Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates, y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Ionawr 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Ar 25 Tachwedd, cynrychiolais y DU ar Gyngor Addysg a Ieuenctid yr UE, lle bu’n bosibl imi hyrwyddo’r hyn rydym yn ei wneud ym maes dysgu digidol a chyflogi pobl ifanc. Er nad dyma’r tro cyntaf i Weinidog o Lywodraeth Cymru gynrychioli’r DU, hwn oedd y tro cyntaf yn ystod y weinyddiaeth hon ac yn ystod cyfnod Llywodraeth bresennol y DU.

Wrth i feysydd addysg a phobl ifanc gael eu datganoli, mae’n iawn bod Gweinidogion Cymru yn cael cynrychioli’r DU ar lefel yr UE o bryd i’w gilydd ac mae’r system bresennol yn gweithio’n dda. Cefais gymorth gwych oddi wrth Gynrychiolaeth Barhaol y DU a chydweithrediad llawn gan Adrannau Llywodraeth y DU.

Yr hyn ddaeth yn glir yng Nghyngor Addysg yr UE yw bod ein dull rhagweithiol a hyderus ni o addysgu’n ddigidol yn wahanol iawn i ddulliau rhai Aelod-wladwriaethau sy’n gyndyn i ddilyn yr un llwybr. O ran y blaenoriaethau ar gyfer gwaith ieuenctid ar lefel yr UE a drafodwyd yn y Cyngor Ieuenctid, roedd y Gweinidogion yn cytuno y dylid canolbwyntio ar brif-ffrydio materion sy’n berthnasol i bobl ifanc ar draws meysydd polisi, ac ar rymuso, ymgysylltu democrataidd a chyflogaeth. Pwysleisiais innau bwysigrwydd hyfforddi, prentisiaethau a llwyddiant cynlluniau fel Twf Swyddi Cymru. 

Cwrddais ag Ysgrifennydd Gwladol Seneddol Gweinidog Ffederal yr Almaen dros Addysg ac Ymchwil, Dr Helga Braun, i drafod prentisiaethau. Ymhlith y materion a godwyd gan Dr Braun oedd y ffaith bod yr Almaen yn annog pobl ifanc i symud i ardaloedd lle mae galw mawr am brentisiaid, a chanolbwyntio adnoddau ar ymyrraeth gynnar i gadw pobl ifanc yn yr ysgol.

Tra oeddwn ym Mrwsel, cwrddais hefyd â Xavier Prats Monné, Dirprwy Gyfarwyddwr Cyffredinol Cyfarwyddiaeth Gyffredinol Addysg a Diwylliant y Comisiwn Ewropeaidd (a ddyrchafwyd ers hynny yn Gyfarwyddwr Cyffredinol) a Jonathan Hill, Dirprwy Bennaeth swyddfa breifat y Comisiynydd Addysg a Ieuenctid, Androulla Vassiliou. Yn y trafodaethau hyn, rhoddais yr wybodaeth ddiweddaraf iddynt ar ein hagenda sgiliau a’n cynlluniau ynghylch Cronfa Gymdeithasol Ewrop, a phwysleisiais ymrywymiad llwyr Llywodraeth Cymru i’r Undeb Ewropeaidd.

Tynnais eu sylw at ein huchelgais i weithio gyda rhanddeiliaid yng Nghymru, megis y Cyngor Prydeinig a Swyddfa’r Comisiwn Ewropeaidd yng Nghaerdydd, i gynyddu’r niferoedd sy’n cymryd rhan yn Erasmus +. Byddaf yn gweithio gyda’r Gweinidog Addysg a Sgiliau i godi ymwybyddiaeth o Erasmus + mewn ysgolion fel y bydd disgyblion yn ymwybodol o’r cyfleoedd sydd ar gael cyn symud ymlaen i addysg bellach neu uwch. Byddaf hefyd yn manteisio ar gynnig y Cyfarwyddwr Monné i’n helpu i ledaenu gwybodaeth am y rhaglen newydd. Pwysleisiais mor bwysig yw hi i brosiectau Cymraeg allu manteisio ar Erasmus +.  

Roedd gan y Dirprwy Gyfarwyddwr Cyffredinol Monné ddiddordeb yn allwedd llwyddiant Twf Swyddi Cymru ac addewais anfon ein gwerthusiad o’r fenter ato ar ôl ei gwblhau. Trafodwyd prentisiaethau ac rwyf wedi gofyn i’m swyddogion ymchwilio i fanteision y Gynghrair Prentisiaethau Ewropeaidd, sy’n ceisio codi proffil prentisiaethau, hyrwyddo cyfathrebu â rhanddeiliaid a chynyddu’r cyllid sydd ar gael. Roedd yn ddiddorol clywed hefyd ei fod yn rhagweld mai ffocws y Comisiwn nesaf fyddai effaith polisïau ar ranbarthau.

Soniodd Jonathan Hill am y Sefydliad Ewropeaidd ar gyfer Arloesi a Thechnoleg a byddaf yn trafod y posibilrwydd o ddatblygu cysylltiad â’r sefydliad hwn yn y dyfodol gyda Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth.

Cwrddais hefyd â swyddogion sy’n arwain ym maes diweithdra ymhlith pobl ifanc yn y Comisiwn Ewropeaidd a dywedais wrthynt am ein bwriad i drefnu cynhadledd Ewropeaidd ar ddiweithdra ymhlith pobl ifanc yng Nghymru y flwyddyn nesaf. Roeddwn yn falch eu bod nhw, ynghyd â Mr Monné, wedi cytuno i gymryd rhan a chyfrannu i’r polisi. Achubais ar y cyfle i roi gwybod i swyddogion Cyfarwyddiaeth Gyflogaeth y Comisiwn am ein Gwarant Ieuenctid a’r Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid.

Yn olaf, siaradais mewn derbyniad yn Senedd Ewrop, a gyd-drefnwyd gan swyddfa UE Llywodraeth Cymru, Cyngor Prydeinig Cymru ac Addysg Uwch Cymru Brwsel, ac a lywyddwyd gan Dr Kay Swinburne ASE. Canolbwyntiais ar ymchwil ac addysgu Sefydliadau Addysg Uwch Cymru sydd o’r radd flaenaf, gan dynnu sylw at adroddiad newydd Cyngor Prydeinig Cymru ar y pwnc, a pha mor rhyngwladol yw’r sector. Siaradodd Julie Williams, ein Prif Gynghorydd Gwyddonol newydd am strwythurau cymorth Llywodraeth Cymru. Roedd ei hymweliad hithau â Brwswl yn fuddiol iawn hefyd. Y siaradwr arall oedd yr Athro Yves-Alain Barde, Athro Ymchwil Niwrofioleg Sêr Cymru. Canmolodd ef effeithlonrwydd Prifysgol Caerdydd wrth drefnu ei fod yn symud i Gymru, y Prif Gynghorydd Gwyddonol ar y pryd am y cysyniad o Sêr Cymru, a Llywodraeth Cymru am wrando a’i weithredu. Roedd hwn yn gyfle gwych i ganu clodydd Llywodraeth Cymru a’n sector Addysg Uwch, ac roeddwn wrth fy modd yn cael gweithio ochr yn ochr â Kay Swinburne i hyrwyddo Cymru ym Mrwsel.