Neidio i'r prif gynnwy

Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Ionawr 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ar 28 Awst 2020, cyhoeddais fy mod yn sefydlu Adolygiad Annibynnol i edrych ar drefniadau haf 2020 ar gyfer dyfarnu graddau, ac i ystyried y trefniadau ar gyfer haf 2021. Wrth wneud hynny, gwahoddais Louise Casella, Cyfarwyddwr y Brifysgol Agored yng Nghymru, i weithredu fel Cadeirydd ac i sefydlu Panel Adolygu. Mae aelodau’r Panel yn cynnwys:

•   Yr Athro Alma Harris, Dirprwy Bennaeth Ysgol Addysg Prifysgol Abertawe. Cynghorydd Addysg Rhyngwladol i Brif Weinidog a Dirprwy Brif Weinidog yr Alban;

•   Rosemary Jones OBE, Cynghorydd Gwella Ysgolion, Ymgynghorydd Addysg a chyn Bennaeth;

•   Andy Youell, arbenigwr data a systemau llawrydd, a oedd gynt yn Gyfarwyddwr Polisi a Llywodraethu Data yn Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA).

Heddiw rwy'n croesawu cyhoeddi eu hadroddiad terfynol a hoffwn ddiolch i holl aelodau'r Panel Adolygu, gan gynnwys Dr Sue Hybart am y gefnogaeth a ddarparodd hithau hefyd, am eu gwaith caled wrth ymgymryd â'r dasg bwysig hon. Rwyf hefyd yn hynod ddiolchgar i'r holl ddysgwyr a'u teuluoedd, ymarferwyr a rhanddeiliaid ar draws y sector addysg a wnaeth rannu eu barn a'u profiadau.

Mae'r cyhoeddiad hwn yn nodi'r ail adroddiad gan y Panel Adolygu. Fe wnaeth yr adroddiad cyntaf, a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2020, lywio fy mhenderfyniad i ganslo arholiadau yn 2021, ochr yn ochr â chyngor arbenigol Cymwysterau Cymru a'm trafodaethau â rhanddeiliaid addysg a phartneriaid yng Nghymru a thu hwnt.

Mae'r adroddiad a gyhoeddwyd heddiw wedi cael ei ystyried gan y Grŵp Cynghori Dylunio a Chyflawni o benaethiaid ysgolion ac arweinwyr colegau sydd wedi bod yn gweithio i ddatblygu trefniadau diwygiedig ar gyfer cymwysterau yn 2021.

Rwy'n ddiolchgar am waith y Panel Adolygu, ochr yn ochr â gwaith y Grŵp Cynghori Dylunio a Chyflawni, ac arbenigedd a hyblygrwydd Cymwysterau Cymru a CBAC, a wnaeth fy ngalluogi i wneud fy nghyhoeddiad ar 20 Ionawr ynghylch cymwysterau yn 2021. Roedd y cyhoeddiad hwn yn nodi fy mwriad y bydd cymwysterau dysgwyr sy'n dilyn TGAU, UG a Safon Uwch a gymeradwyir gan Gymwysterau Cymru yn cael eu dyfarnu drwy fodel Gradd a Bennir gan Ganolfan.

Er bod gwaith pwysig i'w wneud o hyd i gwblhau rhai o fanylion y model Gradd a Bennir gan Ganolfan, fy ngobaith a'm disgwyliad yw y gall ein system addysg barhau i weithio gyda'i gilydd i gefnogi dilyniant ein dysgwyr mewn blynyddoedd arholiadau, drwy gyflwyno'r trefniadau asesu hyn a thrwy becyn cymorth ehangach.

Hoffwn ddiolch i bob dysgwr a gweithiwr addysg proffesiynol am eu hyblygrwydd a’u parodrwydd i addasu wrth ymateb i'r sefyllfa yr ydym ynddi. Mae eich cyfraniad unigol a chyfunol i'r ymdrech genedlaethol yn erbyn Covid-19 yn wirioneddol ysbrydoledig.
 

Adolygiad annibynnol