Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford AC, y Prif Weinidog

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Tachwedd 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Roeddwn yn bresennol yn 33ain cyfarfod y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig yn Nulyn ar 15 Tachwedd. Roedd y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn gwmni imi. Y Taioseach, Leo Varadkar TD, oedd yn cadeirio’r cyfarfod. Ymysg pobl eraill a oedd yno roedd y Gwir Anhrydeddus Julian Smith AS, Ysgrifennydd Gwladol Gogledd Iwerddon; y Gwir Anrhydeddus Nicola Sturgeon ASA, Prif Weinidog yr Alban; a Phrif Weinidogion Jersey, Guernsey ac Ynys Manaw. Roedd uwch-weision sifil o Ogledd Iwerddon hefyd yn bresennol fel arsylwyr.

Roedd disgwyl y byddai Canghellor Dugiaeth Caerhirfryn, y Gwir Anrhydeddus Michael Gove AS, yn arwain dirprwyaeth Llywodraeth y DU, ond tynnodd yn ôl y diwrnod cynt. Mae’n siomedig fod y Prif Weinidog wedi methu bod yn bresennol eto. Fodd bynnag, cawsom ein sicrhau bod Mr Johnson, pe bai’n dychwelyd i’r swydd, yn edrych ymlaen at fod yn bresennol yn y dyfodol.

Thema’r cyfarfod hwn oedd Camddefnyddio Sylweddau. Mae’r Dirprwy Weinidog wedi bod mewn trafodaeth ryngweinidogol adeiladol a llawn gwybodaeth ar y pwnc hwn, ac fe wnaeth y Cyngor drafod y mater hefyd. Cytunodd y Cyngor bod hwn yn fater arbennig o briodol a defnyddiol i’r Cyngor Prydeinig-Gwyddelig ei ystyried: mae’r heriau sy’n wynebu pob gweinyddiaeth yn debyg, ac mae manteision amlwg yn deillio o rannu ein dulliau gweithredu a’n profiadau.

Yn anorfod, roedd y drafodaeth ar Ddatblygiadau Gwleidyddol Diweddar yn canolbwyntio’n bennaf ar Brexit, sy’n parhau i achosi llawer o bryder i’r holl aelod-weinyddiaethau mewn ffyrdd gwahanol. Wrth gyfrannu at y drafodaeth, cyflwynais dri phwynt:

  • Dylai’r Cytundeb Ymadael a’r Datganiad Gwleidyddol terfynol gael eu cyfeirio at etholwyr Prydain er mwyn penderfynu arnynt mewn refferendwm, gan roi’r dewis iddynt rhwng ymadael yn unol â’r telerau a negodwyd neu barhau i fod yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd. Yn y cyfamser, dywedais fy mod yn credu, ar sail y bleidlais a gafwyd ar 22 Hydref 2019, na fyddai Cynulliad Cymru yn rhoi cydsyniad deddfwriaethol i’r Bil Cytundeb Ymadael fel y’i cyhoeddwyd
  • Beth bynnag fo’r penderfyniad ar Brexit yn y pen draw, byddai’r Deyrnas Unedig yn parhau i fod yn gymdeithas wirfoddol o bedair gwlad, a byddai gofyn ailstrwythuro cyfansoddiad y DU yn sylweddol pe bai am oroesi
  • Byddai’r Cyngor Prydeinig-Gwyddelig yn dal i fod yn elfen hanfodol o’n trefniadau cyfansoddiadol a’i bod hi yn awr, ugain mlynedd ar ôl cyfarfod cyntaf y Cyngor, yn adeg briodol i adolygu ei rôl, yn enwedig yng nghyd-destun Brexit. Cytunodd y Cyngor â’r asesiad hwn, a gofynnwyd i’r Ysgrifenyddiaeth gyflwyno papur trafod ar gyfer ystyriaeth bellach

Hefyd o dan yr eitem hon ar yr Agenda, rhoddodd Ysgrifennydd Gwladol Gogledd Iwerddon adroddiad ar y trafodaethau rhynglywodraethol a rhyngbleidiol diweddaraf ynghylch adfer datganoli yng Ngogledd Iwerddon. Fe wnaeth atgoffa’r Cyngor bod 13 Ionawr 2020 yn ddyddiad cau statudol pwysig ar gyfer y trafodaethau hyn. Pe na fyddai modd cytuno erbyn y dyddiad hwnnw, yn gyfreithiol byddai hynny bron yn anorfod yn arwain at alw am etholiadau newydd yng Ngogledd Iwerddon.

Roedd hon yn gyfres werthfawr a phwysig o drafodaethau yr oedd yr holl aelod-weinyddiaethau wedi cyfrannu ati.

Darllenwch y cyfathrebiad ar y cyd a gyhoeddwyd ar ôl y cyfarfod (ar britishirishcouncil.org)

Bydd y Cyngor yn cyfarfod eto yn yr Alban fis Mehefin nesaf.