Neidio i'r prif gynnwy

Julie James, Y Gweinidog Newid Hinsawdd

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Rhagfyr 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn unol â’r cytundeb rhyng-sefydliadol, gallaf adrodd i’r Aelodau fy mod yng nghyfarfod diweddaraf y Grŵp Rhyngweinidogol Zero Net, Ynni a Newid yn yr Hinsawdd ar 15 Tachwedd 2023. Canolbwyntiodd y cyfarfod ar Gyhoeddiadau'r Brif Weinidog ar 20 Medi yn gwanhau polisïau sero net a chydweithio ar sgiliau gwyrdd.

Hefyd yn bresennol yn y cyfarfod roedd Mairi McAllan MSP, Ysgrifennydd y Cabinet dros Sero Net a Thrawsnewid Teg, Graham Stuart AS, y Gweinidog Gwladol dros Ddiogelwch Ynni a Sero Net, a Katrina Godfrey, Ysgrifennydd Parhaol Adran Amaethyddiaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig Gogledd Iwerddon.