Datganiad yn dod â'r Parth dan Reolaeth (Monitro) Adar Caeth (Ffliw Adar) i ben ar gyfeirnod grid SJ3031163901
Yn dilyn cwblhad llwyddianus gweithgareddau rheoli clefyd yn y parth, mae’r Parth Adar Caeth (Monitro) wedi’i ddirymu.
Bydd PDF o'r ddogfen hon wedi'i lawrlwytho'n fuan
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y datganiad hwn i ddirymu'r Parth dan Reolaeth (Monitro) Adar Caeth a ddatganwyd ar 7 Tachwedd 2022 yn unol ag erthyglau 28(1), 28(6), 29(4) a 33(1)(b) a (d)[1] ac ar ôl ystyried y meini prawf a nodir yn erthygl 29(5) yng Ngorchymyn Ffliw Adar a Ffliw sy’n Deillio o Adar mewn Mamaliaid (Cymru) (Rhif 2) 2006[2].
Mae'r dirymiad hwn yn dod i rym o 17:00 ar 20 Rhagfyr 2022, a thrwy hynny yn dod â'r mesurau i ben a osodwyd yn y Parth dan Reolaeth (Monitro) Adar Caeth 3 cilomedr sydd â’i ganolbwynt yng nghyfeirnod grid SJ3031163901, a ddatganwyd am 21.00 ar 7 Tachwedd 2022.
Llofnodwyd: Gosia Siwonia, Dirprwy Brif Swyddog Milfeddygol Interim Cymru
Dyddiedig: am 16:15 ar 20 Rhagfyr 2022
O dan awdurdod y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd, un o Weinidogion Cymru.
Mae copïau o’r Datganiad hwn a’r Gorchymyn ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru ac oddi wrth Lywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.
[1] Cyn gwneud y Datganiad ar 7 Tachwedd 2022, cynhaliwyd asesiad risg yn unol ag erthygl 33(2) i gefnogi'r mesurau a gynhwysir o fewn y Datganiad hwnnw.
[2] O.S. 2006/2927 (Cy. 262) fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Ffliw Adar (Cymru) (Diwygio a Dirymu) 2022 O.S. 2022/280 (Cy. 81).