Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Ebrill 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Cyhoeddwyd y Cynllun Budddsoddi yn Seilwaith Cymru yn 2012 ac roedd yn nodi uchelgais 10 mlynedd Llywodraeth Cymru ar gyfer buddsoddi mewn seilwaith ledled y wlad.

I gydnabod y newidiadau economaidd, cyllidol a chymdeithasol sylweddol sydd wedi digwydd ers 2012, byddaf yn cyhoeddi adolygiad canol cyfnod o’r cynllun ddydd Mawrth.
Bydd hyn yn cynnwys diweddariad ar y llif arfaethedig o fuddsoddiadau mewn prosiectau.
 
Law yn llaw â’r adolygiad canol cyfnod, rwy’n cyhoeddi dyraniadau cyfalaf ychwanegol o £266m, a fydd yn cael eu defnyddio i helpu i roi blaenoriaethau Llywodraeth Cymru yn Symud Cymru Ymlaen a Ffyniant i Bawb ar waith.

Bydd y cyllid cyfalaf newydd hwn yn ariannu ystod o fuddsoddiadau seilwaith, gan gynnwys teithio llesol, band eang y genhedlaeth nesaf, rhaglen gyfalaf Cymru gyfan y GIG, canolfannau cymunedol ysgolion ledled Cymru a’r rhaglen Cymoedd Technoleg, sy'n rhan o'r Tasglu Gweinidogol ar gyfer Cymoedd y De a'r Cynllun Gweithredu ar yr Economi.

Byddaf yn gwneud datganiad llafar i’r Cynulliad ddydd Mawrth ynglŷn ag adolygiad canol cyfnod y Cynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru a’r dyraniadau cyfalaf.

Bydd yr adolygiad yn cael ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru ddydd Mawrth.