Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Chwefror 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, rwy'n falch o nodi bod Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng Llywodraeth Cymru a Sefydliad Iechyd y Byd, Ewrop wedi'i adnewyddu. 

Mae'r Memorandwm yn cwmpasu meysydd tegwch a hawliau iechyd; buddsoddi ar gyfer iechyd a lles a'r amodau sylfaenol sy'n hanfodol ar gyfer iechyd; a datblygu cynaliadwy a ffyniant i bawb. Mae ein partneriaeth eisoes wedi ein galluogi i feithrin dealltwriaeth fanylach o'r hyn sydd wrth wraidd anghydraddoldebau iechyd drwy Fenter Adroddiad Statws Tegwch Iechyd Cymru. Cymru oedd un o'r gwledydd cyntaf yn Ewrop i fabwysiadu'r fenter arloesol hon gan Sefydliad Iechyd y Byd.

Drwy ein gwaith gyda Sefydliad Iechyd y Byd, nodwyd y pum cyflwr hanfodol sydd eu hangen i sicrhau tegwch iechyd, gan gynnwys y system iechyd a gofal; diogelwch incwm a gwarchodaeth gymdeithasol; amodau byw; cyfalaf cymdeithasol a dynol; ac amodau cyflogaeth a gwaith. Mae'n taflu goleuni ar y bylchau sylweddol mewn iechyd a hunanadroddir rhwng y rhai sydd â sicrwydd ariannol a'r rhai sydd heb. 

Mae anfantais economaidd-gymdeithasol, fel diweithdra ac incwm is, yn gysylltiedig â salwch ac mae'n fwy tebygol o ysgogi ymddygiadau nad ydynt yn iach, fel ysmygu.

Yn ogystal, mae pobl â salwch neu anableddau (corfforol a meddyliol) yn fwy tebygol o fod yn ddi-waith neu fod â swyddi o ansawdd gwael gyda llai o gyfleoedd i ddatblygu. Mae hyn yn debygol o gael effaith ar eu plant.

Mae mynd i'r afael ag anghydraddoldebau sydd wedi'u gwreiddio mor ddwfn gan flynyddoedd o lai a llai o gyllid gan Lywodraeth y DU, a chyni am flynyddoedd yn sgil hynny, yn golygu bod rhaid inni wneud mwy gyda llai.

Wrth edrych ymlaen at 2024-25, rhaid inni gydnabod y cyfyngiadau ar gyllid Llywodraeth Cymru: mae ein cyllideb yn werth tua £1.3 biliwn yn llai mewn termau real na phan gafodd ei gosod yn 2021. Golyga hyn fod angen inni feddwl yn wahanol. Rhaid addasu, ailosod ac ailfeddwl.

Mae hon yn her sylweddol, ond nid yw'n un amhosibl.

Er gwaethaf y pwysau ariannol arnom fel llywodraeth, rydym wedi ymrwymo i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb o bob math. Mae hyn yn hollbresennol yn ein Rhaglen Lywodraethu drwyddi draw. 

Rydym mewn sefyllfa unigryw yng Nghymru gan fod gennym fframwaith cyfreithiol i osod y gwaith hwn ynddo drwy Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Drwy osod ein huchelgeisiau yn erbyn y saith nod llesiant, rydym yn fwy tebygol o weld Cymru gyfiawn yn economaidd, yn gymdeithasol ac yn amgylcheddol, a Chymru y byddem am i'n plant a'n hwyrion ei hetifeddu oddi wrthym. Mae ein Deddf sy'n arwain y byd ac sy'n destun cenfigen yn sicrhau "dull Iechyd ym Mhob Polisi". 

Ond er ein bod yn falch o’r fframwaith rydym yn gweithio ynddo, rydym yn cydnabod bod ffordd bell i fynd o hyd a llawer i’w ddysgu. 

Rydym yn un o chwe llywodraeth sy'n rhan o Rwydwaith Llywodraethau'r Economi Llesiant. Drwy ein gwaith gyda Sefydliad Iechyd y Byd, rydym ni, ynghyd â gwledydd eraill, yn ystyried sut y gall y system iechyd a gofal helpu i greu economi sy'n gwasanaethu pobl a'r blaned. 

Bydd cyfleoedd i rannu profiadau a dysgu oddi wrth eraill yn cryfhau ein hymdrechion a'n heffaith. Dyna pam, fis nesaf, rwy'n bwriadu rhannu ein profiadau yng Nghymru â’n cydweithwyr Ewropeaidd. 

Bydd adnewyddu'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yn helpu i gryfhau cysylltiadau rhyngwladol ac yn hwb mawr wrth inni anelu at greu Cymru iachach a mwy llewyrchus.