Lynne Neagle, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
Ers dod yn Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ym mis Mawrth 2024, mae lles a diogelu plant wedi bod yn brif flaenoriaeth i mi. Rwyf wedi cymryd pob cyfle i gadw plant a phobl ifanc yn ddiogel a sicrhau eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi a’u bod yn gallu ymgysylltu wrth ddysgu.
Mae gan deuluoedd yr hawl i addysgu eu plant gartref. Fodd bynnag, lle mae rhieni’n dewis arfer yr hawl hon mae angen cydbwyso’r hawl honno a hawl y plentyn i addysg addas. Fel Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, rwyf am sicrhau bod pob plentyn yn gallu cael mynediad i addysg ac arfer eu hawl i addysg, ac rwyf wedi bwrw ymlaen ag ystod o fesurau sy’n ymwneud ag addysg ddewisol yn y cartref a phlant sy’n colli addysg i sicrhau bod hyn yn wir.
Nid yw plentyn sy’n derbyn addysg addas gartref yn colli addysg. Fodd bynnag, mae angen i awdurdodau lleol fod yn hyderus eu bod yn gwybod am yr holl blant sy’n byw yn eu hardal, a’u bod yn siŵr bod pob un o’r plant hynny yn derbyn addysg addas. Er mwyn cefnogi hyn, fe wnaethom fwrw ymlaen â chynllun peilot gyda saith awdurdod lleol yn 2025, i brofi trefniant rhannu gwybodaeth rhwng gwasanaethau iechyd ac addysg, gyda’r bwriad o helpu awdurdodau lleol i nodi plant sy’n colli addysg.
Fe wnaethom basio Rheoliadau Deddf Plant 2004 (Cronfa Ddata Plant sy’n Colli Addysg) (Peilota) (Cymru) 2025 a Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Blant mewn Ysgolion Annibynnol) (Peilota) (Cymru) 2025 ym mis Ebrill 2025. Roedd angen rhannu gwybodaeth gydag awdurdodau lleol i’w galluogi i nodi plant sy’n colli addysg yn well.
Gwerthuswyd y peilot ar gyfer y gronfa ddata plant sy’n colli addysg yn ddiweddar, a bydd yr adroddiad gwerthuso a’r argymhellion yn llywio’r gwaith y mae Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol yn ei wneud i gryfhau systemau a phrosesau, fel bod ffordd fwy effeithiol a dibynadwy o nodi plant a allai fod yn colli addysg. Rwyf wedi cytuno y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol ac yn mynd i’r afael â’r argymhellion fel rhan o gynllun gweithredu newydd ar gyfer plant sy’n colli addysg. Mae’r dull hwn yn adeiladu ar y trefniadau ymgysylltu â rhanddeiliaid sydd eisoes ar waith.
Mae’r gwaith parhaus o weithredu’r canllawiau statudol ar addysg ddewisol yn y cartref yn agwedd ar wahân ar y gwaith polisi mewn perthynas ag addysg ddewisol yn y cartref a phlant sy’n colli addysg.
Cyhoeddwyd y canllawiau yn 2023 ac ym mis Mai 2025 cytunais ar gynlluniau i gomisiynu gwerthusiad annibynnol o’i effaith. Cyhoeddwyd yr adroddiad gwerthuso ym mis Ionawr 2026. Fel gyda’r gwerthusiad o’r cynllun peilot cronfa ddata plant sy’n colli addysg, mae’r adroddiad yn cynnwys argymhellion a fydd yn cryfhau trefniadau presennol yr awdurdodau lleol.
Mae’r adroddiad gwerthuso yn cefnogi barn yr awdurdodau lleol nad yw’r canllawiau a’r ddeddfwriaeth bresennol yn ddigonol i’w galluogi i nodi’r holl blant y maent yn gyfrifol amdanynt. Cefnogir y farn hon gan Gomisiynydd Plant Cymru, a’r Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol.
Mae gwaith i fynd i’r afael â’r pryderon hirsefydlog hyn wedi’i wneud mewn cydweithrediad â’r Adran Addysg trwy ddarpariaethau newydd yn y Bil Lles Plant ac Ysgolion. Mae’r gwaith ymgysylltu ac ymgynghori â rhanddeiliaid yr ydym eisoes wedi’i wneud mewn perthynas â’r polisïau hyn wedi llywio ein safbwynt a’n sylfaen dystiolaeth ar gyfer y mesurau yn y Bil.
Ar 17 Mawrth 2026 cytunodd y Senedd ar y cynnig i ganiatáu i ddarpariaethau penodol fod yn gymwys i Gymru, gan gynnwys y cymalau ‘plant nad ydynt yn yr ysgol’. O dan y cymalau hyn, bydd gofyn i awdurdodau lleol sefydlu cofrestrau ‘plant nad ydynt yn yr ysgol’, gyda gofynion ar wahân i rieni a gofalwyr plant sy’n derbyn addysg gartref neu ddarpariaeth amgen i gofrestru gyda’r awdurdod lleol. Bydd y gofynion newydd yn darparu mwy o oruchwyliaeth o blant nad ydynt yn yr ysgol ac yn lleihau’r risg y gallai plant agored i niwed lithro drwy’r rhwyd. O dan y Bil mae pwerau dirprwyedig i Lywodraeth Cymru benderfynu sut y bydd y darpariaethau yn gweithio yng Nghymru, drwy is-ddeddfwriaeth a chanllawiau statudol newydd. Disgwylir y bydd y Bil yn derbyn Cydsyniad Brenhinol ym mis Mai. Rwy’n disgwyl y bydd llywodraeth nesaf Cymru yn ymgysylltu’n agos ag awdurdodau lleol ac yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus llawn ar y darpariaethau ar gyfer Cymru cyn gynted â phosibl yn nhymor y Senedd newydd.
Fel rhan o’r gwaith datblygu ar gyfer y ddeddfwriaeth, mae angen ystyried hefyd sut mae cyllid yn cael ei ddyrannu a sut i gefnogi awdurdodau lleol i gyflawni unrhyw gyfrifoldebau newydd yn effeithiol.
Wrth i dymor y Senedd hon ddod i ben, mater i lywodraeth nesaf Cymru fydd unrhyw benderfyniadau ynghylch blaenoriaethau yn y dyfodol a llywodraethiant o ran y gwaith hwn. Fodd bynnag, mae cymalau’r Bil ar blant nad ydynt yn yr ysgol yn darparu sylfaen gadarn ar gyfer adeiladu ar y gwaith polisi sydd eisoes wedi’i wneud ar addysg ddewisol yn y cartref a phlant sy’n colli addysg. Mae sylfaen gadarn bellach wedi’i sefydlu i lywodraeth nesaf Cymru fwrw ymlaen â’r gwaith hwn, er mwyn sicrhau bod pob plentyn yng Nghymru yn cael ei gefnogi i dderbyn addysg addas a bod eu lles yn parhau i fod wrth wraidd ein dull gweithredu.
