Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Mehefin 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Wrth gael fy mhenodi'n Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol y llynedd, dywedais mai un o'm prif flaenoriaethau oedd cwblhau'r tri chynllun rhanbarthol ar gyfer cyflwyno newidiadau i wasanaethau GIG Cymru.  Yn sgil y cytundeb y daethpwyd iddo'n ddiweddar gan Raglen De Cymru, mae'n bleser gennyf gyhoeddi bod cam cyntaf y broses ad-drefnu yng Nghymru bellach wedi'i gwblhau.

Fel rhan o’r datblygiadau hyn ymrwymais i gynnal adolygiad o’r ‘Gwersi a Ddysgwyd’ o’r broses ad-drefnu, unwaith i’r tri ymarfer gael eu cwblhau.

Er mwyn gwneud hynny rwyf wedi comisiynu arbenigwr allanol, Mrs Ann Lloyd, i arwain yr Adolygiad, gyda chymorth grŵp cyfeirio bach sydd â phrofiad o gyflwyno newidiadau mawr i wasanaethau yn y GIG.  

Mae Mrs Lloyd yn gyn-Gyfarwyddwr Cyffredinol Adran Iechyd a Gofal Cymdeithas Llywodraeth Cymru, rôl y bu'n ymgymryd â hi o 2001 tan ei hymddeoliad yn 2009.    Ers hynny, mae wedi ymgymryd â nifer o rolau proffil uchel, gan gynnwys Comisiynydd Penodiadau Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar gyfer Llundain; un o Ymddiriedolwyr Ymddiriedolaeth Shaw; a Chadeirydd Sefydliad Caxton.  Roedd hefyd yn un o Ymddiriedolwyr Cymdeithas y Cleifion tan 2013 a rhoddodd lawer o gyflwyniadau cenedlaethol a rhyngwladol ar bwysigrwydd cynnwys y gymuned a defnyddwyr gwasanaethau yn y broses o gynllunio a darparu gofal.

Bydd yr Adolygiad yn cynnwys cyfnod o ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol gan gynnwys swyddogion perthnasol Byrddau Iechyd, cynrychiolwyr clinigol, grwpiau cleifion a grwpiau er budd y cyhoedd gan gynnwys Awdurdodau Lleol. Bydd hefyd yn ymgysylltu â Chynghorau Iechyd Cymuned ledled Cymru er mwyn casglu eu profiadau o'r broses Ad-drefnu Gwasanaethau.

Bydd yr Adolygiad yn asesu effeithiolrwydd y canllawiau cyfredol ar gyflwyno newidiadau i wasanaethau, a'r gwelliannau posibl. Bydd hefyd yn asesu rôl Cynghorau Iechyd Cymuned yn y broses gyfan ac yn rhoi cyngor ar y rôl y gofynnir iddynt ei chwarae o ran ymgynghori ac atgyfeirio; a'u gallu i gyflawni'r cyfrifoldebau hyn yn effeithiol.

Bydd pedwar cam i'r Adolygiad:

  1. Ymarfer cwmpasu cychwynnol ac ymchwil i arfer gorau;
  2. Ymarfer ymgysylltu er mwyn casglu profiadau a safbwyntiau rhanddeiliaid allweddol perthnasol;
  3. Asesiad o'r dystiolaeth a gasglwyd;  
  4. Llunio adroddiad a fydd yn nodi'r gwersi allweddol a ddysgwyd ac yn cynnig argymhellion ar gyfer gwella Canllawiau Llywodraeth Cymru.

Rwy'n rhagweld y bydd tîm yr adolygiad yn cyflwyno ei adroddiad interim i mi, gan gynnwys canfyddiadau ac unrhyw argymhellion, cyn diwedd toriad yr haf.

Rwyf wedi amgáu copi o Gylch Gorchwyl yr Adolygiad er gwybodaeth. 
Sicrhaf fod Aelodau yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf.