Neidio i'r prif gynnwy

Julie James AS, Y Gweinidog Newid Hinsawdd

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Hydref 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn unol â’r cytundeb rhyng-sefydliadol, gallaf adrodd i’r Aelodau fy mod yng nghyfarfod diweddaraf y Grŵp Rhyngweinidogol Zero Net, Ynni a Newid Hinsawdd ar 14 Medi 2023. Roedd y Dirprwy Weinidog dros Newid yn yr Hinsawdd yn bresennol yn y cyfarfod ar fy rhan. Roedd y prif bwnc a drafododd yn canolbwyntio ar sylwadau Chris Stark, Prif Weithredwr y Pwyllgor Newid Hinsawdd a Datgarboneiddio Gwres.

Hefyd yn bresennol yn y cyfarfod roedd Mairi McAllan MSP, Ysgrifennydd y Cabinet dros Sero Net a Thrawsnewid Teg, Graham Stuart AS, y Gweinidog Gwladol dros Ddiogelwch Ynni a Sero Net, a Katrina Godfrey, Ysgrifennydd Parhaol Adran Amaethyddiaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig Gogledd Iwerddon.