Neidio i'r prif gynnwy

Cyngor i Weinidogion Cymru ynghylch adolygiad 21 diwrnod cyfyngiadau’r coronafeirws gan Frank Atherton, y Prif Swyddog Meddygol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Mehefin 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’r cyngor hwn wedi’i seilio ar waith Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau (SAGE) y Deyrnas Unedig a Chell Cyngor Technegol Cymru, ac ar drafodaethau â Phrif Swyddogion Meddygol yn y pedair gwlad.

Nodaf ei bod yn ymddangos bod trosglwyddiad COVID-19 yng Nghymru naill ai’n sefydlog neu’n lleihau. Fy marn i o hyd yw y gallai llacio’r cyfyngiadau yn rhy gynnar neu’n rhy helaeth fynd â ni yn ôl at dwf cynt a chynt yn y gyfradd drosglwyddo.

Wrth i nifer yr achosion o COVID-19 yng Nghymru barhau i leihau, mae’n fwyfwy pwysig ystyried y niwed anuniongyrchol a achosir gan y cyfyngiadau. Gwnaethom nodi y byddai angen mesurau lliniaru a monitro er mwyn cefnogi camau i lacio’r cyfyngiadau, gan gynnwys y Rhaglen Profi Olrhain Diogelu, cadw gwyliadwriaeth uwch ar iechyd a datblygu casgliad o wiriadau i fesur effaith unrhyw newidiadau mewn polisi. Mae’r cynnydd yr ydym yn ei wneud o ran datblygu’r mesurau hyn yn rhoi sicrwydd imi.

Nodaf hefyd y ffordd y mae’r feirws yn trosglwyddo; mae’r wybodaeth nad yw’r feirws yn trosglwyddo’n rhwydd yn yr awyr agored a bod gwres a heulwen yn ei wanhau’n gyflym yn cynnig cyfle inni godi rhai o’r cyfyngiadau ar weithgareddau awyr agored, cyhyd â bod modd parhau i gadw pellter cymdeithasol. Ar y llaw arall, mae’r feirws yn debygol o ffynnu mewn amgylcheddau oerach, dan do yn enwedig lle mae pobl yn ymgynnull yn agos. Golyga hyn bosibilrwydd gwirioneddol y bydd cyfradd drosglwyddo’r feirws yn cynyddu eto yn yr hydref a’r gaeaf. Ar sail y ddealltwriaeth hon:

  • Rwy’n argymell bod Llywodraeth Cymru yn defnyddio’r cyfnod adolygu nesaf i ddatblygu cynigion i gynyddu cyfleoedd ymhellach i’r cyhoedd ddefnyddio, yn ddiogel, ystod ehangach o fannau awyr agored.
  • Rwy’n argymell bod y negeseuon i’r cyhoedd yn amlygu y gallai fod angen ailosod cyfyngiadau mwy llym yn y gaeaf os bydd cyfradd drosglwyddo’r feirws yn cynyddu.

Nodaf farn SAGE a’r Gell Cyngor Technegol y gall addasiadau i’r cyfyngiadau gael effaith gynyddol, y dylent fod yn raddol ac y dylid eu monitro’n ofalus. Rwy’n cytuno â barn y Gell Cyngor Technegol fod y camau llacio presennol a gynigiwyd yn y cyngor i’r Prif Weinidog yn annhebygol o arwain at gynnydd sylweddol yng nghyfradd drosglwyddo COVID-19 yn y gymuned ac y gellid eu rhoi ar waith yn ystod y cyfnod adolygu 21 diwrnod nesaf, ac rwy’n cefnogi gweithredu’r camau hyn. Rwy’n parhau i argymell y dylai unrhyw gamau llacio o’r fath gael eu hategu gan negeseuon cryf parhaus ynghylch: hylendid personol, cadw pellter cymdeithasol a’r ymddygiad disgwyliedig pan fydd unigolion yn datblygu symptomau haint coronafeirws posibl.

Frank Atherton

Y Prif Swyddog Meddygol

Llywodraeth Cymru

28 Mai 2020