Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AS, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Medi 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, rwy’n cyhoeddi ymateb Llywodraeth Cymru i adolygiad annibynnol o wasanaethau fferylliaeth glinigol yn ysbytai’r GIG yng Nghymru, a gynhaliwyd gan y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol.

Wrth i ddarpariaeth gofal y GIG esblygu, mae angen gwneud newidiadau er mwyn sicrhau bod fferylliaeth mewn ysbytai yn parhau i fod yn gatalydd ar gyfer datblygiadau clinigol, ac y manteisir i’r eithaf ar y cyfraniad unigryw y gall fferyllwyr a thechnegwyr fferyllol ei wneud i wella gofal iechyd ac i fynd i’r afael â’r heriau y mae’r system iechyd a gofal system ehangach yn eu hwynebu.

Y llynedd, cytunais y byddai adolygiad annibynnol yn cael ei gynnal o’r gwasanaethau fferylliaeth glinigol a ddarperir yn ysbytai’r GIG yng Nghymru, er mwyn sicrhau cysondeb â’n rhaglenni cenedlaethol Fferylliaeth: Cyflawni Cymru IachachChwe nod ar gyfer gofal brys a gofal mewn argyfwng, Trawsnewid a moderneiddio gofal a gynlluniwyd a lleihau rhestrau aros, yn ogystal â’n strategaeth ehangach ar gyfer y GIG.

Dan arweiniad y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol yng Nghymru, mae’r adolygiad wedi cynnwys mwy na mil o gysylltiadau â'r gweithlu fferylliaeth mewn ysbytai yn GIG Cymru, yn y DU ac yn fyd-eang i ganfod sut y gellir defnyddio sgiliau clinigol fferyllwyr ysbytai a thechnegwyr fferyllol, fferyllwyr-bresgripsiynwyr a'r gweithlu fferyllol ehangach yn fwy effeithiol, nid yn unig o fewn ysbytai, ond hefyd yn y gymuned ac yng nghartrefi pobl.

Hoffwn ddiolch i’r Gymdeithas Fferyllol Frenhinol am ei waith wrth gynnal yr adolygiad, ac i bawb a gyfrannodd ato.

Daethpwyd i’r casgliad bod llawer o enghreifftiau da ar draws Cymru o ran gweithwyr proffesiynol ym maes fferylliaeth yn gwneud y cyfraniadau y mae eu hangen ar y GIG i gefnogi gofal brys ac argyfwng, gofal a gynlluniwyd, a gwella ansawdd. Fodd bynnag mae’r cyfraniadau hynny’n cael eu darparu mewn modd anghyson, nid yn unig rhwng y byrddau iechyd, ond yn aml rhwng ysbytai o fewn yr un bwrdd iechyd.

Er mwyn mynd i’r afael â’r pryderon hyn ac i wireddu’r cyfleon y maent yn eu cynnig, mae’r adolygiad yn gwneud 36 o argymhellion sy’n cwmpasu amrywiaeth o feysydd, megis gofal sy’n canolbwyntio ar y claf, integreiddio, presgripsiynu gan fferyllwyr, materion digidol a thechnoleg, datblygu’r gweithlu, arweinyddiaeth, ac ansawdd a llywodraethiant.

Rydym yn derbyn argymhellion yr adolygiad ac rydym am weld camau gweithredu cydweithredol a chydgysylltiedig rhwng sefydliadau i sicrhau y defnyddir dull arloesol a blaengar o ddarparu gofal fferyllol yn ein hysbytai yng Nghymru yn y dyfodol.

Mae ein hymateb wedi nodi 60 o gamau gweithredu ar draws y pedair thema ganlynol, gan ddarparu patrwm i drawsnewid gwasanaethau fferylliaeth glinigol mewn ysbytai i wireddu’r uchelgeisiau a nodwyd yn Fferylliaeth: Cyflawni Cymru Iachach (rpharms.com).

  • Galluogi gweithwyr proffesiynol ym maes fferylliaeth i ymarfer mewn meysydd lle maent yn gallu ychwanegu’r gwerth mwyaf;
  • Datblygu timau fferylliaeth mewn ysbytai ar gyfer darparu gofal clinigol o safon eithriadol;
  • Cryfhau ansawdd, arweinyddiaeth fferyllol a llywodraethiant ar bob lefel;
  • Gwireddu potensial gwelliannau digidol ac awtomeiddio, ynghyd â gwelliannau technegol eraill, er mwyn trawsnewid sut mae gofal fferyllol yn cael ei ddarparu.

Mae casgliadau’r adolygiad wedi atgyfnerthu’r ddealltwriaeth bod gwasanaethau fferylliaeth glinigol yn elfen hanfodol o’n gallu i ddarparu gofal ysbyty o ansawdd uchel, gan helpu i wella canlyniadau iechyd ac atal niwed y mae modd ei osgoi. Ond, wrth i natur gofal ysbyty newid, rhaid i’r ddarpariaeth o wasanaethau fferylliaeth glinigol newid hefyd er mwyn bodloni anghenion iechyd pobl ym mhob rhan o Gymru yn well.