Neidio i'r prif gynnwy

Hannah Blythyn AS, y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Gorffennaf 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ddoe, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei Hadolygiad Annibynnol o Brofiadau Cyn-aelodau o’r Lluoedd Arfog sy’n LHDT (Saesneg yn Unig) ac ymddiheurodd y Prif Weinidog yn gyhoeddus am driniaeth hanesyddol y rhai a gafodd eu gorfodi allan o’r fyddin am fod yn hoyw. Rwy’n croesawu’r cyhoeddiad hwn a’r argymhellion y mae’n eu gwneud ar gyfer gweithredu ledled y DU, gan gynnwys Cymru.

Comisiynodd Llywodraeth y DU yr Arglwydd Etherton CB i arwain adolygiad annibynnol o effaith troseddoli rhywun am fod yn hoyw yn y fyddin Brydeinig rhwng 1967 a 2000. Yn ymarferol, roedd cael eich amau, neu eich canfod o fod yn LHDTC+ yn y fyddin yn golygu wynebu’r posibilrwydd o ymchwiliad troseddol, carchar a diswyddiad. Ar ben hynny, gallech golli eich medalau. Roedd pobl yn gorfod byw eu bywydau yn y dirgel. Un o sgil-effeithiau’r amgylchedd hwn oedd bod milwyr yn destun bwlio, gorfodaeth a chamdriniaeth rywiol ar sail eu rhywioldeb gwirioneddol neu ganfyddedig.

Yr wythnos diwethaf, fe wnes i ymweld â’r ganolfan gymorth, Served and Proud ym Mhontypridd ac ymuno ag un o’i chyfarfodydd rheolaidd. Cefais y fraint o drafod â chyn-aelodau o’r lluoedd arfog sy’n LHDTC+ eu gobeithion ar gyfer yr adolygiad. Roedd yn glir, ddegawdau ar ôl gwasanaethu, fod effaith y ffordd y cawsant eu trin yn ystod eu cyfnod yn y fyddin yn dal i gael ei theimlo heddiw.

Rwy’n llwyr gydnabod dewrder pob un sydd wedi rhoi tystiolaeth i’r tîm adolygu ac rydym yn cymryd lles pawb sydd wedi gwasanaethu o ddifrif. Gall y cyhoeddiad hwn a’r sylw a roddir iddo yn y cyfryngau fod yn destun gofid a byddwn i’n annog pobl i estyn allan am gymorth.

Mae ein gwasanaeth newydd, sef y gwasanaeth GIG 111 Pwyso 2 ar gyfer cymorth iechyd meddwl brys, bellach ar gael ledled Cymru gyfan. Mae’n darparu cymorth 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos, mewn ymateb i anghenion iechyd meddwl brys, ac mae ar gael i bob oedran.

Mae cymorth ar gael hefyd ar gyfer pryderon iechyd meddwl llai brys, er enghraifft, drwy ein llinell gyngor a gwrando CALL ar y rhif rhadffôn 0800 132 737 ac ar-lein yn https://callhelpline.org.uk a thrwy SilverCloud, sy’n darparu mynediad ar-lein i ystod o therapïau: SilverCloud – Therapi Iechyd Meddwl am ddim y GIG

Mae llinell gymorth Therapi Trosi Galop ar 0800 130 3335 yn wasanaeth gwybodaeth a gwrando cyfrinachol a diogel ar gyfer unrhyw berson LHDT+ sy’n 13 a hŷn ac sy’n profi, neu wedi profi, camdriniaeth gyda’r nod o newid neu wella eu hunaniaeth LHDT+.

Mae gwasanaeth Veterans’ Gateway ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos ar 0808 802 1212 neu gall cyn-filwyr anfon neges destun gyda’u manylion i 81212 a bydd cynghorydd mewn cysylltiad cyn gynted â phosibl. Gall cyn-filwyr hefyd siarad â chynghorydd drwy e-bostio neu ddefnyddio’r swyddogaeth sgwrsio byw ar wefan y gwasanaeth: https://www.veteransgateway.org.uk (Saesneg yn Unig)

Mae’r adolygiad yn rhoi pwys mawr ar godi ymwybyddiaeth o gyn-aelodau o’r lluoedd arfog sy’n LHDTC+ ymhlith sefydliadau sy’n darparu cymorth iechyd a lles ac ar gyflawni nod barcut ac achrediad fel arwydd gweladwy o’r ymrwymiad hwnnw. Rwy’n cefnogi hyn yn fawr ac rwy’n falch o weld y cynnydd sydd eisoes wedi’i wneud yng Nghymru gyda sefydliadau yn mabwysiadu’r Safon Balchder mewn Cyn-filwyr a gynigir gan yr elusen ar gyfer cyn-aelodau o’r lluoedd arfog sy’n LHDT+, Fighting with Pride.

Mae ein hymrwymiad i weithredu ar gyfer pobl LHDTC+ ledled Cymru yn golygu bod cynulleidfa barod ar draws y sector cyhoeddus a’r trydydd sector ac mae nifer y sefydliadau drwy Gymru sy’n ymrwymo i’r safon yn brawf o’r parodrwydd hwnnw. Diolch i waith Ruth Birch, mae presenoldeb Fighting with Pride yng Nghymru wedi bod yn allweddol i godi ymwybyddiaeth o’r adolygiad ac annog pobl i ddod ymlaen i roi tystiolaeth. Hoffwn longyfarch Ruth ar ennill gwobr ‘Ysbrydoliaeth y Flwyddyn’ yn seremoni Gwobrau Cyn-filwyr Cymru ar 5 Gorffennaf.

Caiff y datganiad hwn ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau yn unol â chyhoeddiadau gan Lywodraeth y DU. Os bydd yr Aelodau eisiau imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.