Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Gorffennaf 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rwy’n ymateb heddiw i argymhellion 35ain Adroddiad Corff Adolygu Cyflogau’r GIG (NHSPRB) a 50fed Adroddiad y Corff Adolygu Meddygon a Deintyddion (DDRB) a osodwyd gerbron Senedd y Deyrnas Unedig ar 19 Gorffennaf 2022. Rwy’n ddiolchgar i gadeiryddion ac aelodau’r cyrff adolygu am eu hadroddiadau, a chroesawaf eu hargymhellion a’u sylwadau cadarn. Gwn fod rheolwyr y GIG, undebau llafur a chynrychiolwyr staff fel ei gilydd yn gwerthfawrogi eu cyngor annibynnol.

Byddaf yn derbyn yr argymhellion yn llawn ar gyfer staff y GIG ar delerau ac amodau’r Agenda ar gyfer Newid – tua 90% o weithlu'r GIG, sy’n cynnwys nyrsys, glanhawyr, porthorion, gweithwyr cymorth gofal iechyd a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol.

Argymhelliad NHSPRB ar gyfer staff yr Agenda ar gyfer Newid yw taliad o £1,400 ar bob pwynt cyflog. Ychwanegir at y taliad hwn ar gyfer pwynt uchaf Band 6 ac ar gyfer y pwyntiau cyflog ym Mand 7 i sicrhau eu bod yn cael taliad o 4%.

Ar gyfer eleni, oherwydd yr argyfwng costau byw na welwyd ei debyg o’r blaen, sy’n effeithio ar bob un ohonom ond yn arbennig ar y staff sydd ar y cyflogau isaf, rwyf wedi cytuno i dalu argymhelliad NHSPRB ar ben y cynnydd Cyflog Byw Gwirioneddol dros dro a gyhoeddais ym mis Mawrth 2022.  

Mae hyn yn golygu y bydd cyflog gwirioneddol staff Agenda ar gyfer Newid y GIG sydd ar y cyflogau isaf yn cynyddu o £18,731 i £20,758 yn 2022-23, sy'n cyfateb i gynnydd o 10.8% yn eu cyflogau. Bydd y penderfyniad hwn hefyd yn golygu mai Cymru fydd y wlad sy'n talu’r cyflogau uchaf yn y DU i’r staff yn y band isaf yn y GIG.

Gan fod argymhelliad NHSPRB yn un ar gyfer cynnydd mewn pwyntiau cyflog yn hytrach na chynnydd canrannol, bydd yna gynnydd cyflog sylfaenol canrannol gwahanol i staff ar bwyntiau cyflog gwahanol.

Drwy dderbyn argymhellion y corff adolygu cyflogau, bydd hyn yn golygu y bydd bron i hanner gweithlu'r Agenda ar gyfer Newid, sy'n cael eu talu yn y bandiau cyflog isaf o 1 i 4, yn cael cynnydd cyflog cyfartalog o 7.5% yn y pwyntiau cyflog. Mae hefyd yn golygu y bydd dros 89,000 o staff gweithlu'r Agenda ar gyfer Newid – y rhai hyd at a chan gynnwys Band 7 – yn cael cynnydd o 5.3.% ar gyfartaledd yn y pwyntiau cyflog.

Byddaf hefyd yn derbyn argymhelliad y Corff Adolygu Meddygon a Deintyddion i ddarparu cynnydd o 4.5% i'r grwpiau canlynol:

  • Ymgynghorwyr
  • Meddygon a deintyddion dan hyfforddiant
  • Ymarferwyr Meddygol Cyffredinol sy’n gontractwyr annibynnol
  • Ymarferwyr Meddygol Cyffredinol cyflogedig
  • Grant hyfforddwyr Ymarferwyr Meddygol Cyffredinol a grant arfarnwyr Ymarferwyr Meddygol Cyffredinol
  • Ymarferwyr Deintyddol Cyffredinol sy’n gontractwyr annibynnol
  • Ymarferwyr Deintyddol Cyffredinol cyswllt a chyflogedig gan gynnwys ymarferwyr y Gwasanaeth Deintyddol Cymunedol
  • Meddygon a deintyddion a gyflogir gan Ymddiriedolaethau a Byrddau Iechyd ar gontractau a bennir yn lleol

Yn ei adroddiad, nododd y Corff Adolygu Meddygon a Deintyddion bryder am y rhai mewn cytundebau aml-flwyddyn o dan y contract newydd ar gyfer Meddygon Arbenigedd ac Arbenigol (2021), nad oeddent o fewn ei gylch gwaith ar gyfer 2022-23. Rwyf wedi gwrando ar y pryderon hynny ac fe fyddaf yn gwneud taliad anghyfunol o £1,400 i'r meddygon hyn i gydnabod pwysau yr argyfwng costau byw.

Er mwyn sicrhau uniondeb y contract Meddyg Arbenigedd newydd a'r cytundeb aml-flwyddyn y cytunwyd arno mewn partneriaeth ac a weithredwyd yn 2021, bydd pwynt cyflog uchaf hen gontract Meddyg Arbenigedd 2008 yn cael ei rewi hyd nes y bydd pwynt cyflog contract 2021 yn cyd-fynd â hynny. Fodd bynnag, bydd y meddygon hynny sydd ar y pwynt cyflog uchaf yn derbyn taliad anghyfunol sy'n cyfateb i 4.5%.

Mae'r cynnydd o 4.5% a argymhellir mewn cyflog ar gyfer ymarferwyr cyffredinol a deintyddion dan gontract yn amodol ar newidiadau cyffredinol i gontractau ar gyfer Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol a Deintyddol Cyffredinol. Bydd fy swyddogion yn trafod â chyrff cynrychiadol i sicrhau bod contractau yn cael eu diwygio yn unol ag agenda'r llywodraeth.

Er nad yw o fewn cwmpas argymhellion Corff Adolygu Meddygon a Deintyddion, rwyf hefyd am i’r holl staff sy'n gweithio ym maes ymarfer cyffredinol, mewn timau deintyddol ac mewn fferyllfeydd cymunedol ledled Cymru gael cynnydd cyflog teg a chymesur. Byddai hynny’n cydnabod y rôl hanfodol y mae'r holl staff sy'n gweithio yn y sectorau hyn yn ei chwarae i ddarparu gwasanaethau gofal sylfaenol yng Nghymru.

Rwyf am ddiolch i'r undebau llafur a'r cyrff cynrychioliadol am gwrdd â mi yr wythnos hon i drafod argymhellion y corff adolygu cyflogau. Rwyf wedi ymrwymo i barhau â'r trafodaethau hyn. Rydym wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth gymdeithasol yng Nghymru a byddwn yn defnyddio'r strwythurau hyn i ddod ag undebau llafur, cyflogwyr a'r llywodraeth at ei gilydd.

Yn dilyn cyfres o gyfarfodydd gydag undebau llafur a chyrff cynrychioliadol yr wythnos hon, rydym wedi ymrwymo i barhau i archwilio ystod o faterion eraill a godwyd fel rhan o'r trafodaethau hynny.

Mae setliad ariannol Llywodraeth y DU ar gyfer Cymru yn llawer llai na'r hyn sy'n ofynnol i fodloni disgwyliadau dyfarniadau cyflog sy’n adlewyrchu’r cynnydd mewn chwyddiant. Fodd bynnag, rwy’n gobeithio y bydd y cyhoeddiad hwn yn helpu i gydnabod gwaith caled holl staff ein GIG, meddygon a deintyddion drwy gydol y pandemig a'r ymdrechion i adfer ohono.

Rydym yn dal i bwyso ar Lywodraeth y DU i drosglwyddo'r cyllid llawn sydd ei angen ar gyfer gwneud dyfarniadau cyflog llawn a theg i weithwyr y sector cyhoeddus. Heb hyn, rydym yn wynebu heriau sylweddol iawn a phenderfyniadau anodd.

Fodd bynnag, rydym wedi ymrwymo i brosesau'r cyrff adolygu cyflogau ac i weithio mewn partneriaeth gymdeithasol gydag undebau a chyflogwyr i sicrhau'r canlyniad gorau posibl o fewn y cyllid presennol sydd ar gael inni.

Mae'r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r aelodau. Os bydd yr aelodau'n dymuno imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ar hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.