Neidio i'r prif gynnwy

Leighton Andrews, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Hydref 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Bu nifer o adroddiadau a sylwadau yn y wasg yn ddiweddar am yr ymgynghoriad sydd ar y gweill gan Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd ar y cynigion i uno Prifysgol Fetropolitan Caerdydd, Prifysgol Morgannwg a Phrifysgol Cymru, Casnewydd er mwyn creu corfforaeth addysg uwch newydd i wasanaethu ardal gyfan y De-ddwyrain.

Byddaf yn gwneud datganiad llawn gerbron y Cynulliad Cenedlaethol ar 23 Hydref ynglŷn â statws yr ymgynghoriad a’r camau nesaf. Yn y cyfamser, mae’r Athro Syr Steve Smith, Is-Ganghellor Prifysgol Caerwysg, wedi ysgrifennu ataf i egluro cynnwys a thelerau’r cyfarfod a gynhaliwyd yn gynharach eleni pryd y trafododd yntau ac uwch swyddog y cynigion ar gyfer yr uno gyda Chadeirydd ac Is-ganghellor Prifysgol Fetropolitan Caerdydd. Fe welwch ynghlwm gopi o lythyr yr Athro Smith er gwybodaeth i’r Aelodau.