Neidio i'r prif gynnwy

“Mae pob un o’r rhai yr effeithiwyd arnynt yn yr ymosodiadau terfysgol ddoe ar Barcelona a Cambrils yn ein meddyliau heddiw."

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Awst 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

“Mae pob un o’r rhai yr effeithiwyd arnynt yn yr ymosodiadau terfysgol ddoe ar Barcelona a Cambrils yn ein meddyliau heddiw. Mae’n ddychrynllyd meddwl bod pobl gyffredin a oedd yn ymlacio ac yn mwynhau eu hunain yn medru cael eu targedu mewn ffordd mor filain.

“Mae Barcelona yn ddinas hardd sy’n croesawu ymwelwyr rhyngwladol â breichiau agored, gan gynnwys nifer o Gymru - ac wrth gwrs mae gennym gysylltiad â’r ddinas drwy Faes Awyr Caerdydd. Rwy’n annog unrhyw un sy’n ymweld â’r ardal ar hyn o bryd i ddilyn cyngor yr awdurdodau lleol a chadw llygad ar gyfrif trydar a gwefan y swyddfa dramor i gael rhagor o wybodaeth.

“Wrth gwrs, mae hefyd nifer o gysylltiadau hanesyddol a diwylliannol rhwng Cymru a Chatalwnia, ac fe hoffwn gloi drwy fynegi fy nghydymdeimlad dwysaf ar ran pobl Cymru. Rydym yn sefyll yn gadarn wrth eich ochr ar yr adeg anodd hon.”