Neidio i'r prif gynnwy

Carwyn Jones, y Prif Weinidog

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Tachwedd 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ar 9 Tachwedd, ynghyd â’r Cwnsler Cyffredinol, cynrychiolais Lywodraeth Cymru yn 31ain Uwchgynhadledd y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig ar Ynys Manaw. Cadeiriwyd yr Uwchgynhadledd gan Brif Weinidog Llywodraeth Ynys Manaw, yr Anrhydeddus Howard Quayle MHK. Roedd Gweinidogion arweiniol o Aelod-weinyddiaethau eraill y Cyngor yn bresennol yn yr Uwchgynhadledd. Roedd y rhain yn cynnwys:

• Canghellor Dugiaeth Caerhirfryn a Gweinidog Swyddfa'r Cabinet, y Gwir Anrhydeddus David Lidington AS, o Lywodraeth y DU
• An Taoiseach, Leo Varadkar TD, o Lywodraeth Iwerddon
• Prif Weinidog Llywodraeth yr Alban, y Gwir Anrhydeddus Nicola Sturgeon ASA
• Prif Weinidog Llywodraeth Jersey, y Seneddwr John Le Fondré
• Dirprwy Weinidog dros Ddatblygu Economaidd Llywodraeth Guernsey, y Dirprwy Andrea Dudley-Owen, ar ran y Prif Weinidog, y Dirprwy Gavin St Pier.

Mae Uwchgynhadledd y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig yn gyfle pwysig i’r Aelod-weinyddiaethau gydweithio a rhannu arferion da ynghylch y materion cyffredin rydym yn eu hwynebu. Roedd yr Uwchgynhadledd hon yn gyfle i'r Aelod-weinyddiaethau roi ystyriaeth bellach i effaith ymadawiad y DU â'r UE ar Aelodau'r Cyngor, a gwaith pob un o'r Aelod-weinyddiaethau ar sicrhau cynhwysiant digidol.

Dyma'r ddeunawfed Uwchgynhadledd i mi fod yn rhan ohoni, a'r olaf. Rwy'n ddiolchgar iawn am yr holl ddymuniadau da a dderbyniais yn y cyfarfod. Mae gan y Cyngor swyddogaeth bwysig i'w chwarae yng nghyd-destun Cytundeb Gwener y Groglith a newidiadau cyfansoddiadol mwy diweddar, ac rwy'n dymuno pob llwyddiant iddo yn y dyfodol.

Agorodd yr Uwchgynhadledd gyda chyfarfod Gweinidogion o sector gwaith Cynhwysiant Digidol y Cyngor. Cynrychiolwyd Cymru gan y Cwnsler Cyffredinol, a adroddodd yn ôl i'r uwchgynhadledd. Dywedodd y Cwnsler Cyffredinol bod mynediad at dechnolegau digidol yn hanfodol ar gyfer cyfiawnder cymdeithasol, a bod y berthynas rhwng y cenedlaethau yn rhan annatod o hyn. Yn ystod y drafodaeth, gwelwyd bod y dystiolaeth ddiweddaraf yn dangos bod mwy o bobl nag erioed yn mynd ar-lein, ond bod nifer o rwystrau rhag cynhwysiant o hyd - gan gynnwys materion yn ymwneud â hygyrchedd, sgiliau digidol ac ysgogiad. Amlinellodd y Cwnsler Cyffredinol yr hyn yr ydym yn ei wneud i roi sylw i'r bwlch hwn yma yng Nghymru, gan gynnwys diwygio'r cwricwlwm addysg, y rhaglen 'Arwyr Digidol' a'n gwaith ar iechyd a gofal cymdeithasol. Trafododd y Gweinidogion yr heriau ar gyfer y dyfodol, gan dynnu sylw at flaenoriaethau i sector waith Cynhwysiant Digidol y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig gan gynnwys hawliau digidol, sgiliau a llythrennedd digidol a gwaith partneriaeth rhwng Gweinyddiaethau'r Cyngor.  

Effaith ymadawiad y DU â'r UE oedd flaenaf yn y trafodaethau ar y datblygiadau gwleidyddol diweddaraf. Tynnais sylw at effaith yr ansicrwydd ynghylch Brexit ar fuddsoddi a swyddi yng Nghymru, ac fe rannais fy mhryderon am y farn gynyddol ymysg busnesau y byddai'n rhaid trin y DU fel marchnad ar wahân i'r UE. Pwysleisiais hefyd bwysigrwydd sicrhau bod dull Llywodraeth y DU o edrych ar fudo yn y dyfodol yn diogelu'r cyflenwad llafur ar gyfer swyddi proffesiynol a sgiliau is. Dywedais eto fyth y byddai'n gwbl annerbyniol methu sicrhau cytundeb â'r UE. Pwysleisiais ei bod yn bwysig i Lywodraeth y DU gynnwys y gweinyddiaethau datganoledig wrth negodi cytundebau rhyngwladol sydd â goblygiadau ar gyfer maes lle y mae cymhwysedd wedi ei ddatganoli.

Cyhoeddwyd prif bwyntiau trafod y 31ain Uwchgynhadledd mewn hysbysiad ar y cyd:

https://www.britishirishcouncil.org/sites/default/files/communiqués/Thirty First Summit Comminique - Isle of Man_0.pdf