Mabon ap Gwynfor AS, y Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Mae cynllun 100 diwrnod cyntaf Llywodraeth Cymru yn cynnwys ymrwymiad i gomisiynu adolygiad annibynnol o berfformiad y GIG yng Nghymru, gan ganolbwyntio'n benodol ar effeithiau rhestrau aros ar iechyd y boblogaeth, ac i gomisiynu adolygiad o anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru. Heddiw, yn dilyn cyngor gan swyddogion, rwy'n cadarnhau y bydd yr adolygiad o berfformiad y GIG yng Nghymru yn cael ei gynnal gan y Sefydliad Iechyd.
Rwyf wedi bod yn glir o'r dechrau bod yr amseroedd aros am driniaeth a etifeddwyd gennym yn annerbyniol, a dyna pam rydym wedi sicrhau bod mynd i'r afael â'r mater hwn yn un o brif flaenoriaethau'r Llywodraeth bresennol. Rwyf hefyd yn credu'n gryf bod anghydraddoldebau iechyd yn parhau i fod yn rhy gyffredin yng Nghymru. Mae sicrhau tegwch o ran mynediad at wasanaethau a chanlyniadau triniaeth ledled Cymru, waeth beth fo amgylchiadau'r unigolyn neu'r lleoliad daearyddol, yn genhadaeth sy'n gyrru'r Llywodraeth hon.
Mae'n hanfodol yn hyn o beth ein bod yn adeiladu corff o dystiolaeth gadarn am sut y mae'r etifeddiaeth o amseroedd aros hir ac anghydraddoldebau gofal iechyd wedi cael effaith niweidiol ar iechyd ein poblogaeth yn ystod y blynyddoedd diwethaf – a bydd hynny yn ei dro yn amhrisiadwy wrth lywio ein dull gweithredu ar gyfer mynd i'r afael â nhw.
Bydd yr adolygiad yn darparu asesiad gwrthrychol o berfformiad cyfredol y GIG, y prif ffactorau sy'n gyrru heriau perfformiad, a'r blaenoriaethau ar gyfer gweithredu i wella perfformiad a chanlyniadau, lleihau amrywiadau diangen, a chryfhau hyder y cyhoedd.
Bydd hefyd â'r nod o archwilio'r berthynas rhwng amseroedd aros, iechyd y boblogaeth, anghydraddoldebau, a chanlyniadau, gan gynnwys i ba raddau y gall oedi effeithio ar gyflyrau iechyd pobl neu fynediad anghyfartal at ofal amserol. Bydd hefyd yn nodi cyfleoedd i wella cynhyrchiant, gwerth, a chyflawni ar draws y system, ac yn ystyried a yw'r dulliau gweithredu presennol yn canolbwyntio'n ddigonol ar welliannau ystyrlon a'r effaith ar iechyd y boblogaeth.
Mae'r Sefydliad Iechyd yn cynnig cynnal adolygiad cyflym yn seiliedig ar dystiolaeth, gan ddefnyddio cymysgedd o asesiadau dadansoddol, dadansoddiadau polisi, ac ymgysylltu â rhanddeiliaid. Bydd yr adolygiad yn cael ei strwythuro'n seiliedig ar fframweithiau asesu perfformiad systemau iechyd a gydnabyddir yn rhyngwladol, wedi'u haddasu i gyd-destun Cymru a’u halinio â Fframwaith Perfformiad GIG Cymru a'r prif ymrwymiadau polisi.
Bydd yn cynnwys dadansoddiad o ddangosyddion blaenoriaethau ar draws iechyd y boblogaeth, mynediad, ansawdd a chanlyniadau, yn ogystal â'r defnydd o adnoddau, gan ymgysylltu ag arweinwyr systemau allweddol, a gweithio mewn partneriaeth ag Iechyd Cyhoeddus Cymru ar feysydd dadansoddi perthnasol, gan gynnwys effeithiau amseroedd aros ar iechyd ac anghydraddoldebau.
Rwy'n disgwyl i'r adolygiad adrodd i mi ar ei ganfyddiadau a'i argymhellion erbyn diwedd mis Mawrth 2027. Byddaf yn rhoi diweddariad pellach ar ôl ystyried yr adroddiad terfynol.
