Neidio i'r prif gynnwy

Jeremy Miles, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Rhagfyr 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn hydref 2023, cyhoeddodd Prif Gynghorydd Gwyddonol Iechyd Llywodraeth Cymru Adroddiad ar amcanestyniadau, tystiolaeth iechyd ac argymhellion polisi | LLYW.CYMRU  gan ddisgrifio'r heriau y mae'r GIG yng Nghymru yn debygol o'u hwynebu yn ystod y 10 i 25 o flynyddoedd nesaf.  Roedd yr adroddiad yn glir y bydd yr heriau demograffig, economaidd, a chymdeithasol presennol sy'n wynebu ein system iechyd a gofal yng Nghymru yn parhau i roi pwysau anghynaliadwy ar ein gwasanaethau. 

Mewn ymateb i'r dystiolaeth a nodir yn yr adroddiad hwn, cyhoeddodd cyn Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol y byddai'r camau gweithredu yng nghynllun Cymru Iachach, sef ein cynllun hirdymor ar gyfer iechyd a gofal, yn cael eu hadnewyddu. 

Mae’r camau gweithredu sydd wedi eu hadnewyddu ar gael yma: https://www.llyw.cymru/cymru-iachach-cynllun-hirdymor-ar-gyfer-iechyd-gofal-cymdeithasol