Neidio i'r prif gynnwy

Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Medi 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Nid yw cyfraddau presenoldeb wedi gwella ers Covid, ac mae’r ystadegau a gyhoeddwyd heddiw ar absenoldeb disgyblion o ysgolion uwchradd 2022/23 yn ein hatgoffa o'r effaith barhaus y mae’r pandemig yn ei chael ar ein plant a'n pobl ifanc. Mae tystiolaeth sy'n dod i'r amlwg yn awgrymu bod hyn yn bryder byd-eang. Mae'n fater yr ydym yn ei gymryd o ddifrif ac yn un y mae’n rhaid inni fynd i'r afael ag ef os ydym am sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru yn cael y gorau o'u hamser yn yr ysgol.

Mae llawer o waith caled ac ymdrech gan staff ysgolion ac eraill eisoes wedi mynd i gefnogi dysgwyr ac ail-ennyn eu diddordeb yn dilyn y pandemig, ac mae hynny'n parhau i ddigwydd ym mhob rhan o Gymru.

Amlinellodd ein cynllun Adnewyddu a Diwygio ein hymrwymiad i gefnogi lles a chynnydd dysgwyr mewn ymateb i'r pandemig, gan roi iechyd a llesiant corfforol a meddyliol dysgwyr wrth wraidd ei ddull gweithredu. A chafodd bron £500 miliwn ei fuddsoddi yn 2020-21 a 2021-22 drwy’r cynllun hwnnw. Canfu adroddiad y Sefydliad Polisi Addysg ym mis Ebrill 2023 mai Cymru oedd yn darparu'r cyllid mwyaf i bob disgybl yn y DU dros gyfnod y blynyddoedd hyn i fynd i'r afael ag effeithiau’r pandemig, sef tua £800 y disgybl, a mwy na dwbl y buddsoddiad mewn rhannau eraill o'r DU.

Yn 2022-23, roedd ein cyllid ychwanegol yn cynnwys £3.5 miliwn i gefnogi presenoldeb mewn ysgolion, gan ganolbwyntio’n benodol ar annog dysgwyr sydd wedi ymddieithrio rhag dysgu yn dilyn y pandemig, neu a oedd mewn perygl o ymddieithrio.

Mae'r rhaglen Recriwtio, Adfer a Chodi Safonau wedi recriwtio a chadw dros 1,800 o staff cyfwerth ag amser llawn i hybu’r capasiti a’r gallu i gefnogi dysgwyr. Rhoddwyd yr hyblygrwydd i ysgolion ddefnyddio'r cyllid i fynd i'r afael â'u heriau a'u hanghenion penodol. Rydym hefyd yn gwybod bod meithrin cysylltiadau gwell â theuluoedd wedi cael effaith gadarnhaol ar wella presenoldeb. Dyna pam y gwnaethom gynyddu ein buddsoddiad ar gyfer swyddogion ymgysylltu â theuluoedd eleni i dros £6.5 miliwn.

Rydym hefyd wedi buddsoddi £2.5 miliwn yn y gwasanaeth lles addysg eleni, er mwyn darparu capasiti ychwanegol sydd mawr ei angen. Bydd hyn yn galluogi'r gwasanaeth i ddarparu cymorth cynharach, cyn i bethau waethygu, yn ogystal â darparu cymorth mwy dwys i ddysgwyr sy’n absennol yn aml.

Yn ddiweddar buom yn ymgynghori ar ganllawiau ymgysylltu a phresenoldeb, a ddatblygwyd i gefnogi ysgolion a gynhelir, unedau cyfeirio disgyblion, rhieni/gofalwyr ac awdurdodau lleol i sicrhau lefelau ymgysylltu a phresenoldeb gwell ymhlith dysgwyr. Cyhoeddir y canllawiau hyn yn yr wythnosau nesaf.

Mae enghreifftiau o arferion rhagorol yn ein hysgolion i wella presenoldeb ac ymgysylltiad, gan gynnwys ymgysylltu helaeth â’r teulu, dulliau ysgol gyfan sy'n rhoi gwaith ymgysylltu â’r dysgwyr a llesiant y dysgwyr wrth wraidd yr hyn a wna’r ysgol, ac ysgolion yn gweithio'n agos gyda gwasanaethau awdurdod lleol i roi cymorth arbenigol ar waith.

Fodd bynnag, mae'n amlwg nad oes un ateb, un grŵp nac un sector a all fynd i'r afael â'r mater hwn. Byddaf felly yn sefydlu Tasglu Presenoldeb Cenedlaethol er mwyn darparu cyfeiriad strategol, gosod blaenoriaethau a nodi rhagor o gamau pendant er mwyn gwella presenoldeb ac ail-ennyn diddordeb ein dysgwyr. Wrth wneud hyn, rwyf am inni ddefnyddio’r enghreifftiau sydd eisoes i'w gweld mewn ysgolion ledled Cymru ac adeiladu arnynt, gan rannu arferion da, yn ogystal â thystiolaeth genedlaethol a rhyngwladol am yr hyn sy'n gweithio. 

Byddaf yn cyhoeddi aelodaeth y tasglu pan fyddwn yn cyhoeddi'r canllawiau ymgysylltu a phresenoldeb newydd i ysgolion. I gydnabod y dull amlasiantaeth sy'n ofynnol, bydd angen i'r aelodaeth gynrychioli ystod o arweinwyr ym myd addysg, iechyd, gwasanaethau cymdeithasol, yr heddlu, y sector preifat a'r gymuned. Wrth gwrs, byddaf am i'r grŵp hwn fanteisio ar fewnbwn y rhieni a’r dysgwyr eu hunain hefyd. Mae’n hanfodol deall y materion y mae plant a theuluoedd yn eu hwynebu, materion a allai olygu eu bod yn llai parod i fynd i'r ysgol neu i ymgysylltu ag addysg. Byddaf yn ysgrifennu at bartneriaid cyn bo hir, gan eu gwahodd i fod yn rhan o'r tasglu newydd hwn.

Mae ffactorau cymhleth a lluosog yn gyfrifol am ddiffyg presenoldeb yn aml. Gallai'r rhain gynnwys iechyd meddwl a llesiant, argaeledd gwasanaethau cymorth dysgu penodol, a’r costau byw cynyddol ac agweddau rhieni a dysgwyr tuag at bresenoldeb yn yr ysgol yn gyffredinol. O'r herwydd, un o flaenoriaethau'r grŵp fydd edrych yn fanwl ar y rhesymau dros ddiffyg presenoldeb, gan ddwyn ynghyd eu harbenigedd i nodi camau gweithredu a all arwain at welliannau parhaus.

Yn gynharach eleni, comisiynwyd Parentkind i ymgymryd ag ymchwil ymysg rhieni a gofalwyr yng Nghymru i ddeall mwy am y rhesymau dros ddiffyg presenoldeb, y gefnogaeth a gynigir, a pha gymorth fyddai’n ddefnyddiol i deuluoedd. Mae'r, adroddiad a gyhoeddir heddiw, yn nodi’r hyn a fydd yn ddechrau sgwrs genedlaethol gyda rhieni am yr heriau y maent yn eu hwynebu. Mae’n rhoi cyfle hollbwysig i rieni gymryd rhan yn y gwaith o ddatblygu atebion.

Dim ond drwy weithio gyda'n gilydd y gallwn fynd i'r afael â'r mater hwn a sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yn cael y dechrau gorau posibl mewn bywyd ac yn cael eu cefnogi i wireddu eu potensial.