Neidio i'r prif gynnwy

Mae adolygiad diweddar o Lyfr Gwyrdd Trysorlys y DU wedi cydnabod, er mwyn i wariant ar bolisïau a phrosiectau fod yn werth am arian, fod yn rhaid iddo gefnogi nodau ac amcanion y llywodraeth. O ganlyniad i'r adolygiad hwn, mae Prif Economegydd Llywodraeth Cymru wedi dweud:

'Dim ond os yw'n gyson ag amcanion a gwerthoedd strategol Llywodraeth Cymru y gellir dangos bod prosiect yn sicrhau gwerth am arian.'

Ac wrth gwrs, er mwyn bodloni polisïau ac amcanion y Llywodraeth i'r graddau mwyaf posibl, mae hefyd yn hanfodol bod adnoddau cyhoeddus yn cael eu defnyddio'n gost-effeithiol.

Bwriad y datganiad sefyllfa gweinidogol hwn yw arbed amser ac ymdrech i ddefnyddwyr Arweiniad ar Arfarnu Trafnidiaeth Cymru (WelTAG) drwy nodi sut y mae gweinidogion yn Llywodraeth bresennol Cymru yn debygol o ddylanwadu ar amcanion a gwerthoedd strategol wrth ystyried arfarniadau WelTAG, yn enwedig o ran cydbwyso costau a manteision mwy mesuradwy yn erbyn costau a manteision pwysig ond llai mesuradwy neu anfesuradwy. 

Cafodd yr adolygiad hwn o WelTAG ei achosi'n rhannol gan bryderon gweinidogol bod y gwerth a roddir gan werthusiadau ar arbedion amser teithio gyrwyr wedi arwain at ganlyniadau sy'n uniongyrchol groes i rai o flaenoriaethau uchaf Llywodraeth Cymru, gan gynnwys mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd a llygredd aer gwenwynig drwy leihau traffig a sicrhau newid modd, a gwella iechyd y cyhoedd drwy lefelau uwch o gerdded a beicio.

Mae'r pryderon gweinidogol hyn yn adlewyrchu dadl broffesiynol dros sawl degawd ynghylch prisio arbedion amser teithio.

Mae dwy ochr i'r ddadl hon. Yr agwedd fwy technegol yw'r cwestiwn i ba raddau y mae arbedion amser teithio bach iawn, os o gwbl, yn cario gwerth realeiddiadwy i unigolion, ac a yw (neu o dan ba amgylchiadau) yn ymarfer dilys i gyfuno nifer fawr o wahaniaethau amser teithio bach iawn ar draws llawer o unigolion neu deithiau lluosog gan yr un unigolyn i gynhyrchu gwerthoedd ariannol ar gyfer anfanteision neu fanteision. Mae dadansoddiad academaidd wedi amlygu ansicrwydd ynghylch y gwerth y dylid ei roi i arbedion amser bach, yn enwedig lle mae'r arbedion amser bach hyn yn cronni i deithiau hamdden am gyfnod byr o dan amodau heb dagfeydd. Mae rhai wedi dadlau y gallai'r gwerth fod yn isel iawn neu hyd yn oed yn sero mewn amgylchiadau o'r fath.

Dyma'r rheswm y mae canllawiau Transport Canada wedi cymryd y safbwynt na ddylai cyfrifiadau gwerth presennol net gynnwys gwerthoedd sy'n deillio o newidiadau amser teithio bach o lai na 5 munud, ar y sail na ellir defnyddio arbedion amser bach yn effeithiol ond mae'n argymell y dylid cyflwyno gwerth y gwahaniaethau amser teithio bach fel cyfrifiad ar wahân[1]. Er eu bod yn cydnabod rhinweddau posibl y dull hwn, mae'r adolygiad hwn o ganllawiau WelTAG yn gosod gofyniad gwahanol, ehangach, y dylid cyflwyno pob gwerth o newidiadau amser teithio ar wahân a chyflwyno dau werth presennol net – ac eithrio a chan gynnwys gwerth newidiadau i amseroedd teithio. Mae'r dull hwn i gyfrif am yr ail agwedd annhechnegol ar y ddadl ar brisio amseroedd teithio, a grynhoir isod.

Y mater mwy sylfaenol, yng nghyd-destun blaenoriaethau Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd a sicrhau newid modd i ffwrdd o gerbydau preifat i ddulliau teithio mwy cynaliadwy, yw y gall arbedion amser teithwyr naill ai gefnogi neu danseilio blaenoriaethau Llywodraeth Cymru, gan dibynnu pa unigolyn sy'n cronni'r arbedion amser.

Os bydd gyrwyr yn arbed amser, mae hyn yn tueddu i greu mwy o filltiroedd cerbydau, carbon, llygredd, tagfeydd, perygl ar y ffyrdd ac afiechyd o ffyrdd o fyw eisteddog, ac felly'n mynd yn uniongyrchol groes i amcanion lefel uchaf Llywodraeth Cymru ar gyfer yr hinsawdd, newid modd, ansawdd aer a lles cymdeithasol. O dan yr amgylchiadau hyn, byddai'n afresymegol ystyried yr arbedion amser hyn fel mantais heb roi cyfrif llawn am yr anfanteision sy'n gwrthbwyso hyn a ddisgrifiwyd eisoes.  Fodd bynnag, nid yw'n bosibl meintioli'n llawn lawer o'r anfanteision hyn, ac felly mae angen i weinidogion farnu ar y mater.

I'r gwrthwyneb, os yw defnyddwyr trafnidiaeth gyhoeddus, cerddwyr neu feicwyr yn arbed amser, mae hyn yn tueddu i leihau'r defnydd o gerbydau ac allyriadau carbon sy'n cyd-fynd a hyn, llygredd aer gwenwynig, tagfeydd, damweiniau, ac ati a gwella iechyd. Yn yr achosion hyn, mae'r arbedion amser yn cefnogi amcanion pwysicaf Llywodraeth Cymru, ac ategir y manteision arbed amser gan y manteision ehangach hyn, er na ellir meintioli'r rhain yn llawn eto ac mae angen barn y Gweinidog arnynt.

Y ddeuoliaeth hon yw'r rheswm arall bod WelTAG wedi'i ailddrafftio i'w gwneud yn ofynnol i elfennau asesiadau gwerth am arian sy'n deillio o newidiadau amser teithio gael eu dangos ar wahân, fel y gall y rhai sy'n gwneud penderfyniadau gymryd golwg lefel uchel ar berthnasedd a dilysrwydd yr elfen amser teithio.

Mae'r ystyriaethau hyn wedi'u nodi yma fel y gall defnyddwyr WelTAG fod yn ymwybodol fod cynigion y mae'r dadansoddiad cost a budd yn dibynnu'n bennaf ar gynhyrchu arbedion amser gyrwyr yn debygol o gael eu hystyried gan weinidogion fel dylanwad negyddol ar gyflawni blaenoriaethau lefel uchaf Llywodraeth Cymru megis newid yn yr hinsawdd a newid modd. I'r graddau y gallai fod angen pwyso a mesur manteision i economi Cymru o ganlyniad i deithio cyflymach i yrwyr yn erbyn yr effaith negyddol hon mewn rhai amgylchiadau, dylai defnyddwyr WelTAG fod yn ymwybodol y bydd gwerth economaidd honedig teithio cyflymach i yrwyr yn annhebygol o gael ei ystyried yn ddarbwyllol lle mae'n deillio o gyfuno llawer o arbedion amser bach gan yrwyr.

[1] Daly, A., Tsang, F., & Rohr, C. (2014). The value of small-time savings for non-business travel. Journal of Transport Economics and Policy (JTEP), 48(2), 205-218