Neidio i'r prif gynnwy

Edwina Hart, Y Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Hydref 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Yn dilyn fy Natganiad Ysgrifenedig i’r Aelodau ar 11 Hydref a’m hymateb i’r Cwestiwn Brys a ofynnwyd yr wythnos ddiwethaf, hoffwn gyflwyno’r newyddion diweddaraf ynghylch hynt yr Unity Group.

Ar 9 Hydref cyflwynodd yr Unity Group, sy’n berchen ar Lofa Unity, hysbysiad yn nodi bod yn rhaid iddynt benodi Gweinyddydd. 
Hoffwn hysbysu’r Aelodau fod Bwrdd Rheoli’r lofa wedi cyflwyno cais i’r llys i estyn y cyfnod hysbysu hwnnw. 

Glofa’r Unity yng Nghwmgwrach ger Castell-nedd yw un o lofeydd drifft mwyaf Cymru. Mae’n cynhyrchu glo o’r ansawdd uchaf ac yn cyflogi dros 200 o bobl.  

Er ein bod wedi cydweithio â’r cwmni er mwyn cynnig cymorth iddo, yn unol â’r rheolau ynghylch cymorth gwladwriaethol, mae’r pwysau a’r heriau ariannol ehangach wedi golygu bod y cwmni wedi gorfod gwneud y penderfyniad hwn. Mae’r estyniad hwn yn rhoi rhagor o amser i Fwrdd Rheoli’r Lofa geisio cytuno ar gynnig buddsoddi ar gyfer y dyfodol â phobl  berthnasol.

Mae’n amser ansicr iawn i weithwyr y cwmni a’u teuluoedd. Rydym ni, fel Llywodraeth, yn benderfynol o wneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi’r cyflogwr ynghyd â’i weithlu ar adeg mor anodd. 

Rydym mewn cysylltiad rheolaidd â’r cwmni a byddwn yn parhau i gydweithio ag ef ac â thrydydd partïon er mwyn pwyso a mesur pob opsiwn ar gyfer diogelu dyfodol y gwaith glofaol yng Nghwmgwrach.