Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Gorffennaf 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rwyf wedi sôn o’r blaen am  f’ymrwymiad i ehangu addysg a hyfforddiant meddygol yn y Gogledd. Rhaid i unrhyw ehangu fod yn gynaliadwy a rhaid iddo fod yn rhan o’r trefniadau sydd wedi’u sefydlu’n barod ar gyfer addysg a hyfforddiant meddygol. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg o’r un farn.

Prifysgolion Caerdydd, Abertawe a Bangor, yn cydweithio â’i gilydd, sydd wedi bod yn y sefyllfa orau i nodi ac archwilio’r opsiynau ar gyfer rhoi cynlluniau ar waith i ehangu addysg feddygol yn y Gogledd.

Mae’r prifysgolion wedi gwneud cynnydd sylweddol, ac fe wnaethon nhw gyflwyno’u cynigion yn gynharach eleni i’w hystyried ymhellach. Mae’r cynigion hyn yn adlewyrchu’r ffaith fod y materion a wynebir yn y Gogledd yn wir am rannau eraill o Gymru hefyd, yn enwedig y Gorllewin. O ganlyniad, bydd Prifysgol Aberystwyth hefyd yn rhan o’r gwaith o ddatblygu’r cynigion.

Gallaf gadarnhau  heddiw fod Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a minnau wedi cytuno ar ddull gweithredu a fydd yn golygu y bydd  cynnydd ar unwaith mewn lleoedd astudio mewn ysgolion meddygol yng Nghymru. Bydd hefyd yn sicrhau bod mwy o fyfyrwyr meddygol yn astudio yn y Gogledd, ac yn darparu llwybr ar gyfer hyfforddi meddygon yn gyfangwbl yn y Gogledd.

Bydd mwy o bwyslais ar hyfforddiant yn y gymuned, sy’n adlewyrchu’r camau i ddarparu mwy o ofal yn nes at gartrefi pobl, a bydd y trefniadau newydd yn rhoi mwy o gyfleoedd i siaradwyr Cymraeg astudio drwy gyfrwng y Gymraeg.

O dan y trefniadau newydd, bydd 40 o leoedd ychwanegol yn cael eu hariannu mewn ysgolion meddygol o fis Medi ymlaen, a’r rheini wedi’u rhannu rhwng prifysgolion Caerdydd ac Abertawe.

·        Bydd cydweithio rhwng prifysgolion Caerdydd a Bangor yn golygu y bydd modd i fyfyrwyr meddygaeth allu astudio yn y Gogledd drwy gydol eu cwrs gradd mewn meddygaeth, a chynllunio ar gyfer eu hyfforddiant ôl-raddedig. Elfen allweddol o’r trefniadau pontio fydd lleoliadau hirach yn y Gogledd, gyda mwy o bwyslais ar weithio yn y gymuned. Erbyn 2019, rydym yn disgwyl y bydd trefniadau wedi’u sefydlu i alluogi myfyrwyr i astudio’u gradd feddygol i gyd yn y Gogledd.

·        Bydd mwy o leoedd ar gael yn y Gorllewin drwy gydweithio rhwng prifysgolion Abertawe ac Aberystwyth, gyda mwy o bwyslais ar weithio yn y gymuned.

Daw’r cyllid cychwynnol i ariannu hyn o’r adnoddau a ddynodwyd yn y cytundeb dwy flynedd gyda Phlaid Cymru ar y Gyllideb, ond mae’r ymrwymiad yn mynd y tu hwnt i’r cytundeb hwnnw. 

Ni fydd ehangu’r cyfleoedd ar gyfer addysg feddygol yn y Gogledd a’r Gorllewin yn ddigon, ynddo’i hun, i fynd i’r afael â’r heriau sy’n ein hwynebu o ran cynnal ein gweithlu meddygol. Rhaid inni sicrhau bod maes meddygaeth yn cael ei ystyried yn ddewis gyrfa deniadol a hygyrch.

Rydym wedi bod yn treialu rhaglenni profiad gwaith mewn meddygfeydd ledled Cymru, ac mae’n ymddangos bod hyn wedi cael effaith gadarnhaol. Darparwyd cyllid hefyd i gefnogi rhaglen ar gyfer disgyblion ysgol sydd â diddordeb mewn gwneud cais i fynd i ysgol feddygol. Mae hyn yn cynnwys rhaglen breswyl am ddeuddydd, sy’n rhoi gwybodaeth i’r mynychwyr am realiti bod yn feddyg ac yn eu helpu i ymgyfarwyddo â’r broses dderbyn ar gyfer ysgolion meddygol. Gyda’i gilydd, mae’r rhain yn elfennau allweddol o fframwaith gyrfaoedd meddygol ar gyfer Cymru.

Mae’r un mor bwysig ystyried y cyfleoedd ôl-raddedig sydd ar gael drwy Gymru, a bydd gofyn gwneud rhagor o waith yn ystod y misoedd nesaf i archwilio hyn yn fanylach. Mae’r cyhoeddiad heddiw yn gam pwysig tuag at fynd i’r afael â rhai o’r materion hirdymor o ran recriwtio a chadw staff meddygol yn y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru. Bydd yn sicrhau bod meddygon yn cael eu hyfforddi yn y Gogledd o fewn cyfnod byrrach nag y byddai wedi’i gymryd i sefydlu ysgol feddygol.

Hoffwn ddiolch i’r prifysgolion am eu hymrwymiad ac am eu gwaith ar y cyd i ddatblygu’r cynigion i gefnogi’r ehangu hwn.