Neidio i'r prif gynnwy

Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Sefydliad:
Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Gorffennaf 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cynhelir adolygiad annibynnol o oblygiadau ein diwygiadau addysg o ran rôl Estyn yn y dyfodol. Cynhelir yr adolygiad gan yr Athro Graham Donaldson, gan ddechrau ym mis Awst eleni. Bydd yn cyflwyno adroddiad ddechrau 2018.

Comisiynwyd yr adolygiad gan Brif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru, ac mae yntau wedi ysgrifennu ataf i ofyn am fy nghefnogaeth i gynnal adolygiad. Gallaf gadarnhau fy mod yn llwyr o blaid y cynnig, fel y gallwn barhau i wella safonau yn ein system addysg.

Ysgrifennodd y Prif Arolygydd ataf mewn ffordd agored a thryloyw ynghylch y mater hwn, gan gydnabod bod maes addysg yng Nghymru yn newid yn gyflym ac y gall yr adolygiad annibynnol hwn wella gwaith yr Arolygiaeth a sicrhau y bydd Estyn yn mynd o nerth i nerth.

Rwy’n falch bod yr Athro Graham Donaldson wedi cytuno i gynnal yr adolygiad. Mae ef yn meddu ar wybodaeth drylwyr o’r arolygiaethau, systemau addysg yng Nghymru ac yn rhyngwladol a maes ymchwil addysgol.  Mae ganddo brofiad helaeth mewn cynnal adolygiadau o systemau addysg ledled y byd, gan gynnwys Awstralia, Portiwgal, Sweden a Siapan.

Bydd ef yn cyflwyno ei adroddiad i’r Prif Arolygydd a minnau. Rwy’n disgwyl i’r adolygiad gasglu a dadansoddi tystiolaeth am arolygu, gwella ansawdd ac atebolrwydd, tra bydd yn cynorthwyo Estyn i fireinio a datblygu ei harferion.

Dyma’r adeg briodol i gynnal adolygiad o’r fath, a fydd yn ategu mentrau eraill megis ein hymgynghoriad cyfredol ar addysg a hyfforddiant ôl-orfodol: “Budd y Cyhoedd a Chymru Ffyniannus – Datblygu system addysg a hyfforddiant ôl-orfodol ddiwygiedig”.

Cyhoeddir cylch gorchwyl yr adolygiad yn fuan ar wefan Estyn.