Neidio i'r prif gynnwy

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Rhun ap Iorwerth:

Digwyddiadau cyfredol:
Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Gorffennaf 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

"Dw i’n llongyfarch Andy Burnham ar ei benodiad yn Brif Weinidog y Deyrnas Unedig, sy'n gyfle i ailddiffinio'r berthynas rhwng Llywodraeth Cymru a'r DU.

"Dw i’n gwybod bod Andy Burnham yn rhannu fy nghred yng ngrym datganoli i wella bywydau'r bobl rydyn ni'n eu gwasanaethu.

"Yn yr ysbryd hwnnw, dw i’n gobeithio y gallwn ni rannu’r un ymrwymiad o ran datganoli pwerau o San Steffan trwy gryfhau, yn hytrach nag osgoi, senedd genedlaethol Cymru a'i gallu i rymuso pobl a chymunedau.

"Dwi’n edrych ymlaen at gyfarfod cynnar efo’r Prif Weinidog newydd i gytuno sut y gallwn ni roi'r pwerau angenrheidiol i Gymru i dyfu'r economi ac adeiladu dyfodol tecach, mwy ffyniannus i bawb."