Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Hydref 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Llywodraeth Cymru, mewn partneriaeth â Technology Enabled Care (TEC) Cymru, wedi cyflwyno Gwasanaeth Ymgynghori Fideo GIG Cymru (NVCS) yn llwyddiannus gan ddefnyddio cynnyrch o'r enw Attend Anywhere, fel rhan o ymateb Llywodraeth Cymru i’r pandemig COVID.

Ers ei sefydlu, mae GIG Cymru bellach wedi cyrraedd carreg filltir bwysig drwy gyflawni dros 250,000 o ymgyngoriadau fideo o bell i gleifion yng Nghymru. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i'n gweithwyr iechyd a gofal proffesiynol am eu hymroddiad i gefnogi a gwella'r GIG i bobl yng Nghymru.

Mae'r manteision a'r arbedion a gyflawnwyd gan Wasanaeth Ymgynghori Fideo Cenedlaethol GIG Cymru yn dangos:

  • Sgoriau uchel iawn o ran boddhad cleifion a chlinigwyr gyda 92.4% a 71.9% (yn y drefn honno) yn dweud bod yr 'ansawdd' rhwng ‘Rhagorol’, ‘Da Iawn’ neu ‘Dda’
  • Yn gyffredinol, mae’r niferoedd sy'n manteisio ar y gwasanaeth yn gynrychioliadol o boblogaeth gyffredinol Cymru ar draws holl nodweddion demograffig cleifion fel oedran, rhyw, incwm aelwydydd, a lleoliad trefol/gwledig
  • Ymhlith y manteision o ddefnyddio’r Gwasanaeth Ymgynghori Fideo Cenedlaethol o safbwynt cleifion a ddywedodd naill ai ei fod yn 'fuddiol iawn' neu'n 'fuddiol', roedd: arbed teithio a pharcio (92%); achub yr amgylchedd (91.1%); arbed amser a pharatoi (87.3%); peidio â gorfod cymryd amser i ffwrdd o'r gwaith/ysgol (81%); yn fwy cyfleus (87.6%); gwell mynediad at ofal (85.5%).
  • Nododd clinigwyr fanteision fel: defnydd mwy effeithlon o amser/lle clinigol (74.8%); mwy o fynediad at ofal (72%); amseroedd aros llai (68. 6%); cyfraddau’r rhai na wnaeth fynychu eu hapwyntiadau yn is (61.1%); teuluoedd y claf yn gallu cael mwy o gyfranogiad (59.9%).

*yn seiliedig ar ddata o werthusiad Cam 2a o 22,978 o arolygon clinigwyr a chleifion (rhwng mis Medi 2020 a mis Chwefror 2021) a 178 o gyfweliadau â chlinigwyr a chleifion.

Cyhoeddwyd canfyddiadau gwerthusiad Cam 2a o Wasanaeth Ymgynghori Fideo GIG Cymru a gynhaliwyd gan TEC Cymru yn ddiweddar:

https://digitalhealth.wales/cy/teccymru/sut-gallwn-helpu/tystiolaeth/adrodd-gwerthuso/vc-cam-2

Wrth inni edrych am ateb tymor hwy ynghylch ymgyngoriadau fideo yn ein Gwasanaeth Iechyd, rydym yn ystyried yr opsiynau ar gyfer defnyddio apwyntiadau fideo mewn ffordd gynaliadwy, a sut y gallwn ychwanegu gwerth mewn lleoliadau gofal sylfaenol ac eilaidd – a gwneud defnydd ehangach o’r dechnoleg o bosibl. Rydym yn cydnabod na fydd pob un yn dymuno cael ymgynghoriad fideo. Ond mae potensial amlwg manteision y gwasanaeth hwn yn dangos sut y gellir ei ddefnyddio i gefnogi opsiynau eraill sydd ar gael i gleifion, fel apwyntiadau dros y ffôn ac wyneb yn wyneb – gan sicrhau'r gofal gorau posibl i gleifion yng Nghymru.

Mae technolegau digidol wedi chwarae rhan hollbwysig a llwyddiannus iawn yn ein hymateb i COVID-19. Mae technoleg wedi galluogi llawer o ddinasyddion Cymru i barhau i gael cyngor a chymorth meddygol mewn amgylchedd diogel, gan dorri’r risg uwch i gleifion a'n gweithwyr iechyd a gofal proffesiynol ymroddedig o drosglwyddo'r feirws. Mae’r Gwasanaeth Ymgynghori Fideo i Gymru Gyfan ar ei ffurf bresennol yn parhau i fod yn rhan allweddol o ddarparu iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, a byddwn yn ceisio cynnal technolegau digidol i gyd-fynd â mathau eraill o ddarpariaeth a’u defnyddio mewn ffordd gynhwysol fel rhan o'n hadferiad o’r pandemig, a thu hwnt.