Neidio i'r prif gynnwy

Crynodeb

Dyma wythfed datganiad polisi tâl blynyddol Llywodraeth Cymru.

Mae’r Datganiad Polisi Tâl hwn yn darparu’r fframwaith ar gyfer penderfyniadau ynghylch tâl, yn arbennig tâl uwch reolwyr. Mae’n cydategu gwybodaeth arall sydd wedi’i chyhoeddi ar ein gwefan, y gallwch ei gweld drwy’r dolenni isod. Os na allwch ddod o hyd i’r wybodaeth yr ydych yn chwilio amdani cysylltwch â cymorth@llyw.cymru.

Cyflwyniad

Rwyf yn falch o gyflwyno Datganiad Polisi Tâl 2023. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd system tâl a gwobrwyo sy’n caniatáu inni recriwtio a chadw staff talentog sydd wedi ymrwymo i gyflawni dros bobl Cymru, yn enwedig mewn cyfnod mor heriol.

Rwyf yn credu y dylai ein system dâl fod yn gyfartal i bawb, yn briodol, yn dryloyw, rhoi gwerth am arian a gwobrwyo staff yn deg am y gwaith y maent yn ei gyflawni. Yn ogystal â chyflog, mae Llywodraeth Cymru’n cynnig amrywiaeth eang o fuddion ariannol ac anariannol yn y gweithle. Mae’r rhain yn cynnwys aelodaeth o Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil, mynediad at drefniadau blaenswm cyflog ac aberthu cyflog, cyfleoedd dysgu a datblygu eithriadol a chynlluniau llesiant gweithwyr yn ogystal â ffyrdd o weithio sy’n adeiladu ar ddatblygiadau diweddar mewn technoleg a gweithio clyfar.

Mae’r datganiad hwn yn amlinellu sut rydym yn edrych ar gyflog a’r berthynas rhwng cyflogau gweithwyr a chydnabyddiaeth ariannol i uwch reolwyr. Fe’i lluniwyd yn unol â’r egwyddorion a gynhwysir yn nogfen Llywodraeth Cymru ‘Tryloywder cydnabyddiaeth ariannol uwch reolwyr yn y sector cyhoeddus datganoledig yng Nghymru’ a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2016 a chanllawiau dilynol a gynhyrchwyd gan y Comisiwn Staff Gwasanaethau Cyhoeddus.

Andrew Goodall
Ysgrifennydd Parhaol

Egwyddorion

Egwyddorion tâl

  • Bydd y system dâl yn fforddiadwy ac yn cynnig gwerth da am arian i drethdalwyr.
  • Bydd yn canolbwyntio ar sicrhau cyflog cyfartal i weithwyr a bydd camau’n cael eu cymryd i ymdrin â’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau, a’r bylchau o ran ethnigrwydd ac anabledd.
  • Bydd trefniadau tâl yn agored, yn dryloyw ac yn syml. Ceir gwared ag unrhyw gymhlethdod diangen.
  • Bydd datblygiad cyflog syml gyda graddfeydd cyflog cynyddrannol yn galluogi gweithwyr i gyrraedd cyfradd gyflog eu rôl yn gyflym.
  • Bydd y Cyflog Byw gwirioneddol (fel y’i diffinnir gan y Sefydliad Cyflog Byw) yn sail i gyfraddau cyflog a byddwn yn parhau i fod yn gyflogwr Cyflog Byw Gwirioneddol achrededig.

Fframwaith deddfwriaethol

Mae gan Lywodraeth Cymru bŵer i benodi staff o dan adran 52 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006; ac mae’n cydymffurfio â’r holl ddeddfwriaeth gyflogaeth berthnasol wrth bennu cyflog a chydnabyddiaeth ariannol ei staff. Mae gan yr Ysgrifennydd Parhaol gyfrifoldebau dirprwyedig oddi wrth y Prif Weinidog dan Ddeddf y Gwasanaeth Sifil (Swyddogaethau Rheoli) 1992 ar gyfer swyddogaethau personél, gan gynnwys materion cyflogaeth.

Penderfyniadau gan gynnwys ystyried gwerth am arian

Yr Ysgrifennydd Parhaol yw pennaeth y Gwasanaeth Sifil yng Nghymru ac mae’n gweithredu fel Prif Swyddog Cyfrifyddu Llywodraeth Cymru. Mae’r Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol yn gyfrifol am argymell trefniadau tâl priodol ar gyfer staff dirprwyedig i’r Gweinidogion. Staff dirprwyedig yw cyflogeion ar lefelau Cymorth Tîm, Swyddog Gweithredol, Swyddog Gweithredol Uwch, Uwch-swyddog Gweithredol, Gradd 7 a Gradd 6. Yn sail i’r trefniadau hyn, mae’r Cyfarwyddwr AD yn gyfrifol am ddarparu cyngor a chanllawiau arbenigol ar holl faterion AD a materion sy’n ymwneud â thâl, ac am sicrhau bod yr Undebau Llafur yn cymryd rhan lawn mewn trafodaethau tâl yn ysbryd partneriaeth gymdeithasol a thrwy Gytundeb Bargeinio ar y Cyd.

Ar gyfer y mwyafrif helaeth o’r gweithwyr cyflogedig, Llywodraeth Cymru sy’n pennu telerau ac amodau eu gwasanaeth, gan gynnwys eu cyflog. Er hynny, yn unol â rheoliadau TUPE, efallai fod rhai aelodau staff o sefydliadau sydd wedi uno â’r Llywodraeth wedi dewis cadw telerau ac amodau gwasanaeth eu cyn-gyflogwr. Nid yw trefniadau o’r fath yn dod o dan drefniadau bargeinio ar y cyd Llywodraeth Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru’n falch iawn o’n trefniadau cadarn i weithio mewn partneriaeth â chydweithwyr yn yr Undebau Llafur, ac yn cydweithio’n agos â hwy ar faterion sy’n ymwneud â chyflog. Mae’r trefniadau ar gyfer ymgynghori a thrafod cyflog wedi’u hamlinellu mewn Cytundeb Bargeinio ar y Cyd.

Fel rheol bydd dyfarniadau tâl i staff dirprwyedig yn cael eu negodi yn flynyddol, ond gellir cytuno ar drefniadau eraill, er enghraifft pan fo cytundebau presennol yn cwmpasu cyfnod estynedig.

Trefniadau cyflog

Gellir gweld bandiau cyflog Llywodraeth Cymru yn Atodiad 1. Mae penodiadau newydd yn cael eu recriwtio fel rheol ar isafbwynt y band cyflog perthnasol. O dan rai amgylchiadau, er enghraifft lle bo tystiolaeth gref yn y farchnad yn bodoli, gall gweithiwr newydd gael ei benodi ar gyfradd uwch o fewn y raddfa. Yna mae’r cyflogau’n codi fesul cam bob blwyddyn nes cyrraedd yr uchafswm (fel rheol o fewn 2-3 blynedd). Os yw unigolyn yn tangyflawni yn ôl ei asesiad, nid yw’n gymwys i gael codiad cyflog cynyddrannol. Wrth gael dyrchafiad, y cyflog cychwynnol fydd isafbwynt y band cyflog ar gyfer y raddfa newydd. Gellir gweld sawl aelod o staff sydd ar bob gradd yn Atodiad 2.

Gellir gweld ystod cyflog yr Uwch Wasanaeth Sifil (a bennir gan Lywodraeth y DU) yn Atodiad 1.

Taliadau a Lwfansau Ychwanegol

Gan ddibynnu ar anghenion busnes, mae’n bosibl y bydd gweithwyr yn gymwys i gael y taliadau ychwanegol canlynol wrth gyflawni eu swyddogaethau – lwfans dyrchafiad dros dro, lwfansau proffesiynol, a chostau teithio a chynhaliaeth. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cyflogi nifer bach o staff sydd wedi’u lleoli yn Llundain sy’n cael lwfans i adlewyrchu cost ychwanegol byw a gweithio yn Llundain.

Tâl uwch reolwyr

Rôl yr Ysgrifennydd Parhaol

Dechreuodd Andrew Goodall yn ei swydd fel Ysgrifennydd Parhaol ym mis Tachwedd 2021. Yr Ysgrifennydd Parhaol yw pennaeth Gwasanaeth Sifil Llywodraeth Cymru. Mae gan Lywodraeth Cymru gyllideb o £22.887 biliwn ar gyfer 2022-2023, ac mae’n gyfrifol am amrywiaeth eang o wasanaethau cyhoeddus gan gyflogi tua 5,700 o staff (cyfwerth ag amser llawn) ar 31 Mawrth 2023.

Mae’r Ysgrifennydd Parhaol yn cael ei benodi ar sail teilyngdod, yn sgil hysbysebu’r swydd yn gyhoeddus, gan banel sy’n cynnwys fel rheol Pennaeth y Gwasanaeth Sifil, un o Gomisiynwyr y Gwasanaeth Sifil a pherson annibynnol o’r tu allan i’r Gwasanaeth Sifil. Ar ôl iddo gael ei benodi, mae’r Ysgrifennydd Parhaol yn edrych yn benodol i’r Prif Weinidog am gyfarwyddyd, am ei flaenoriaethau personol ac am flaenoriaethau gwasanaeth sifil Llywodraeth Cymru.

Cyflog yr Ysgrifennydd Parhaol

Mae cyflog yr Ysgrifennydd Parhaol yn cael ei benderfynu gan Swyddfa’r Cabinet adeg ei benodiad ac yn cael ei gymeradwyo gan Brif Ysgrifennydd y Trysorlys. Ystod cyflog yr Ysgrifennydd Parhaol yw £215,000- £220,000. Cafodd Andrew Goodall ei benodi’n Ysgrifennydd Parhaol o 1 Tachwedd 2021 ac mae wedi’i secondio o Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. Ac yntau wedi’i gyflogi yn barhaol yn y GIG, mae Andrew yn dal i fod ar delerau ac amodau’r GIG ac mae’n gymwys i gael unrhyw ddyfarniadau cyflog GIG Cymru a wneir i’r raddfa gyflog y mae’n rhan ohoni. Bydd y rhain yn wahanol i ddyfarniadau cyflog a wneir i staff ar delerau ac amodau Llywodraeth Cymru.

Cyhoeddir manylion cyflog yr Ysgrifennydd Parhaol yn yr adroddiad blynyddol ar gydnabyddiaeth ariannol. Mae hyn yn rhan o gyfrifon blynyddol Llywodraeth Cymru.

Uwch staff

Daw swyddogaethau uwch-reolwyr o dan yr Uwch Wasanaeth Sifil ar lefelau Dirprwy Gyfarwyddwr, Cyfarwyddwr, Cyfarwyddwr Cyffredinol ac Ysgrifennydd Parhaol. Nid yw tâl yr Uwch Wasanaeth Sifil wedi’i ddirprwyo, sy’n golygu bod Llywodraeth Cymru’n dyfarnu cyflog iddynt yn unol â’r canllawiau a gynhyrchwyd gan Lywodraeth y DU, yn dilyn argymhellion gan y Corff Adolygu Cyflogau Uwch-swyddogion (SSRB). Ceir gwybodaeth bellach am SSRB ar GOV.UK.

Pwyllgor Cydnabyddiaeth Ariannol yr Uwch Wasanaeth Sifil sy’n gyfrifol am dâl ac amodau’r Uwch Wasanaeth Sifil (SCS), goruchwylio cynllunio ar gyfer olyniaeth a recriwtio a holl achosion personél SCS. Mae’r Pwyllgor yn sicrhau bod cydnabyddiaeth ariannol yn cael ei drin mewn ffordd deg a phriodol, ac yn unol â chanllawiau Swyddfa’r Cabinet. Mae’r Pwyllgor yn gynghorol ac mae ganddo rywfaint o hyblygrwydd i weithredu o fewn y canllawiau a bennwyd gan Swyddfa’r Cabinet, er enghraifft, nid yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud unrhyw daliadau sy’n amrywio yn ôl perfformiad (neu fonws) i gyflogeion Uwch Wasanaeth Sifil Llywodraeth Cymru ers 2013. Yr Ysgrifennydd Parhaol fel Pennaeth y Gwasanaeth Sifil a’r Prif Swyddog Cyfrifyddu sy’n penderfynu ar dâl ac amodau SCS Llywodraeth Cymru, ac mae’n cael ei gynghori gan y Pwyllgor, ac eithrio mewn rhai amgylchiadau lle mae angen cymeradwyaeth Swyddfa’r Cabinet. Mae’r Pwyllgor yn cyfarfod chwe gwaith y flwyddyn ac yn cael ei gadeirio gan Gyfarwyddwr Anweithredol. Ceir copi o adroddiad blynyddol y Pwyllgor Tâl Cydnabyddiaeth ar gyfer 2022/2023 yn Atodiad 7. Mae’n cynnwys rhagor o wybodaeth am y Pwyllgor, ei gylch gorchwyl a’i aelodau.

Mae adroddiad datgelu ar gyfer staff sy’n ennill dros £100,000 wedi’i atodi yn Atodiad 4.

Mae Bwrdd Llywodraeth Cymru yn cynnwys uwch staff o fewn y sefydliad a Chyfarwyddwyr Anweithredol. Yr Ysgrifennydd Parhaol sy’n cadeirio’r Bwrdd, ac mae’n cyfarfod yn rheolaidd. Ei ddiben yw cynghori’r Ysgrifennydd Parhaol ar benderfyniadau strategol ynghylch datblygiad y sefydliad i gefnogi’r Cabinet a chyflawni amcanion y Gweinidogion (Cylch gorchwyl Bwrdd Llywodraeth Cymru).

Ceir manylion cyflogau aelodau’r Bwrdd a’r Pwyllgor Gweithredol yn yr adroddiad blynyddol ar gydnabyddiaeth ariannol sy’n rhan o gyfrifon blynyddol cyfunol Llywodraeth Cymru.

Rheoli talent

Mae dull Llywodraeth Cymru o reoli talent yn sicrhau ein bod yn rhoi cyfle cyfartal i bawb arddangos eu potensial a’u cynnydd, a bod modd adnabod unigolion â photensial uchel a’u rheoli a’u datblygu mewn ffordd wahanol er mwyn eu gosod mewn swyddogaethau sy’n eu herio a’u hymestyn. O ganlyniad bydd staff talentog yn cael eu gosod yn y swyddi cywir gan sicrhau perfformiad cyson, cynaliadwy ar lefel uchel.

Mae nifer o gynlluniau datblygu talent hefyd ar gael i staff Llywodraeth Cymru ar bob lefel, gan gynnwys cymryd rhan mewn nifer o gyfleoedd ar draws y Gwasanaeth Sifil, fel y Llwybr Carlam; Cynllun Arweinwyr y Dyfodol; a’r Cynllun Uwch Arweinwyr. Mae amrywiaeth o gynlluniau datblygu mewnol ar gael hefyd i ategu amcan y sefydliad i fod yn batrwm o ran cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.

Cyflog sy’n seiliedig ar berfformiad

Nid yw Llywodraeth Cymru’n cynnig cyflog sy’n seiliedig ar berfformiad i staff dirprwyedig.

Ar gyfer staff uwch, mae rhywfaint o hyblygrwydd gan Bwyllgor Tâl Cydnabyddiaeth SCS i gynnig taliadau sy’n amrywio yn ôl perfformiad (neu fonws) i gyflogeion SCS. Er hynny, nid yw’r Pwyllgor wedi gwneud unrhyw daliadau o’r fath ers 2013. 

Adrodd ar gyflog cyfartal a’r bwlch cyflog ar sail cydraddoldeb

Mae Llywodraeth Cymru’n cynnal archwiliadau cyflog cyfartal yn rheolaidd i amlygu unrhyw berygl i gyflog cyfartal o fewn y system gyflogau. Mae ein bwlch cyflog rhwng y rhywiau’n cael ei gyhoeddi yn Adroddiad Cydraddoldeb Blynyddol y Cyflogwr. Mae’r adroddiadau i’w gweld yma: Adroddiadau cydraddoldeb blynyddol Llywodraeth Cymru .

Gwneir dadansoddiad o gyflog cyfartal gan Wasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi Llywodraeth Cymru i sicrhau bod data’n ystadegol gadarn ac yn gymaradwy.

Ni fydd niferoedd y staff a nodir isod yn cyfateb i’r ffigur FTE a nodwyd yn gynharach yn yr adroddiad hwn, gan fod y data’n cael ei adrodd ar gyfer staff nad ydynt yn FTE a bydd y cwestiwn a oes data penodol wedi’i ddatgan gan ganiatáu ar gyfer dadansoddi yn effeithio ar y niferoedd.

Bwlch cyflog rhwng y rhywiau

Mae’r ffigurau isod yn seiliedig ar gyfanswm o 5,900 o staff: sef 3,543 o fenywod (60%) a 2,357 o ddynion (40%).

Cymedr bwlch cyflog rhwng y rhywiau Llywodraeth Cymru: Mawrth 2023
 Cyflog cyfartalog (cymedrig) menywodCyflog cyfartalog (cymedrig) gwrywodBwlch cyflog cymedrig rhwng y rhywiau
Cyflog£42,660£45,2725.77%
Tâl yr awr£22.17£23.535.77%
Bwlch cyflog rhwng y rhywiau Llywodraeth Cymru: Mawrth 2023
 Cyflog canolrifol menywodCyflog canolrifol gwrywodBwlch cyflog canolrifol rhwng y rhywiau
Cyflog£39,690£39,6900.00%
Tâl yr awr£20.63£20.630.00%

Mae bwlch cyflog rhwng y rhywiau Llywodraeth Cymru wedi lleihau o 6.40% ym mis Mawrth 2022 i 5.77% ym mis Mawrth 2023. Ar y cyfan, mae’r bwlch wedi bod yn lleihau dros amser, ac eithrio ym mis Mawrth 2021 pan fu cynnydd.

Mae’n debygol mai un ffactor sy’n cyfrannu at y bwlch cyflog rhwng y rhywiau yw’r cyfrannau is o fenywod ar raddau uwch.

Bwlch cyflog ar sail ethnigrwydd

Mae’r ffigurau isod yn seiliedig ar gyfanswm o 5,521 o staff: 188 o staff Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol (3%) a 5,333 o staff Gwyn (97%). Cafodd 379 o staff sydd heb ddatgan eu hethnigrwydd ar y system AD eu hepgor.

Bwlch cyflog cymedrig ethnigrwydd Llywodraeth Cymru: Mawrth 2023
 Cyflog cyfartalog (cymedrig) lleiafrifoedd ethnigCyflog cyfartalog (cymedrig) GwynBwlch cyflog cymedrig ar sail ethnigrwydd
Cyflog£42,004£43,8144.13%
Tâl yr awr£22.17£23.534.13%
Bwlch cyflog canolrif ethnigrwydd Llywodraeth Cymru: Mawrth 2023
 Cyflog canolrifol lleiafrifoedd ethnigCyflog canolrifol GwynBwlch cyflog cymedrig ar sail ethnigrwydd
Cyflog£39,690£39,6900.00%
Tâl yr awr£20.63£20.630.00%

Mae bwlch cyflog ar sail ethnigrwydd Llywodraeth Cymru wedi lleihau o 5.38% ym mis Mawrth 2022 i 4.13% ym mis Mawrth 2023. Cynyddodd y bwlch cyflog ethnigrwydd rhwng mis Mawrth 2019 a mis Mawrth 2021, ac mae wedi lleihau ers hynny.

Gall newidiadau bach yn y cymysgedd graddau gael effaith fawr o gofio’r niferoedd bach, felly mae’n bosibl bod cynnydd yn niferoedd y staff ar raddau uwch a’r ffaith bod staff wedi cael eu recriwtio ar raddau is wedi cael effaith. Felly, gallem ddisgwyl i’r bwlch cyflog ar sail ethnigrwydd fod braidd yn anwadal dros amser ac felly dylid bod yn ofalus wrth ddehongli newidiadau dros amser.

Bwlch cyflog anabledd

Mae’r ffigurau isod yn seiliedig ar gyfanswm o 5,387 o staff: Dywedodd 388 eu bod yn anabl (7%) a dywedodd 4,999 nad oeddent yn anabl (93%). Cafodd 513 o staff sydd heb ddatgan a ydynt yn anabl ar y system AD eu hepgor.

Bwlch cyflog cymedrig Llywodraeth Cymru ar gyfer pobl anabl: Mawrth 2023
 Cyflog cyfartalog (cymedrig) pobl anablCyflog cyfartalog (cymedrig) pobl nad ydynt yn anablBwlch cyflog cymedrig ar sail anabledd
Cyflog£41,534£44,1075.83%
Tâl yr awr£21.59£22.925.83%
Bwlch cyflog canolrifol Llywodraeth Cymru ar gyfer anabledd: Mawrth 2023
 Cyflog canolrifol pobl anablCyflog canolrifol pobl nad ydynt yn anablBwlch cyflog cymedrig ar sail anabledd
Cyflog£39,690£39,6900.00%
Tâl yr awr£20.63£20.630.00%

Nid yw bwlch cyflog anabledd Llywodraeth Cymru wedi newid fawr ddim rhwng mis Mawrth 2022 a mis Mawrth 2023, gan leihau fymryn o 5.85% i 5.83%. Ar y cyfan, mae’r bwlch wedi bod yn lleihau dros amser, ac eithrio cynnydd bach ym mis Mawrth 2021.

Gallai’r bwlch cyflog sydd wedi culhau dros y blynyddoedd gael ei ysgogi gan y cynnydd yn nifer y staff anabl ar raddau uwch.

Cymorth i staff sy’n cael tâl is

Un o brif egwyddorion Llywodraeth Cymru yw canolbwyntio ar roi sylw i gyflogau isel a chefnogi’r Cyflog Byw.

Mae Llywodraeth Cymru yn gyflogwr Cyflog Byw achrededig ac mae’r holl staff sydd wedi’u cyflogi’n uniongyrchol (gan gynnwys prentisiaid) yn derbyn y Cyflog Byw yn unol â diffiniad y Sefydliad Cyflog Byw. Cymerir camau bob blwyddyn i sicrhau bod cyflogau’n parhau i gydymffurfio ag unrhyw newidiadau i gyfraddau sy’n cael eu diffinio gan y Sefydliad Cyflog Byw.

Mae ein trefniadau Cyflog Byw yn mynd ymhellach na’r staff sy’n cael eu cyflogi’n uniongyrchol gennym. Ym mhob un o gaffaeliadau newydd Llywodraeth Cymru ystyrir y cyfle i’n contractwyr dalu Cyflog Byw i’r staff.

Pwyntiau cyflog uchaf ac isaf

Y cyflog isaf o fewn Llywodraeth Cymru yw’r gyfradd gychwynnol o fewn ystod cyflog Cymorth Tîm. Yr aelod staff sy’n cael y cyflog uchaf ar hyn o bryd yw’r Ysgrifennydd Parhaol. Mae’r cymariaethau cyflog (yn Atodiad 3) felly, yn ymwneud â chyflogau’r Ysgrifennydd Parhaol, a chyflogau staff dirprwyedig.

Polisi ymadael

Er mwyn helpu i ddatblygu’r sefydliad mae’n bosibl y bydd Llywodraeth Cymru o bryd i’w gilydd yn cynnig diswyddiadau gwirfoddol. O dan amgylchiadau o’r fath bydd cyflogeion yn cael cynnig iawndal o fewn fframwaith a nodir yng Nghynllun Iawndal y Gwasanaeth Sifil. Mae’r holl ddiswyddiadau yn cael eu hategu gan achos busnes sy’n cynnwys dadansoddiad cost a budd.

Swyddi oddi ar y gyflogres

Ceir manylion trefniadau Llywodraeth Cymru oddi ar y gyflogres yn Atodiadau 5 a 6.

Atodiadau

Ategir y datganiad hwn gan yr atodiadau canlynol (gwybodaeth ar 31 Mawrth 2023):

  • Atodiad 1: bandiau cyflog Llywodraeth Cymru (Staff Dirprwyedig a’r Uwch Wasanaeth Sifil)
  • Atodiad 2: manylion y graddau staffio
  • Atodiad 3: cymharu cyflogau o fewn Llywodraeth Cymru
  • Atodiad 4: adroddiad cyflogau uwch-swyddogion Llywodraeth Cymru
  • Atodiad 5: swyddi oddi ar y gyflogres sy’n para yn fwy na chwe mis
  • Atodiad 6: swyddi oddi ar y gyflogres aelodau’r Bwrdd / uwch-swyddogion â chyfrifoldeb ariannol
  • Atodiad 7: Adroddiad Blynyddol Pwyllgor Tâl Cydnabyddiaeth SCS Llywodraeth Cymru 2022-2023.

Atodiad 1: Bandiau cyflog Llywodraeth Cymru (Staff Dirprwyedig a’r Uwch Wasanaeth Sifil): 1 Ebrill 2022 – 31 Mawrth 2023

Bandiau Cyflog: yr Uwch Wasanaeth Sifil

Mae bandiau cyflog yr Uwch Wasanaeth Sifil yn cael eu pennu gan Swyddfa’r Cabinet Llywodraeth y DU.

Yr Ysgrifennydd Parhaol (Haen 1, 2 a 3)

  • Uchafswm pwynt cyflog: £200,000
  • Isafswm pwynt cyflog: £150,000

Cyfarwyddwyr Cyffredinol (Band Cyflog 3 SCS)

  • Uchafswm pwynt cyflog: £208,1002
  • Isafswm pwynt cyflog: £125,000

Cyfarwyddwyr Cyffredinol (Band Cyflog 2 SCS)

  • Uchafswm pwynt cyflog: £162,500
  • Isafswm pwynt cyflog: £95,000

Dirprwy Gyfarwyddwr (Band Cyflog 1 SCS)

  • Uchafswm pwynt cyflog: £117,800
  • Isafswm pwynt cyflog: £73,000

Bandiau Cyflog: Staff dirprwyedig

Gradd 6

  • Pwynt cyflog 4: £76,990
  • Pwynt cyflog 3: £71,800
  • Pwynt cyflog 2: £69,580
  • Pwynt cyflog 1: £67,100

Gradd 7

  • Pwynt cyflog 4: £63,900
  • Pwynt cyflog 3: £59,480
  • Pwynt cyflog 2: £56,450
  • Pwynt cyflog 1: £53,440

Uwch-swyddog Gweithredol

  • Pwynt cyflog 4: £49,370
  • Pwynt cyflog 3: £45,970
  • Pwynt cyflog 2: £43,660
  • Pwynt cyflog 1: £41,700

Swyddog Gweithredol Uwch

  • Pwynt cyflog 4: £39,690
  • Pwynt cyflog 3: £36,590
  • Pwynt cyflog 2: £34,520
  • Pwynt cyflog 1: £32,460

Swyddog Gweithredol

  • Pwynt cyflog 3: £30,610
  • Pwynt cyflog 2: £27,890
  • Pwynt cyflog 1: £26,900

Cymorth Tîm

  • Pwynt cyflog 3: £25,620
  • Pwynt cyflog 2: £23,880
  • Pwynt cyflog 1: £22,150

Atodiad 2: Dadansoddiad o raddau staffio – ar 31 Mawrth 2023

Band cyflog parhaol / Cyfwerth ag Amser Llawn

  • SCS1: 142.0
  • SCS2: 37.8
  • SCS3: 4.0
  • Gradd 6: 252.3
  • Gradd 7: 972.8
  • Uwch-swyddog Gweithredol: 1,299.2
  • Swyddog Gweithredol Uwch: 1,345.2
  • Swyddog Gweithredol: 980.5
  • Cymorth Tîm: 666.2

Atodiad 3: Cymharu cyflogau o fewn Llywodraeth Cymru – ar 31 Mawrth 2023

Y cyflog isaf o fewn Llywodraeth Cymru yw’r gyfradd gychwynnol o fewn ystod cyflog Cymorth Tîm. Yr aelod staff sy’n cael y cyflog uchaf ar hyn o bryd yw rôl ar lefel Ysgrifennydd Parhaol. Mae’r cymariaethau cyflog, felly, yn ymwneud â’r Ysgrifennydd Parhaol a’r ystod uchaf ac isaf o gyflogau Cyfarwyddwyr Cyffredinol.

Mae’r cymarebau yn y tabl isod yn cael eu cyfrifo drwy ddefnyddio cyflog gwirioneddol y cyflogai ar y cyflog isaf a’r cyflog canolrifol gwirioneddol, wedi’i rannu â phwynt canol y bandio cyflog ar gyfer y cyflogai ar y cyflog uchaf a’r Cyfarwyddwyr Cyffredinol.

Lluosrif cyflogCymhareb
Cymhareb Isel i UchelY gwahaniaeth rhwng cyflog blynyddol y gweithiwr isaf ei gyflog (£20,000-£25,000) ac uchaf ei gyflog (£25,000-£215,000)1 i 9.82
Cymhareb Isel i Gyfarwyddwr CyffredinolY lluosrif rhwng cyflog blynyddol y gweithiwr isaf ei gyflog (£20,000 - £25,000) a’r Cyfarwyddwyr Cyffredinol
(Cyflog uchaf – £125,000-£130,000)
(Cyflog isaf – £120,000-£125,000)
Uchaf: 1 i 5.76
Isaf: 1 i 5.53
Cymhareb Canolrifol i UchelY lluosrif rhwng cyflog canolrifol (£39,690) Llywodraeth Cymru a’r cyflogai ar y cyflog uchaf
(£215,000-£220,000)
1 i 5.48
Cymhareb Ganolrifol i Gyfarwyddwr CyffredinolY lluosrif rhwng cyflog canolrifol (£39,690) Llywodraeth Cymru a’r Cyfarwyddwyr Cyffredino
(Cyflog uchaf £125,000-£130,000)
(Cyflog isaf £120,000-£125,000)
Uchaf: 1 i 3.21
Isaf: 1 i 3.09

Dangosir y berthynas rhwng cyflog y cyfarwyddwr sy’n cael y cyflog uchaf a’r chwarteli isaf, canolrifol ac uchaf isod:

Blwyddyn 25ain CanraddCanolrif75ain Canradd 
2022-2023Cymhareb Tâl (:1)7.15.54.4
Tâl cydnabyddiaeth y chwartel (£)30,61039,69049,370
2021-2022Cymhareb Tâl (:1)7.45.74.6
 Tâl cydnabyddiaeth y chwartel (£)29,43038,16047,470

Yn 2022-2022 a 2021-2022 ni chafodd unrhyw gyflogeion dâl cydnabyddiaeth yn uwch na’r cyfarwyddwr ar y cyflog uchaf.

Mae’n ofynnol i gyrff adrodd nodi canran y newid i’r tâl cydnabyddiaeth o’r flwyddyn ariannol flaenorol ar gyfer y cyfarwyddwr sy’n cael y tâl uchaf; a’r newid canrannol cyfartalog ers y flwyddyn ariannol flaenorol mewn perthynas â chyflogeion yr endid yn ei grynswth.

Blwyddyn 2022-2023

  • Newid canrannol tâl: y cyfarwyddwr ar y cyflog uchaf = 0.0%
  • Newid canrannol cyfartalog tâl: cyflogeion yn eu crynswth = 5.43 %

Blwyddyn 2021-2022

  • Newid canrannol tâl: y cyfarwyddwr ar y cyflog uchaf = 4.8%
  • Newid canrannol cyfartalog tâl: cyflogeion yn eu crynswth = 2.3%

Dyfarniad cyflog Llywodraeth Cymru yn 2022-2023 oedd 4% i’r holl staff o Gymorth Tîm i Radd 6 pwynt 2. Cafodd staff ar Radd 6 pwyntiau 3 a 4 gynnydd cyflog cyfunol o 2% a thaliad untro heb ei gyfuno o 2%. Prif ddyfarniad cyflog yr Uwch Wasanaeth Sifil oedd 2% gydag 1% pellach ar gael ar gyfer mynd i’r afael ag anghysondebau cyflogau. Fel yr esboniwyd uchod, mae’r Ysgrifennydd Parhaol ar delerau ac amodau GIG Cymru ac yn cael dyfarniadau tâl GIG Cymru fel y bo’n briodol, yn hytrach na dyfarniadau tâl SCS Llywodraeth Cymru.

Mae’r cyfrifiad gofynnol ar gyfer canran y cyfarwyddwr sy’n cael y cyflog uchaf, yn cymharu pwynt canol y band tâl cydnabyddiaeth 2022-2023 £215,000 - £220,000 (2021-2022: £215,000 -£210,000), yn hytrach na’r newid canrannol yn y cyflog gwirioneddol. Gall defnyddio pwynt canol y band ar gyfer y cyfrifiad ystumio’r cyfrifiad o’i gymharu â’r dyfarniad gwirioneddol a dderbyniwyd, os y newid gwirioneddol yw symud unigolyn o ben uchaf band mewn un flwyddyn i ben isaf band yn y flwyddyn nesaf.

Atodiad 4: Cyflogau Uwch-reolwyr Llywodraeth Cymru

Ystod cyflog gwirioneddol os yn rhan-amser (£000) = Ddim yn berthnasol i unrhyw uwch staff

Cyflogai (Gwryw/Benyw)Ystod cyflog (£000)Disgrifiad
F Atherton (G)200-205Y Gyfarwyddiaeth Polisi Iechyd
GE Baranski (B)130-135Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC)
CJ Bennett (B)100-105Y Grŵp Rhaglenni Ewropeaidd
PJ Bisson (G)100-105Trefniadau Pontio Ewropeaidd
SJ Brindle (G)100-105Cyfarwyddwr Adfer ac Ailgychwyn
N Brown (G)105-110Yr Adran Datblygu Busnes
TM Burke (B)125-130Y Grŵp Datblygu Economaidd G3
DP Clifford (G)100-105Cynghorwyr Arbennig
JF Coyne (G)110-115Caffael Masnachol
GM Currado (G)100-105Y Grŵp Rhaglenni Ewropeaidd
J Daniels (B)100-105Cyfarwyddwr - AdAS
HG Davies (G)100-105Swyddfa'r Cwnsleriaid Deddfwriaethol
MW Davies (B)100-105Swyddfa'r Cwnsleriaid Deddfwriaethol
AJ Dickenson (G)110-115Gofal Sylfaenol
DG Evans (G)100-105Cyllid a Masnachol
S Evans (B)105-110Busnes a Rhanbarthau
AP Gwatkin (G)100-105Ymgysylltu Rhyngwladol
AL Heaney (G)135-140Gwasanaethau Cymdeithasol ac Integreiddio
DM Hughes (G)110-115Swyddfa'r Cwnsleriaid Deddfwriaethol
A Jeffreys (G)100-105Y Trysorlys L07
CJ Jones (G)115-120Ansawdd Gofal Iechyd
GD Jones (G)100-105Swyddfa’r Prif Swyddog Digidol
PL Jones (G)100-105Iechyd y Cyhoedd
PD Kennedy (G)100-105Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol
HA Lentle (F)100-105Grŵp Swyddfa'r Cwnsleriaid Cyffredinol
OR Lloyd (G)100-105Y Gyfarwyddiaeth Addysg
CA Macnamara (B)100-105Swyddfa'r Cwnsleriaid Deddfwriaethol
N Martin (G)100-105Swyddfa'r Cwnsleriaid Deddfwriaethol
DJ Medcraft (G)100-105Cyllid Corfforaethol a Pherfformiad
RT Mitchell-Kilpatrick (G)100-105Llywodraeth Leol
HJ Morris (G)125-130Cyfarwyddwr Grŵp
PW Ryland,  (G)100-105Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru
JE Salway (B)100-105Partneriaeth Gymdeithasol, Cyflogadwyedd a Gwaith Teg
A Slade (G)125-130Y Grŵp Datblygu Economaidd G3
JD Thomas (G)100-105Yr Adran Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth
Cyflogau amser llawn dros £100,000 ond y talwyd llai na £100,000 iddynt 
Cyflogai (Gwryw/Benyw)Ystod cyflog (£000)DisgrifiadYstod cyflog gwirioneddol os yn rhan-amser (£000)
JR Howells (G)110-115Ynni, Dŵr, a Llifogydd65-70
J Jordan (B)100-105Iechyd Meddwl, Grwpiau Agored i Niwed a Llywodraethiant y GIG55-60
C Lyne (B)100-105Is-adran Gweithrediadau ESJWL40-45
DT Richards (G)110-115Llywodraethiant a Pherfformiad55-60
DJ Stephens (G)115-120Y Gangen Gwasanaethau Tân75-80

Atodiad 5: Ymrwymiadau oddi ar y gyflogres sy'n para mwy na 6 mis

Ar gyfer pob swydd oddi ar y gyflogres ar 31 Mawrth 2023 ac am fwy na £245 y dydd
 Cyfanswm CCCRLGCSAESJWLETCHSSGRA
Nifer y swyddi presennol ar 31 Mawrth 2023.90140131841130
O’r rhain...
Nifer sydd wedi bodoli am lai na blwyddyn adeg yr adroddiad.50110590619
Nifer sydd wedi bodoli rhwng blwyddyn a dwy flynedd adeg yr adroddiad.211048053
Nifer sydd wedi bodoli rhwng dwy a thair blynedd adeg yr adroddiad.92001006
Nifer sydd wedi bodoli rhwng tair a phedair blynedd adeg yr adroddiad.00000000
Nifer sydd wedi bodoli am bedair blynedd neu fwy adeg yr adroddiad.100040402

Mae’r holl ymrwymiadau presennol oddi ar y gyflogres, a amlinellir uchod, wedi bod yn destun asesiad ar sail risg ar ryw adeg ynghylch a oes angen sicrwydd bod yr unigolyn yn talu’r swm cywir o dreth a, lle bo angen, mae sicrwydd wedi’i geisio.

Atodiad 6: Ymrwymiadau oddi ar gyflogres aelodau'r Bwrdd/uwch swyddogion sydd â chyfrifoldeb ariannol

Ar gyfer swyddi oddi ar y gyflogres ar gyfer uwch-swyddogion a/neu aelodau o’r bwrdd â chyfrifoldeb ariannol sylweddol, rhwng 1 Ebrill 2022 a 31 Mawrth 2023
 TotalEconomyCSARAEWLHSSFLGSJCC
Nifer y swyddi oddi ar y gyflogres ar gyfer uwch-swyddogion a/neu aelodau bwrdd â chyfrifoldeb ariannol sylweddol, yn ystod y flwyddyn ariannol.000003000

Atodiad 7: Pwyllgor Tâl cydnabyddiaeth yr Uwch Wasanaeth Sifil (SCS): Adroddiad Blynyddol 2022-2023

1. Cefndir

1.1 Mae’r adroddiad yn cwmpasu’r cyfnod o 1 Ebrill 2022 hyd 31 Mawrth 2023. M Cyfarfu’r Pwyllgor saith gwaith yn ystod y cyfnod adrodd ar y dyddiadau canlynol:

  • 29 Ebrill 2022
  • 29 Gorffennaf 2022
  • 2 Medi 2022
  • 21 Hydref 2022
  • 2 Rhagfyr 2022
  • 13 Ionawr 2023
  • 3 Mawrth 2023

1.2 Roedd presenoldeb aelodau’r Pwyllgor yn y cyfarfodydd sy’n cael sylw yn yr adroddiad hwn fel a ganlyn:

EnwNifer y cyfarfodydd a fynychwyd
Ellen Donovan, Cyfarwyddwr Anweithredol (Cadeirydd) (Cyfarfod olaf fel Cadeirydd - 3 Mawrth 2023)7
Andrew Goodall, yr Ysgrifennydd Parhaol7
Judith Paget, Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd/ Prif Weithredwr y GIG2 / 4
Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Newid Hinsawdd a Materion Gwledig6
Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol, yr Economi, y Trysorlys a’r Cyfansoddiad6
Jo-Anne Daniels, Cyfarwyddwr Cyffredinol Dros Dro Addysg a Chyfiawnder Cymdeithasol4
Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Adfer ar ôl Covid a Llywodraeth Leol4 / 4
Tim Moss, Y Prif Swyddog Gweithredu (cyfarfod cyntaf 2 Medi 2022)5 / 5
Peter Kennedy, Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol7
Meena Upadhyaya, Cyfarwyddwr Anweithredol7
Gareth Lynn, Cyfarwyddwr Anweithredol (daeth yn Gadeirydd ar ôl 3 Mawrth 2023)7
Aled Edwards, Cyfarwyddwr Anweithredol (daeth yn Gadeirydd ar ôl 3 Mawrth 2023)4 / 5

1.3 Gellir gweld Cylch Gorchwyl y Pwyllgor a Rhestr o’r Aelodau yn Atodiad A.

1.4 Bu’r Pwyllgor yn ystyried y materion canlynol yn ystod y flwyddyn:

  • Goblygiadau parhaus Covid-19 ar staffio SCS i gynnwys Ymchwiliad Covid.
  • Rheoleiddio staff SCS sy’n dal i weithio o dan yr hen drefniadau TDA ac unrhyw drefniadau y tu allan i raddau yn y dyfodol i SCS ddod o fewn polisi’r TPA.
  • Ystyried Polisi Peilot Oriau Blynyddol SCS.
  • Adroddiad ac argymhellion y Bwrdd Adolygu Cyflogau Uwch- swyddogion ar gyflogau SCS, anghysondebau cyflog o fewn bandiau cyflog SCS a chynigion Swyddfa’r Cabinet ar gyflogau ar sail gallu i SCS i gael eu hystyried ymhellach yn 2024.
  • Cynllunio ar gyfer olyniaeth i Gyfarwyddwyr.
  • Trefniadau rhan-ymddeoliad SCS.
  • Siâp y sefydliad yn y dyfodol i gynnwys y Fframwaith Dirprwyo.
  • Cyfleoedd Datblygu SCS (cynlluniau dysgu craidd a thalent) o fewn Strategaeth SCS fel rhan o strategaeth y gweithlu LlC2025.
  • Gwelliannau Llywodraethiant ac adolygu Cylch Gorchwyl y Pwyllgor Tâl Cydnabyddiaeth.
  • Rheoli perfformiad SCS, gan gynnwys cymedroli a system rheoli perfformiad newydd ar gyfer 22/23.
  • Ymgeiswyr Llywodraeth Cymru ar gyfer anrhydeddau’r wladwriaeth.
  • Y broses recriwtio ar gyfer holl swyddi SCS a oedd naill ai wedi dod yn wag neu a oedd yn swyddi newydd, gan gynnwys cytundeb o ran a ddylid hysbysebu’r swyddi’n fewnol neu’n allanol, pennu’r ystod cyflog, ac a ddylid defnyddio trefniadau chwilio gweithredol. Roedd hyn yn cynnwys ystyried yr holl geisiadau TDA/TPA i’r SCS ac, os oedd TDA/TPA yn cael ei gymeradwyo, y llwybr ar gyfer llenwi hwnnw.
  • Symleiddio a safoni’r trefniadau cymeradwyo a’r llwybrau adnoddau ar gyfer rolau SCS.

2. Crynodeb gan y Cadeirydd

2.1 Mae’r Pwyllgor yn parhau i ganolbwyntio ar oruchwylio strategaeth gyflogau SCS, gan roi sylw arbennig i’r defnydd o’r hyblygrwydd sy’n rhan o’r system a chydraddoldeb o ran tâl.

2.2 Y prif ffocws arall yw recriwtio a chyfrif pennau SCS, gan gynnwys her ar leoliad swyddi, cyllidebau a strwythurau, i gynnwys adolygiad blynyddol o ystadegau.

2.3 Nodau’r Cadeirydd - mae’r nodau ar gyfer y flwyddyn i ddod yn cynnwys:

  • Cefnogi’r Ysgrifennydd Parhaol gyda’i Raglen Lywodraethu LlC 2025, Gwella Effeithlonrwydd, Mentrau Gweithio’n Glyfar a Blaenoriaethu Adnoddau.
  • Ymrwymiad i gynllun Gweithredu Gwrth-hiliol Cymru, cynyddu amrywiaeth yn SCS a datblygu’r Strategaeth Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant 2021-2026.
  • Ymrwymiad parhaus i ddefnyddio’r model cymdeithasol o anabledd yn y sefydliad.
  • Cynnal pedwar cyfarfod strategol y flwyddyn i gyd-fynd â’r amserlen ar gyfer gwneud penderfyniadau ehangach.
  • Rôl Cyfarwyddwyr Anweithredol mewn Talent.
  • Parhau i sicrhau bod olynwyr ar gyfer holl swyddi allweddol SCS a monitro gwybodaeth reoli a thueddiadau ar gyfer staffio a swyddi SCS.
  • Rôl a gweithrediad posibl tâl sy’n seiliedig ar allu ar gyfer SCS.

2.4 Rwyf yn ddiolchgar i aelodau’r Pwyllgor am eu cyfraniadau at yr holl faterion a’r penderfyniadau yr ydym wedi’u gwneud; mae eu hystyriaethau gofalus a’u sylwadau cytbwys yn ein helpu i sicrhau ein bod yn ymdrin â’r materion ger ein bron mewn ffordd sensitif, deg, cyson a phrydlon er mwyn diwallu anghenion y sefydliad. Rwyf yn ddiolchgar hefyd i Peter Kennedy, Sonia Morgan, Evelyn Edwards, Peta Davies a’i thîm am eu gwaith i gefnogi’r Pwyllgor a’i helpu i gyflawni ei ddyletswyddau’n effeithiol.

3. Goblygiadau o ran adnoddau

3.1 Diweddariad yw hwn, ac mae pob un o’r meysydd a’r materion a godwyd yn dod o dan adnoddau ariannol a staffio presennol sy’n bodoli eisoes.

4. Risgiau

4.1 Mae pob risg yn cael ei gofnodi yn briodol a’i fonitro mewn cofrestr risg ar wahân.

5. Cyfathrebu

5.1 Bydd yr adroddiad hwn yn cael ei gyhoeddi ar y fewnrwyd yn ogystal â’r rhyngrwyd. 

6. Materion cydymffurfio cyffredinol

6.1 Dim.

Pwyllgor Tâl Cydnabyddiaeth yr Uwch Wasanaeth Sifil

Cylch gorchwyl

1. 1 Mae Pwyllgor Tâl Cydnabyddiaeth yr Uwch Wasanaeth Sifil yn Is-bwyllgor o’r Bwrdd. Cafodd ei sefydlu er mwyn:

  • Pennu a chyhoeddi Strategaeth Gyflogau SCS Llywodraeth Cymru, adrodd ar weithrediad y cylch cyflog ac ar unrhyw wersi ar gyfer y dyfodol, sicrhau bod y cynnydd cyfartalog i fil cyflogau SCS o fewn y gyllideb a bennir yn ganolog, monitro canlyniadau cyflogau er mwyn sicrhau bod modd cyfiawnhau unrhyw wahaniaeth.
  • Rhoi cyngor ffurfiol i’r Prif Weinidog er mwyn caniatáu iddo gyflawni ei gyfrifoldebau fel Gweinidog y Gwasanaeth Sifil yng Nghymru.
  • Goruchwylio prosesau asesu a chymedroli aelodau’r Uwch Wasanaeth Sifil.
  • Penderfynu a ddylai cyflogau unigol godi yn unol â’r cynnydd yn sgoriau JESP (yn ddarostyngedig i ganllawiau Swyddfa’r Cabinet), ac os felly, faint y dylent godi.
  • Cytuno ar y prosesau recriwtio ar gyfer holl swyddi SCS a chytuno fesul achos ar bennu cyflogau cychwynnol uwch ben isafswm amrediadau cyflog SCS.

Aelodaeth

2. 2 Dyma aelodau presennol y Pwyllgor:

  • Yr Ysgrifennydd Parhaol
  • Tri Chyfarwyddwr Anweithredol gan gynnwys y Cadeirydd
  • Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd/Prif Weithredwr y GIG
  • Cyfarwyddwr Cyffredinol Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus
  • Cyfarwyddwr Cyffredinol yr Economi, Sgiliau ac Adnoddau Naturiol
  • Cyfarwyddwr Cyffredinol Swyddfa’r Prif Weinidog
  • Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol
  • Ysgrifenyddiaeth Adnoddau Dynol