Neidio i'r prif gynnwy

Huw Irranca-Davies AS, Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Hydref 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Hoffwn i'r aelodau wybod am y gwerthusiad diweddar a gomisiynwyd gan y Llywodraeth o ofynion a systemau CPH. Cafodd y strategaeth adolygu gefnogaeth lawn y Grŵp Cynghori ar Adnabod Da Byw (LIDAG) sy'n cynnwys cynrychiolwyr o'r diwydiant ffermio ymhlith ei aelodau. Cafodd y cwmni ymchwil annibynnol ALMA Economics y dasg o gynnal y gwerthusiad hwn i asesu effaith arferion heddiw ar y gallu i olrhain da byw ac i nodi'r hyn y gellid ei wella. Cynigiwyd sawl argymhelliad i wella'r system CPH:

  • Dileu Gofynion Tir Comin: Newid y polisi sy'n ei gwneud yn ofynnol bod tir comin yn ffinio â Phrif Leoliad Cynhyrchu (PPL), er mwyn gwneud y newid yn haws i geidwaid da byw.
  • CPHs Dros Dro Cylchol: Caniatáu i CPHs dros dro gael eu hailgreu bob blwyddyn, gan leihau'r baich gweinyddol ar ffermwyr.
  • Symleiddio'r Drefn Cyhoeddi Rhifau: Cyhoeddi'r un rhif CPH ar gyfer CPHs dros dro ac Unedau Cwarantîn er mwyn ei gwneud hi'n haws olrhain.
  • Dyddiad cau ar gyfer Newid: Dyddiad cau o flwyddyn i bob defnyddiwr i newid i'r rheolau CPH newydd, ynghyd â phecyn cymorth.
  • Datblygu Siop Un Stop: Ystyried creu 'Siop Un Stop' ar gyfer cyhoeddi rhifau CPH a rhifau diadell/buches i symleiddio'r broses i ffermwyr.

Ar ôl eu cyhoeddi, bydd swyddogion yn ystyried sut orau i roi'r argymhellion ar waith. 

Gallwch gael mynediad i'r cyhoeddiad yn uniongyrchol trwy'r ddolen hon: https://www.llyw.cymru/adroddiad-adolygiad-rhifau-adnabod-daliadau-cph