Neidio i'r prif gynnwy

Huw Lewis, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Mawrth 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Ym mis Mehefin 2015, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y ddogfen, Adolygiad o addysg uwch mewn sefydliadau addysg bellach.  Roedd yr adolygiad yn ystyried strwythur a ffurf addysg uwch ar lefelau 4 a 5 a ddarperir gan sefydliadau addysg bellach yng Nghymru. Amlinellodd yr adolygiad argymhellion i gryfhau'r hyn a gynigir a chynyddu'r nifer o fyfyrwyr sy'n dechrau cyrsiau, yn enwedig mewn perthynas â myfyrwyr rhan-amser.

Roedd canfyddiadau'r adolygiad yn herio sefydliadau addysg uwch ac addysg bellach i greu partneriaethau cryfach, er mwyn darparu addysg uwch mewn lleoliadau addysg bellach. Roedd yr adolygiad yn cydnabod bod trefniadau breinio'n chwarae rôl hanfodol wrth sicrhau ansawdd addysg uwch. Roedd hefyd yn annog cydweithio strategol rhwng y sectorau addysg bellach ac uwch, ac yn sicrhau dull cydlynol o gyflenwi cyrsiau breiniol.

Heddiw, mae Rheoliadau Addysg Uwch (Cyrsiau Cymhwysol, Personau Cymhwysol a Darpariaeth Atodol) (Cymru) (Diwygio) 2016 wedi'u gosod gerbron y Cynulliad. Mae'r rheoliadau hyn yn cael eu gwneud yn ôl gweithdrefn penderfyniad negyddol.

Mae'r rheoliadau’n rhagnodi cwmpas cyrsiau, a ddarperir gan neu ar ran sefydliad a reoleiddir, ac a fydd yn gyrsiau cymhwysol at ddibenion terfynau ffioedd o dan y system reoleiddio a gyflwynwyd gan Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015. Effaith y rheoliadau, o ran cyrsiau breiniol, yw y bydd y cyrsiau a ddarperir ar ran sefydliad a reoleiddir gan ddarparwr allanol (sefydliad wedi'i freinio) yn cael eu hystyried yn gyrsiau cymhwysol at ddibenion terfynau ffioedd, dim ond os bydd y sefydliad wedi'i freinio yn un sydd â statws elusennol.  Mae pob sefydliad addysg bellach yng Nghymru yn elusen, ac mae'r rheoliadau drafft yn sicrhau y bydd y cyrsiau a ddarperir ar ran sefydliadau a reoleiddir gan sefydliadau addysg bellach yn ddarostyngedig i derfynau ffioedd.  

Yn ychwanegol, mae'r rheoliadau'n egluro pa gyrsiau a ddylai gael eu cynnwys mewn cynlluniau ffioedd a mynediad sefydliad a reoleiddir.  Rwy eisoes wedi egluro bod Llywodraeth Cymru am i gynlluniau ffioedd a mynediad wneud cyfraniad sylweddol a pharhaol at ehangu mynediad i addysg uwch yng Nghymru.