Neidio i'r prif gynnwy

Dawn Bowden AS, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a’r Prif Chwip

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Mai 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'n bleser gennyf gyhoeddi cyllid gwerth dros £750,000 gan Lywodraeth Cymru, drwy'r Cynllun Grant Cyfalaf Trawsnewid, i helpu llyfrgelloedd ac amgueddfeydd lleol i ddatblygu eu cyfleusterau a'u gwasanaethau i ehangu mynediad, gweithio mewn partneriaeth, datgarboneiddio, a datblygu gwasanaethau mwy cynaliadwy.

Mae'r cynllun wedi darparu dros 10 mlynedd o fuddsoddiad cyfalaf mewn gwasanaethau llyfrgelloedd cyhoeddus. Yn 2017 cafodd y cymhwysedd ei ymestyn i gynnwys amgueddfeydd ac archifau. Rhwng 2017 a 2021 rydym wedi dyfarnu 44 o grantiau i Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd yng Nghymru, (21 Amgueddfa, 21 Llyfrgell a 2 Archif). Yn y cylch ariannu hwn, bydd y gronfa'n cefnogi’r gwaith o ddatblygu Canolfan Realiti Rhithwir yn Llyfrgell Penygroes a gardd llesiant yn Llyfrgell Dyffryn Ogwen, Gwynedd. Yn Llyfrgell Rhymni yng Nghaerffili bydd canolfan addysg ar gyfer darllen a chymorth i drigolion lleol yn cael ei chreu. Hefyd, bydd gwaith adnewyddu yn Llyfrgell Pencoed ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn arwain at ddatblygu man hyblyg sy'n defnyddio ynni'n effeithlon, i ddiwallu anghenion y gymuned. 

Bydd Llyfrgell Port Talbot a Llyfrgell y Barri yn elwa ar greu ‘Gofod Gwneud’, sef mannau neilltuedig lle y gall pobl gwrdd i gydgynhyrchu, gweithio ar brosiectau a rhannu adnoddau a gwybodaeth. Byddan nhw’n helpu defnyddwyr i ddatblygu eu sgiliau a’u creadigrwydd ac yn ysbrydoli pobl ifanc i ymddiddori ym meysydd Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, Mathemateg a’r Celfyddydau (STEAM).

Rhoddir cyllid i helpu Cyngor Sir Fynwy i sicrhau bod eu casgliadau'n cael eu gwarchod ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol mewn llety diogel, sy’n bodloni safonau proffesiynol ar gyfer storio gwrthrychau amgueddfeydd yn y tymor hir. Bydd y cyllid hefyd yn cefnogi prosiect datgarboneiddio Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd, a fydd yn galluogi'r amgueddfa i osod system solar ffotofoltäig ac uwchraddio goleuadau halogen presennol i system UV. Bydd hyn yn lleihau ôl troed carbon yr amgueddfa ynghyd â’i gwariant a faint o ynni mae’n ei ddefnyddio yn gyffredinol.

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn ymrwymedig i gefnogi'r gwasanaethau pwysig hyn i gyflawni rôl werthfawr sy’n ganolog i fywyd cymunedau. Bydd y gronfa hon yn ehangu mynediad ar gyfer ein cymunedau, yn hyrwyddo ymgysylltiad diwylliannol, yn darparu cyfleoedd dysgu ac yn cefnogi cydlyniant, cynaliadwyedd a ffyniant ein cymunedau.  Mae'n elfen allweddol o waith cyflawni ein hymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu, sef ‘Buddsoddi yn ein theatrau a'n hamgueddfeydd’. Fel rhan o hynny, mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi ariannu cyfres o raglenni hyfforddi a chymorth i amgueddfeydd lleol yn ddiweddar, er mwyn creu adnoddau sy'n gysylltiedig â'r cwricwlwm newydd, ac i gynyddu cynrychiolaeth o hanes pobl dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn eu harddangosfeydd.