215,000-£220,000. Cafodd Andrew Goodall ei benodi’n Ysgrifennydd Parhaol o 1 Tachwedd 2021 ac mae wedi’i secondio o Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. Ac yntau wedi’i gyflogi yn barhaol yn y GIG, mae Andrew yn dal i fod ar delerau ac amodau’r GIG ac mae’n gymwys i gael unrhyw ddyfarniadau cyflog GIG Cymru a wneir i’r raddfa gyflog y mae’n rhan ohoni. Bydd y rhain yn wahanol i ddyfarniadau cyflog a wneir i staff ar delerau ac amodau Llywodraeth Cymru.

Cyhoeddir manylion cyflog yr Ysgrifennydd Parhaol yn yr adroddiad cydnabyddiaeth ariannol blynyddol. Mae’n rhan o gyfrifon blynyddol Llywodraeth Cymru.

Senior staff

Daw swyddogaethau uwch-reolwyr o dan yr Uwch Wasanaeth Sifil (SCS) ar lefelau Dirprwy Gyfarwyddwr, Cyfarwyddwr, Cyfarwyddwr Cyffredinol ac Ysgrifennydd Parhaol. Nid yw cyflog yr Uwch Wasanaeth Sifil wedi’i ddirprwyo, sy’n golygu bod Llywodraeth Cymru’n dyfarnu cyflog iddynt yn unol â’r canllawiau a gynhyrchwyd gan Lywodraeth y DU, yn dilyn argymhellion gan y Corff Adolygu Cyflogau Uwch-swyddogion (SSRB). Ceir rhagor o wybodaeth am SSRB ar GOV.UK.

Pwyllgor Tâl Cydnabyddiaeth SCS Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am argymell penderfyniadau ynghylch cyflog a goruchwylio rheoli perfformiad, potensial a thalent yr uwch-swyddogion. Mae’r Pwyllgor yn sicrhau bod cydnabyddiaeth ariannol yn cael ei drin mewn ffordd deg a phriodol, ac yn unol â chanllawiau Swyddfa’r Cabinet. Mae gan y Pwyllgor rywfaint o hyblygrwydd i weithredu o fewn y canllawiau a bennwyd gan Swyddfa’r Cabinet, er enghraifft, nid yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud unrhyw daliadau sy’n amrywio yn ôl perfformiad (neu fonws) i gyflogeion SCS Llywodraeth Cymru ers 2013. Cyfarwyddwr Anweithredol sy’n cadeirio’r Pwyllgor. Ceir copi o adroddiad blynyddol y Pwyllgor Tâl Cydnabyddiaeth ar gyfer 2021/22 yn Atodiad 7. Mae’n cynnwys rhagor o wybodaeth am y Pwyllgor, ei gylch gorchwyl a’i aelodau.

Mae adroddiad datgelu ar gyfer staff sy’n ennill dros £100,000 wedi’i atodi yn Atodiad 4.

Mae Bwrdd Llywodraeth Cymru yn cynnwys uwch staff yn y sefydliad. Yr Ysgrifennydd Parhaol sy’n cadeirio’r Bwrdd, ac mae’n cyfarfod yn rheolaidd. Ei ddiben yw cynghori’r Ysgrifennydd Parhaol ar benderfyniadau strategol ynghylch datblygiad y sefydliad i gefnogi’r Cabinet a chyflawni amcanion y Gweinidogion. Cylch gorchwyl Bwrdd Llywodraeth Cymru

Ceir manylion cyflogau aelodau’r Bwrdd a’r Pwyllgor Gweithredol yn yr adroddiad blynyddol ar gydnabyddiaeth ariannol sy’n rhan o gyfrifon blynyddol cyfunol Llywodraeth Cymru.

Rheoli talent

Mae dull Llywodraeth Cymru o reoli talent yn sicrhau ein bod yn rhoi cyfle cyfartal i bawb arddangos eu potensial a’u cynnydd, a bod modd adnabod unigolion â photensial uchel a’u rheoli a’u datblygu mewn ffordd wahanol er mwyn eu gosod mewn swyddogaethau sy’n eu herio a’u hymestyn. O ganlyniad bydd staff talentog yn cael eu gosod yn y swyddi cywir gan sicrhau perfformiad cyson, cynaliadwy ar lefel uchel.

Mae nifer o gynlluniau datblygu talent hefyd ar gael i staff Llywodraeth Cymru ar bob lefel, gan gynnwys cymryd rhan mewn nifer o gyfleoedd ar draws y Gwasanaeth Sifil, fel y Llwybr Carlam; Cynllun Arweinwyr y Dyfodol; a’r Cynllun Uwch Arweinwyr. Mae amrywiaeth o gynlluniau datblygu mewnol ar gael hefyd i ategu amcan y sefydliad i fod yn batrwm o ran cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.

Cyflog sy’n seiliedig ar berfformiad

Nid yw Llywodraeth Cymru’n cynnig cyflog sy’n seiliedig ar berfformiad i’w staff dirprwyedig.

Ar gyfer staff uwch, mae rhywfaint o hyblygrwydd gan Bwyllgor Tâl Cydnabyddiaeth SCS i gynnig taliadau sy’n amrywio yn ôl perfformiad (neu fonws) i gyflogeion SCS. Er hynny, nid yw’r Pwyllgor wedi gwneud unrhyw daliad o’r fath ers 2013.

Cyflog cyfartal ac adrodd ar y bwlch cyflog ar sail cydraddoldeb

Mae Llywodraeth Cymru’n cynnal archwiliadau cyflog cyfartal yn rheolaidd i amlygu unrhyw berygl i gyflog cyfartal o fewn y system gyflogau. Mae ein bwlch cyflog rhwng y rhywiau’n cael ei gyhoeddi yn Adroddiad Cydraddoldeb Blynyddol y Cyflogwr. Mae’r adroddiadau i’w gweld yma: adroddiadau cydraddoldeb blynyddol Llywodraeth Cymru.

Mae bwlch cyflog cymedrig rhwng y rhywiau Llywodraeth Cymru ar 31 Mawrth 2022 yn 6.40% sy’n golygu bod dynion sy’n gweithio yn y sefydliad yn ennill 6.40% yn fwy na menywod ar gyfartaledd. Ar 31 Mawrth 2022, bwlch tâl canolrifol Llywodraeth Cymru yw 0%, sy’n golygu bod y cyflog canolrifol i ddynion ac i fenywod sy’n gweithio yn Llywodraeth Cymru yr un peth.

Y bwlch cyflog a gyhoeddwyd gennym ar 31 Mawrth 2021 oedd 7.37%. Mae ein methodoleg ar gyfer cyfrifo’r bwlch cyflog wedi’i ddiwygio ychydig ar gyfer 2022 i’w wneud yn symlach ac yn fwy tryloyw, ond mae’n golygu nad oes modd cymharu ffigurau 2021 a 2022 yn uniongyrchol. Mae’r ffigur ar gyfer 2021 wedi’i ailgyfrifo gan ddefnyddio’r fethodoleg ddiwygiedig. Mae hyn yn rhoi ffigur diwygiedig o 7.02% ar gyfer y bwlch cyflog cymedrig rhwng y rhywiau ar gyfer 31 Mawrth 2021. Gan ddefnyddio’r ffigurau hyn y gellir eu cymharu’n uniongyrchol, bu gostyngiad o 0.61% pwynt canrannol ym mwlch cyflog cymedrig rhwng y rhywiau Llywodraeth Cymru yn 2021-22.

Er bod y sefydliad yn cyflogi mwy o fenywod na dynion yn gyffredinol, nid ydynt wedi’u rhannu’n gyfartal rhwng y graddau. Menywod yw’r mwyafrif o’r staff ar raddau is. Roedd dyfarniad cyflog staff Llywodraeth Cymru yn 2021-22 wedi’i dargedu at ein graddau is, gyda staff o Gymorth Tîm i radd Swyddog Gweithredol Uwch yn cael codiad cyflog o 2-3.9% yn dibynnu ar gyflog tra cafodd staff ar raddau uwch godiad o 1%. Mae hyn wedi helpu i gau’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau.

Byddwn yn parhau i gymryd camau i fynd i’r afael â’n bwlch cyflog rhwng y rhywiau drwy helpu menywod ar bob lefel o’r sefydliad i ddatblygu eu gyrfaoedd a chamu ymlaen ynddynt a thrwy barhau â’n hymdrechion i greu Uwch Wasanaeth Sifil sy’n gytbwys o ran y rhywiau.

Eleni, am y tro cyntaf, rydym yn gallu cyhoeddi bylchau cyflog ar sail anabledd ac ethnigrwydd. Mae bwlch cyflog anabledd Llywodraeth Cymru ar 31 Mawrth 2022 yn 5.85% sy’n golygu bod y rhai nad ydynt yn anabl yn ennill 5.85% yn fwy ar gyfartaledd na’r rhai sy’n anabl. Ar 31 Mawrth 2022, mae bwlch cyflog anabledd canolrifol Llywodraeth Cymru yn 0% sy’n golygu bod y cyflog canolrifol yr un peth i gydweithwyr sy’n anabl a’r rhai nad ydynt yn anabl.

Mae bwlch cyflog ethnigrwydd cymedrig Llywodraeth Cymru ar 31 Mawrth 2022 yn 5.38% sy’n golygu bod y rhai sy’n dod o gefndir Gwyn yn ennill 5.38% yn fwy ar gyfartaledd na’r rhai sydd o gefndir Du, Asiaidd neu Ethnig Leiafrifol. Ar 31 Mawrth 2022, mae bwlch cyflog ethnigrwydd canolrifol Llywodraeth Cymru yn 0% sy’n golygu bod y cyflog canolrifol yr un peth ar gyfer cydweithwyr o gefndir Gwyn a chydweithwyr o gefndir Du, Asiaidd neu Ethnig Leiafrifol.

Cymorth i staff sy’n cael cyflogau is

Un o brif egwyddorion Llywodraeth Cymru yw canolbwyntio ar roi sylw i gyflogau isel a chefnogi’r Cyflog Byw.

Mae Llywodraeth Cymru yn gyflogwr Cyflog Byw achrededig ac mae’r holl staff sydd wedi’u cyflogi’n uniongyrchol (gan gynnwys prentisiaid) yn derbyn y Cyflog Byw yn unol â diffiniad y Sefydliad Cyflog Byw. Cymerir camau bob blwyddyn i sicrhau bod cyflogau’n parhau i gydymffurfio ag unrhyw newidiadau i gyfraddau sy’n cael eu diffinio gan y Sefydliad Cyflog Byw.

Mae ein trefniadau Cyflog Byw yn mynd ymhellach na’r staff sy’n cael eu cyflogi’n uniongyrchol gennym.

Ym mhob un o gaffaeliadau newydd Llywodraeth Cymru ystyrir y cyfle i’n contractwyr dalu Cyflog Byw i’r staff.

Pwyntiau cyflog uchaf ac isaf

Y cyflog isaf o fewn Llywodraeth Cymru yw’r gyfradd gychwynnol o fewn ystod cyflog Cymorth Tîm.

Yr aelod staff sy’n cael y cyflog uchaf ar hyn o bryd yw’r Ysgrifennydd Parhaol. Mae’r cymariaethau cyflog (yn Atodiad 3) felly, yn ymwneud â chyflogau’r Ysgrifennydd Parhaol, a chyflogau staff dirprwyedig.

Polisi ymadael

Er mwyn helpu i ddatblygu’r sefydliad mae’n bosibl y bydd Llywodraeth Cymru o bryd i’w gilydd yn cynnig diswyddiadau gwirfoddol. O dan amgylchiadau o’r fath bydd gweithwyr yn cael cynnig iawndal o fewn fframwaith a osodwyd yng Nghynllun Iawndal y Gwasanaeth Sifil. Mae’r holl ddiswyddiadau yn cael eu hategu gan achos busnes sy’n cynnwys dadansoddiad cost a budd.

Swyddi oddi ar y gyflogres

Ceir manylion trefniadau Llywodraeth Cymru oddi ar y gyflogres yn Atodiadau 5 a 6.

Atodiadau

Ategir y datganiad hwn gan yr atodiadau canlynol (gwybodaeth ar 31 Mawrth 2022):

Atodiad 1: Bandiau cyflog Llywodraeth Cymru (Staff Dirprwyedig a’r Uwch Wasanaeth Sifil)
Atodiad 2: Manylion y graddau staffio
Atodiad 3: Cymharu cyflogau o fewn Llywodraeth Cymru
Atodiad 4: Adroddiad cyflogau uwch swyddogion Llywodraeth Cymru
Atodiad 5: Swyddi oddi ar y gyflogres sy’n para yn fwy na chwe mis
Atodiad 6: Swyddi oddi ar y gyflogres aelodau’r Bwrdd/uwch swyddogion â chyfrifoldeb ariannol
Atodiad 7: Adroddiad Blynyddol Pwyllgor Tâl Cydnabyddiaeth SCS Llywodraeth Cymru 2021-22

Atodiad 1: Bandiau cyflog Llywodraeth Cymru (Staff Dirprwyedig a’r Uwch Wasanaeth Sifil)overnment Pay Bands (Delegated Staff and Senior Civil Service) – 1 April 2021 – 31 March 2022

Mae bandiau cyflog yr Uwch Wasanaeth Sifil yn cael eu pennu gan Swyddfa’r Cabinet Llywodraeth y DU.

Bandiau Cyflog: Uwch Wasanaeth Sifil Pwynt cyflog Cyflog
Yr Ysgrifennydd Parhaol (Haen 1, 2 a 3) [troednodyn 1] Uchafswm
Isafswm
£200,000
£142,000
Cyfarwyddwyr Cyffredinol (Band Cyflog 3 SCS) [troednodyn 2] Uchafswm
Isafswm
£208,1002
£120,000
Cyfarwyddwr (Band Cyflog 2 SCS) Uchafswm
Isafswm
£162,500
£93,000
Dirprwy Gyfarwyddwr (Band Cyflog 1 SCS) Uchafswm
Isafswm
£117,800
£71,000
Bandiau Cyflog: Staff Dirprwyedig Pwynt cyflog Cyflog
Gradd 6 4
3
2
1
£75,480
£70,390
£66,900
£64,520
Gradd 7 4
3
2
1
£61,440
£57,190
£54,280
£51,380
Uwch-swyddog Gweithredol 4
3
2
1
£47,470
£44,200
£41,980
£40,100
Swyddog Gweithredol Uwch 4
3
2
1
£38,160
£35,180
£33,190
£31,210
Swyddog Gweithredol 3
2
1
£29,430
£26,820
£25,860
Cymorth Tîm 3
2
1
£24,630
£22,960
£21,300

Atodiad 2: Manylion y graddau staffio

Dadansoddiad o raddau staffio ar 31 Mawrth 2022
Bandiau cyflog Cyfwerth ag Amser Llawn
Uwch Wasanaeth Sifil 182.1
Gradd 6 246.0
Gradd 7 922.7
Uwch-swyddog Gweithredol 1,236.6
Swyddog Gweithredol Uwch 1,404.8
Swyddog Gweithredol 981.0
Cymorth Tîm 656.8
Arall 29.9
Cyfanswm (wedi’i dalgrynnu) 5,660

Atodiad 3: Cymharu cyflogau o fewn Llywodraeth Cymru

Y cyflog isaf o fewn Llywodraeth Cymru yw’r gyfradd gychwynnol o fewn ystod cyflog Cymorth Tîm. Yr aelod staff sy’n cael y cyflog uchaf ar hyn o bryd yw rôl ar lefel Ysgrifennydd Parhaol. Mae’r cymariaethau cyflog, felly, yn ymwneud â’r Ysgrifennydd Parhaol a’r ystod uchaf ac isaf o gyflogau Cyfarwyddwyr Cyffredinol.

Gan i dâl cydnabyddiaeth y cyn Ysgrifennydd Parhaol gael ei leihau o 1 Ebrill 2018 pan ddewisodd ddod â’i chyfraniadau pensiwn i ben ac i elwa ar ei phensiwn, mae’r gymhariaeth o un flwyddyn i’r llall yn achos y berthynas â’r cyflog canolrifol felly yn cael ei hystumio am yr effaith hon ac am y newid i’r Ysgrifennydd Parhaol o 1 Tachwedd 2021 ymlaen. Yn 2021-22 y cyfarwyddwr sy’n cael y cyflog uchaf hefyd yw’r Ysgrifennydd Parhaol. Nid oes angen datgeliadau ychwanegol felly ar gyfer yr Ysgrifennydd Parhaol yn achos y datgeliadau canlynol.

Mae’r cymarebau yn y tabl isod yn cael eu cyfrifo drwy ddefnyddio cyflog gwirioneddol y cyflogai ar y cyflog isaf a’r cyflog canolrifol gwirioneddol, wedi’i rannu â phwynt canol y bandio cyflog ar gyfer y cyflogai ar y cyflog uchaf a’r Cyfarwyddwyr Cyffredinol.

Lluosrif cyflog Cymhareb
Cymhareb Isel i Uchel Y lluosrif rhwng cyflog blynyddol y gweithiwr isaf ei gyflog (£20,000-£25,000) ac uchaf ei gyflog (£215,000-£220,000) 1 i 10.21
Cymhareb Isel i Gyfarwyddwr Cyffredinol Y lluosrif rhwng cyflog blynyddol y gweithiwr isaf ei gyflog (£20,000-£25,000) a’r Cyfarwyddwyr Cyffredinol
(Cyflog uchaf – £125,000-£130,000)
(Cyflog isaf – £120,000-£125,000)
Uchaf: 1 i 5.99
Isaf: 1 i 5.75
Cymhareb Canolrifol i Uchel Y lluosrif rhwng cyflog canolrifol (£38,160) Llywodraeth Cymru a’r cyflogai ar y cyflog uchaf (£215,000-£220,000) 1 i 5.70
Cymhareb Canolrifol i Gyfarwyddwr Cyffredinol Y lluosrif rhwng cyflog canolrifol (£38,160) Llywodraeth Cymru a’r Cyfarwyddwyr Cyffredinol
(Cyflog uchaf – £125,000-£130,000)
(Cyflog isaf – £120,000-£125,000)
Uchaf: 1 i 3.34
Isaf: 1 i 3.21

Dangosir y berthynas rhwng cyflog y cyfarwyddwr sy’n cael y cyflog uchaf a’r chwarteli isaf, canolrifol ac uchaf isod:Dangosir y berthynas rhwng cyflog y cyfarwyddwr sy’n cael y cyflog uchaf a’r chwarteli isaf, canolrifol ac uchaf isod:

Blwyddyn   25ain canradd Canolrif 75ain canradd
2021-22 Cymhareb Tâl (:1) 7.4 5.7 4.6
Tâl cydnabyddiaeth y chwartel (£) 29,430 38,160 47,470
2020-21 Cymhareb Tâl (:1) 7.2 5.5 4.4
  Tâl cydnabyddiaeth y chwartel (£) 28,850 37,410 47,000

Yn 2021-22 a 2020-21 ni chafodd unrhyw gyflogeion dâl cydnabyddiaeth yn uwch na’r cyfarwyddwr y talwyd y swm uchaf iddo.

Mae’n ofynnol bellach i gyrff adrodd nodi canran y newid i’r tâl cydnabyddiaeth o’r flwyddyn ariannol flaenorol ar gyfer y cyfarwyddwr sy’n cael y tâl uchaf; a’r newid canrannol cyfartalog ers y flwyddyn ariannol flaenorol mewn perthynas â chyflogeion yr endid yn ei grynswth.

Blwyddyn 2021-22

  • Newid canrannol tâl: y cyfarwyddwr ar y cyflog uchaf = 4.8%
  • Newid canrannol cyfartalog tâl: cyflogeion yn eu crynswth = 2.3%

Cafodd dyfarniad tâl Llywodraeth Cymru yn 2021-22 ei rannu yn dibynnu ar gyflog. Cafodd staff sy’n ennill llai na £24,000 gynnydd o £800. Cafodd staff sy’n ennill rhwng £24,001 a £40,000 gynnydd o 2%. Cafodd staff sy’n ennill rhwng £40,001 a £80,000 gynnydd o 1%. Cafodd staff sy’n ennill dros £80,000 gynnydd o £800. Roedd yr Uwch Wasanaeth Sifil yn destun seibiant cyflog Llywodraeth y DU yn 2021-22, gan olygu nad oedd dyfarniad cyflog SCS. Fel yr esboniwyd uchod, mae’r Ysgrifennydd Parhaol ar delerau ac amodau GIG Cymru ac yn cael dyfarniadau tâl GIG Cymru fel y bo’n briodol, yn hytrach na dyfarniadau tâl SCS Llywodraeth Cymru.

Mae’r cyfrifiad gofynnol ar gyfer canran y cyfarwyddwr sy’n cael y cyflog uchaf, yn cymharu pwynt canol y band tâl cydnabyddiaeth 2021-22 £215,000-£220,000 (2020-21: £205,000-£210,000), yn hytrach na’r newid canrannol yn y cyflog gwirioneddol. Gall defnyddio pwynt canol y band ar gyfer y cyfrifiad ystumio’r cyfrifiad o’i gymharu â’r dyfarniad gwirioneddol a dderbyniwyd, os y newid gwirioneddol yw symud unigolyn o ben uchaf band mewn un flwyddyn i ben isaf band yn y flwyddyn nesaf. Ar gyfer 2021-22 mae’r newid canrannol tâl sy’n deillio o’r cyfrifiad hwn yn uwch na’r dyfarniad cyflog a dderbyniwyd gan y cyfarwyddwr sy’n cael y cyflog uchaf.

Atodiad 4: Adroddiad cyflogau uwch swyddogion Llywodraeth Cymru

Ystod cyflog gwirioneddol os yn rhan amser £000 = Ddim yn berthnasol i unrhyw staff uwch

Cyflogau Uwch-reolwyr Llywodraeth Cymru ar 31 Mawrth 2022 – Swyddogion Llywodraeth Cymru sy’n ennill £100,000 neu fwy mewn bandiau o £5,000
Cyflogai (Gwryw/Benyw) Ystod cyflog (£000) Disgrifiad
Francis Atherton (G) 200-205 Y Gyfarwyddiaeth Polisi Iechyd
Gillian Baranski (B) 125-130 Arolygiaeth Gofal Cymru
Piers Bisson (G) 100-105 Trefniadau Pontio Ewropeaidd
Simon Brindle (G) 100-105 Cyfarwyddwr Adfer ac Ailgychwyn
Nigel Brown (G) 105-110 CAFCASS Cymru
Tracey Burke (B) 125-130 Cyfarwyddwr Cyffredinol – yr Adran Addysg a Sgiliau
Desmond Clifford (G) 125-130 Cyfarwyddwr Cyffredinol – Swyddfa’r Prif Weinidog
Gian Currado (G) 100-105 Y Grŵp Rhaglenni Ewropeaidd
Jo-Anne Daniels (B) 100-105 Profi, Olrhain, Diogelu
Huw Davies (G) 100-105 Swyddfa’r Cwnsleriaid Deddfwriaethol
Manon Davies (B) 100-105 Swyddfa’r Cwnsleriaid Deddfwriaethol
Simon Dean (G) 130-135 Cyflawni a Pherfformiad
Gawain Evans (G) 105-110 Cyllid a Masnachol
Sioned Evans (B) 100-105 Busnesau a Rhanbarthau
Christianne Glossop (B) 105-110 Swyddfa’r Prif Swyddog Milfeddygol
Peter Halligan (G) 105-110 Polisi Gwyddoniaeth
Albert Heaney (G) 130-135 Gwasanaethau Cymdeithasol ac Integreiddio
Dylan Hughes (G) 105-110 Swyddfa’r Cwnsleriaid Deddfwriaethol
Andrew Jeffreys (G) 100-105 Y Trysorlys
Chris Jones (G) 165-170 Ansawdd Gofal Iechyd
Peter Jones (G) 100-105 Iechyd y Cyhoedd
Peter Kennedy (G) 100-105 Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol
Helen Lentle (B) 100-105 Grŵp Swyddfa’r Cwnsler Cyffredinol
Clemency Macnamara (B) 100-105 Swyddfa’r Cwnsleriaid Deddfwriaethol
Neil Martin (G) 100-105 Swyddfa’r Cwnsleriaid Deddfwriaethol
Marcella Maxwell (B) 100-105 Cyllid a Gweithrediadau
Dean Medcraft (G) 105-110 Cyllid a Gweithrediadau
Reg Mitchell-Kilpatrick (G) 120-125 Llywodraeth Leol
Shan Morgan (B) [troednodyn 3] 160-165 Ysgrifennydd Parhaol
Huw Morris (G) 120-125 Cyfarwyddwr Grŵp
Timothy Render (G) 100-105 Y Grŵp Rhaglenni Ewropeaidd
Peter Ryland (G) 100-105 Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru
Andrew Slade (G) 125-130 Y Grŵp Datblygu Economaidd
Jason Thomas (G) 100-105 Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth
David Warrender (G) 105-110 Seilwaith Digidol
John Coyne (G) 110-115 Caffael Masnachol
Cyflogau amser-llawn dros £100,000 lle talwyd llai na £100,000
Cyflogai (Gwryw/Benyw) Ystod cyflog (£000) Disgrifiad Ystod cyflog gwirioneddol os yn rhan amser £000
Claire Bennett (B) 100-105 Cymunedau a Threchu Tlodi 95-100
Colette Bridgman (B) 100-105 Gofal Sylfaenol 45-50
Frances Duffy (B 100-105 Gofal Sylfaenol a Gwyddor Iechyd 40-45
Sara Hayes (B) 115-120 Grŵp Cyfarwyddiaeth y GIG 15-20
John Howells (G) 110-115 Uned y Cytundeb Cydweithio 80-85
Joanna Jordan (B) 100-105 Iechyd Meddwl, Grwpiau sy’n Agored i Niwed a Llywodraethu’r GIG 60-65
Terence Kowal (G) 100-105 Swyddfa’r Cwnsleriaid Deddfwriaethol 95-100
Carla Lyne (B) 100-105 Tîm Gweithrediadau EPS 95-100
David Richards (G) 105-110 Llywodraethiant a Pherfformiad 75-80
Daniel Stephens (G) 110-115 Y Gangen Gwasanaethau Tân 70-75
Lorraine Williams (B) 100-105 Yr Adran Ddiwylliant 95-100

Atodiad 5: Swyddi oddi ar y gyflogres sy’n para yn fwy na chwe mis

Ar gyfer pob swydd oddi ar y gyflogres ar 31 Mawrth 2022 ac am fwy na £245 y dydd
  Cyfanswm Yr Economi CSA RA EWL HSS FLG SJ CC
Nifer y swyddi presennol ar 31 Mawrth 2021 110 9 19 13 6 50 9 1 3
O’r rhain...
Nifer sydd wedi bodoli am lai na blwyddyn adeg yr adroddiad 46 6 12 2 0 23 1 0 2
Nifer sydd wedi bodoli rhwng blwyddyn a dwy flynedd adeg yr adroddiad 20 0 2 6 0 12 0 0 0
Nifer sydd wedi bodoli rhwng dwy a thair blynedd adeg yr adroddiad 17 2 3 1 1 9 1 0 0
Nifer sydd wedi bodoli rhwng tair a phedair blynedd adeg yr adroddiad 12 0 1 0 3 2 4 1 1
Nifer sydd wedi bodoli am bedair blynedd neu fwy adeg yr adroddiad 15 1 1 4 2 4 3 0 0

Mae’r holl swyddi presennol oddi ar y gyflogres, a amlinellir uchod, wedi cael eu hasesu rywbryd i weld a oes angen sicrwydd bod yr unigolyn yn talu’r swm cywir o dreth a, lle bo angen, mae’r sicrwydd hwnnw wedi’i geisio.

Atodiad 6: Swyddi oddi ar y gyflogres aelodau’r Bwrdd/uwch swyddogion â chyfrifoldeb ariannol

Ar gyfer swyddi oddi ar y gyflogres ar gyfer uwch swyddogion a/neu aelodau o’r bwrdd â chyfrifoldeb ariannol sylweddol, rhwng 1 Ebrill 2021 a 31 Mawrth 2022
  Cyfanswm Yr Economi CSA RA EWL HSS FLG SJ CC
Nifer y swyddi oddi ar y gyflogres ar gyfer uwch swyddogion a/neu aelodau bwrdd â chyfrifoldeb ariannol sylweddol, yn ystod y flwyddyn ariannol. 4 0 1 0 0 3 0 0 0

Atodiad 7: Adroddiad Blynyddol Pwyllgor Tâl Cydnabyddiaeth SCS Llywodraeth Cymru 2021-22

Crynodeb

Teitl y papur

Pwyllgor Tâl Cydnabyddiaeth yr Uwch Wasanaeth Sifil (SCS): Adroddiad Blynyddol 2021-2022

Diben y papur

Mae’r adroddiad hwn yn rhoi crynodeb o’r materion a ystyriwyd gan Bwyllgor Tâl Cydnabyddiaeth SCS ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2021 a 31 Mawrth 2022.

Camau sy’n ofynnol gan y Bwrdd

Dim angen penderfyniad. Gwahoddir y Bwrdd i drafod yr adroddiad.

Swyddog sy’n cyflwyno’r papur

Ellen Donovan, Cyfarwyddwr Anweithredol a Chadeirydd Pwyllgor Tâl Cydnabyddiaeth SCS.

Paratowyd y papur gan

Evelyn Edwards.

Cyhoeddi

Dylai’r papur hwn gael ei gyhoeddi.

1. Cefndir

1.1 Mae’r adroddiad hwn yn edrych ar y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2021 a 31 Mawrth 2022. Cyfarfu’r Pwyllgor 7 gwaith yn ystod y cyfnod adrodd ar y dyddiadau canlynol:

  • 8 Mehefin 2021
  • 15 Gorffennaf 2021
  • 27 Medi 2021
  • 21 Hydref 2021
  • 2 Rhagfyr 2021
  • 10 Ionawr 2022
  • 18 Mawrth 2022

1.2 Roedd presenoldeb aelodau’r Pwyllgor yn y cyfarfodydd sy’n cael sylw yn yr adroddiad hwn fel a ganlyn:

Enw Nifer y cyfarfodydd a fynychwyd
Shan Morgan, yr Ysgrifennydd Parhaol 3 o 3
Andrew Goodall Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd/ Prif Weithredwr y GIG 2 o 4
Andrew Goodall yr Ysgrifennydd Parhaol (cyfarfod cyntaf fel Ysgrifennydd Parhaol 2 Rhagfyr) 3 o 3
Tracey Burke Cyfarwyddwr Cyffredinol Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus 6
Andrew Slade Cyfarwyddwr Cyffredinol yr Economi, Sgiliau ac Adnoddau Naturiol 5
Des Clifford Cyfarwyddwr Cyffredinol, Swyddfa’r Prif Weinidog 5
Judith Paget Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd/ Prif Weithredwr y GIG (cyfarfod cyntaf 10 Ionawr) 2 o 2
Ellen Donovan (Cadeirydd) Cyfarwyddwr Anweithredol 7
Meena Upadhyaya Cyfarwyddwr Anweithredol 7
Gareth Lynn Cyfarwyddwr Anweithredol 7
Peter Kennedy, Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol 7

1.3 Gellir gweld Cylch Gorchwyl y Pwyllgor a Rhestr o’r Aelodau yn Atodiad A.

1.4 Bu’r Pwyllgor yn ystyried y materion canlynol yn ystod y flwyddyn:

  • Adroddiad ac argymhellion y Bwrdd Adolygu Cyflogau Uwch- swyddogion ar gyflogau SCS, anghysondebau cyflog o fewn bandiau cyflog SCS a chynigion Swyddfa’r Cabinet ar gyflogau i SCS ar sail gallu.
  • Goblygiadau parhaus COVID-19 ar staffio SCS gan gynnwys Ailgychwyn ac Adfer.
  • Cynllunio ar gyfer olyniaeth i Gyfarwyddwyr.
  • Sut y bydd y sefydliad yn edrych yn y dyfodol.
  • Rheoli perfformiad SCS, gan gynnwys cymedroli a system rheoli perfformiad newydd ar gyfer 21/22.
  • Ymgeiswyr Llywodraeth Cymru ar gyfer anrhydeddau’r wladwriaeth.
  • Y broses recriwtio ar gyfer holl swyddi SCS Wasanaeth Sifil a oedd naill ai wedi dod yn wag neu a oedd yn swyddi newydd, gan gynnwys a ddylid hysbysebu’r swyddi’n fewnol neu’n allanol, pennu’r ystod cyflog, ac a ddylid defnyddio trefniadau chwilio gweithredol. Roedd hyn yn cynnwys ystyried yr holl geisiadau TDA i’r SCS ac, os oedd TDA yn cael ei gymeradwyo, y llwybr ar gyfer llenwi’r TDA hwnnw.
  • Adolygu ystadegau cynllun recriwtio generig ar gyfer Dirprwy Gyfarwyddwyr.
  • Symleiddio a safoni’r trefniadau cymeradwyo a’r llwybrau adnoddau ar gyfer rolau SCS.

2. Crynodeb gan y Cadeirydd

2.1 Mae’r Pwyllgor yn parhau i ganolbwyntio ar oruchwylio strategaeth gyflogau SCS, gan roi sylw arbennig i’r defnydd o’r hyblygrwydd sy’n rhan o’r system a chydraddoldeb o ran tâl.

2.2 Y prif ffocws arall yw recriwtio a chyfrif pennau SCS, gan gynnwys her ar leoliad swyddi, cyllidebau a strwythurau, i gynnwys adolygiad blynyddol o ystadegau.

2.3 Nodau’r Cadeirydd – ymhlith fy nodau ar gyfer y flwyddyn i ddod mae’r canlynol:

  • Cefnogi’r Ysgrifennydd Parhaol gyda’i Raglen Datblygu Sefydliadol LlC 2025, Gwella Effeithlonrwydd, Mentrau Gweithio’n Glyfar a Blaenoriaethu Adnoddau.
  • Ymrwymiad i gynllun Gweithredu Gwrth-hiliol Cymru, cynyddu amrywiaeth SCS a datblygu’r Strategaeth Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant 2021-2026.
  • Ymrwymiad parhaus i ddefnyddio’r model cymdeithasol o anabledd yn y sefydliad.
  • Cynnal pedwar cyfarfod strategol y flwyddyn i gyd-fynd â’r amserlen ar gyfer gwneud penderfyniadau ehangach.
  • Rôl Cyfarwyddwyr Anweithredol mewn rheoli talent.
  • Parhau i sicrhau bod olynwyr ar gyfer holl swyddi allweddol SCS a monitro gwybodaeth reoli a thueddiadau ar gyfer staffio a swyddi SCS.

2.4 Rwyf yn ddiolchgar i aelodau’r Pwyllgor am eu cyfraniadau i’r holl faterion a phenderfyniadau; eu hystyriaethau gofalus a’u sylwadau cytbwys, sy’n ein helpu i sicrhau ein bod yn ymdrin â’r materion ger ein bron mewn ffordd sensitif, deg, cyson a phrydlon er mwyn bodloni anghenion y sefydliad. Rwyf yn ddiolchgar hefyd i Peter Kennedy, Sonia Morgan, Evelyn Edwards a’i thîm am eu gwaith yn cefnogi’r Pwyllgor ac yn ei helpu i gyflawni ei ddyletswyddau’n effeithiol.

3. Goblygiadau o ran Adnoddau

3.1 Diweddariad yw hwn, ac mae pob un o’r meysydd a’r materion a godwyd yn dod o dan yr adnoddau ariannol a staffio presennol.

4. Risgiau

4.1 Mae pob risg yn cael ei gofnodi yn briodol a’i fonitro mewn cofrestr risg ar wahân.

5. Cyfathrebu

5.1 Bydd yr adroddiad hwn yn cael ei gyhoeddi ar y fewnrwyd yn ogystal â’r rhyngrwyd.

6. Materion cydymffurfio cyffredinol

6.1 Dim.

Pwyllgor Tâl Cydnabyddiaeth Yr Uwch Wasanaeth Sifil

Cylch gorchwyl

Byddwch cystal â nodi mai hwn yw’r cylch gorchwyl presennol ond ei fod yn cael ei adolygu a’i ddiweddaru fel rhan o’r gwaith i wella trefniadau llywodraethiant er mwyn mynd i’r afael ag argymhellion a wnaed gan Archwilio Cymru.

1. Mae Pwyllgor Tâl Cydnabyddiaeth yr Uwch Wasanaeth Sifil yn Is-bwyllgor o’r bwrdd. Cafodd ei sefydlu er mwyn:

  • Pennu a chyhoeddi Strategaeth Gyflogau SCS Llywodraeth Cymru, adrodd ar weithrediad y cylch cyflog ac ar unrhyw wersi ar gyfer y dyfodol, sicrhau bod y cynnydd cyfartalog i fil cyflogau SCS o fewn y gyllideb a bennir yn ganolog, monitro canlyniadau cyflogau er mwyn sicrhau bod modd cyfiawnhau unrhyw wahaniaeth.
  • Rhoi cyngor ffurfiol i’r Prif Weinidog er mwyn caniatáu iddo gyflawni ei gyfrifoldebau fel Gweinidog y Gwasanaeth Sifil yng Nghymru.
  • Goruchwylio prosesau asesu a chymedroli aelodau’r Uwch Wasanaeth Sifil.
  • Penderfynu a ddylai cyflogau unigol gael eu codi, a faint, yn dilyn cynnydd yn sgôr JESP (yn unol â chanllawiau Swyddfa’r Cabinet).
  • Cytuno ar y prosesau recriwtio ar gyfer holl swyddi SCS a chytuno fesul achos ar bennu cyflogau cychwynnol uwch ben isafswm amrediadau cyflog SCS.

Aelodaeth

2. Dyma aelodau presennol y Pwyllgor:

  • Yr Ysgrifennydd Parhaol
  • Tri Chyfarwyddwr Anweithredol gan gynnwys y Cadeirydd
  • Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd/Prif Weithredwr y GIG
  • Cyfarwyddwr Cyffredinol Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus
  • Cyfarwyddwr Cyffredinol yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol
  • Cyfarwyddwr Cyffredinol Swyddfa’r Prif Weinidog
  • Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol
  • Ysgrifenyddiaeth Adnoddau Dynol

Troednodiadau

1. Roedd Andrew Goodall yn Gyfarwyddwr Cyffredinol y Grwp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Phrif Weithredwr GIG Cymru am y cyfnod 1 Ebrill 2021 i 31 Hydref 2021, ac wedyn yn Ysgrifennydd Parhaol rhwng 1 Tachwedd 2021 a 31 Mawrth 2022. Mae ei fand cyflog o £215,000 i £220,000 yn adlewyrchu cyfanswm y taliadau a gafodd ar gyfer y ddwy rôl hynny yn y flwyddyn. Ei Gyflog Cyfwerth ag Amser Llawn cymaradwy fel Ysgrifennydd Parhaol yw £215,000 i £220,000. Mae Andrew Goodall wedi’i secondio o Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ac mae wedi dewis peidio â chael ei gynnwys yn nhrefniadau Pensiwn y GIG. Dychwelyd

2. Penodwyd Judith Paget yn Gyfarwyddwr Cyffredinol, y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Phrif Weithredwr GIG Cymru o 1 Tachwedd 2021. Ei chyflog Cyfwerth ag Amser Llawn cymaradwy yw £215,000 i £220,000. Mae hi ar secondiad o Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ac yn rhan o gynllun pensiwn y GIG. Dychwelyd

3. Ymddiswyddodd Shan Morgan fel Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru ar 31 Hydref 2021. Dewisodd ddod â’i chyfraniadau pensiwn i ben ac i elwa ar ei phensiwn ar 31 Mawrth 2018. Yn unol â rheolau Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil, cafodd ei chyflog ei leihau o 1 Ebrill 2018 ymlaen. Wrth ymadael cafodd daliad o £80,519 yn ymwneud â thâl yn lle rhybudd, gwyliau blynyddol heb eu cymryd a thaliad allgontractiol o £39,123 (y cafodd £30,289 ohono ei gronni ar 31 Mawrth 2021 fel rhan o’r croniad Buddion Cyflogeion cyffredinol) mewn perthynas â diwrnodau rhan-ymddeoliad y bu Shan yn gweithio arnynt, heb dâl – mae hyn wedi’i gynnwys o fewn y datgeliad wedi’i fandio hwn. Roedd ei chyflog wedi cael ei leihau ers 1 Ebrill 2018 pan ddewisodd hi ddod â’i chyfraniadau pensiwn i ben ac elwa ar ei phensiwn. Fel rheol, pan fo unigolyn yn dewis rhoi’r gorau i gyfrannu at ei bensiwn ac i elwa ar ei bensiwn, mae oriau’n cael eu lleihau i gyd-fynd â’r cyflog wedi’i leihau. Yn yr achos hwn, roedd gofynion eithriadol pandemig COVID yn ei gwneud yn ofynnol iddi weithio’n amser llawn ac ar benwythnosau heb unrhyw gyfle i fanteisio ar diwrnodau ymddeoliad rhannol. Yr arfer a ddisgwylid yn yr amgylchiadau hyn fyddai i unigolion adfer y diwrnodau a weithiwyd drwy gymryd gwyliau ychwanegol unwaith y bydd y pwysau eithriadol wedi dod i ben. Yn achos yr Ysgrifennydd Parhaol, cafodd ei dyddiad ymadael y cytunwyd arno ei ddwyn ymlaen; o’r herwydd, nid oedd cyfle i’r diwrnodau hynny gael eu cymryd. Dychwelyd