Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans, Gweinidog Tai ac Adfywio

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Mai 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Diben y datganiad hwn yw tynnu sylw'r Aelodau at gyhoeddi adroddiad terfynol Adolygiad Annibynnol o Reoliadau Adeiladu a Diogelwch Tân, o dan gadeiryddiaeth y Fonesig Judith Hackitt, i Lywodraeth y Deyrnas Unedig

Cafodd yr adolygiad annibynnol ei gomisiynu'n rhan o ymateb uniongyrchol Llywodraeth y Deyrnas Unedig i'r tân trasig yn Nhŵr Grenfell fis Mehefin diwethaf. Croesawaf gyhoeddi'r adroddiad terfynol sy'n adeiladu ar y casgliadau interim a gyhoeddwyd yn gynharach eleni.

Fel y nodais yn fy llythyr dyddiedig 21 Mawrth, rydyn ni'n parhau i weithio'n agos â Llywodraeth y Deyrnas Unedig ac ar draws Llywodraeth Cymru wrth i ni ystyried yr angen am newidiadau yn sgil trasiedi Grenfell.

Tra bo argymhellion y Fonesig Judith wedi'u hanelu at Lywodraeth y DU, o ystyried y cyd-destun eang tebyg rydyn ni'n gweithio oddi mewn iddo yng Nghymru, maent yn cynnig i ni sylfaen gadarn a defnyddiol i ddatblygu ein camau gweithredu hirdymor a chadarn ein hunain i ddiogelwch adeiladau. Yn greiddiol i'n dull o weithredu fydd lles a diogelwch preswylwyr yng Nghymru.

Hoffwn gofnodi'n ffurfiol fy niolch i'r Fonesig Judith Hackitt am yr ymgysylltiad rhwng y tîm oedd yn cynnal yr adolygiad a Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid eraill yng Nghymru yn ystod camau ffurfiannol yr adolygiad.

Mae adroddiad y Fonesig Judith yn un heriol, yn briodol felly o ystyried maint y drasiedi a'i hysgogodd. Mae nifer o ganfyddiadau ac argymhellion arwyddocaol iawn ac ar lefel uchel yn yr adroddiad. Byddai eu heffaith ar nifer o feysydd portffolio, ar nifer o sefydliadau yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat ac yn wir, ar y preswylwyr eu hunain, yn sylweddol. Mae angen i ni nawr graffu arnynt yn iawn, eu hystyried ac yna ymateb iddynt. Nid yw hyn yn golygu, fodd bynnag, y bydd yna oedi neu ddiffyg ymrwymiad i gymryd y camau angenrheidiol.  Wrth ystyried yr argymhellion yn fanwl byddwn yn parhau i fabwysiadu'r un dull o weithredu ar draws Llywodraeth Cymru ag a gymerwyd ers y tân yn Nhŵr Grenfell.  Byddaf yn parhau mewn cyswllt ag Ysgrifenyddion y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus a thros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig. Byddwn hefyd yn parhau i gysylltu â'n cymheiriaid yn Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Y mae'r materion hyn, fodd bynnag, yn rhai sydd wedi'u datganoli a byddwn wrth reswm yn gweithredu ar yr argymhellion mewn modd a fydd yn adlewyrchu buddiannau ac, yn y pen draw, les pob Cymru, orau.

Byddaf yn parhau i ddiweddaru'r Aelodau ynghylch ein hymateb i'r adolygiad eang hwn.  Dyma fanteisio ar y cyfle hefyd i rannu ag Aelodau 'ddatganiad sefyllfa' ac argymhellion y Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch Tân a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru yn dilyn y tân yn Nhŵr Grenfell.  Mae'r argymhellion yn gyson â'r rhai yn yr Adolygiad Annibynnol ac rwyf wedi gofyn i'r Grŵp Cynghori edrych ar yr elfennau sy'n ymwneud â diogelwch rhag tân.  Byddaf yn parhau i rannu'r wybodaeth hon a hefyd ein hymateb i'r sefyllfa.