Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AC, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Tachwedd 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Efallai y bydd yr Aelodau’n cofio i Gomisiynydd Plant Lloegr gyhoeddi’r adroddiad “Far less than they deserve” yn gynharach eleni. Roedd yr adroddiad hwnnw’n codi pryderon ynghylch plant ag anawsterau dysgu/awtistiaeth sydd wedi eu lleoli mewn ysbytai meddwl yn Lloegr.

O ganlyniad i’w gasgliadau, ceisiais sicrwydd gan Brif Swyddog Nyrsio Llywodraeth Cymru/Cyfarwyddwr Nyrsio GIG Cymru fod trefniadau derbyn a llwybrau gofal priodol ar waith i unrhyw blant o Gymru a allai gael eu lleoli mewn ysbyty arbenigol yn Lloegr fel rhan o’r trefniadau hyn.

Ym mis Mai 2019, cafodd Uned Comisiynu Gydweithredol Genedlaethol GIG Cymru ei chomisiynu gan y Prif Swyddog Nyrsio i gynnal adolygiad gofal cenedlaethol mewn perthynas â phlant sy’n derbyn gofal mewn ysbytai arbenigol yn Lloegr. Bwriad yr adolygiad oedd edrych ar wasanaethau iechyd meddwl plant a’r glasoed (CAMHS) i gleifion mewnol sydd wedi eu comisiynu oddi wrth ddarparwyr allanol (nad ydynt yn ysbytai GIG Cymru), megis GIG Lloegr neu’r sector ysbytai annibynnol.  

Nod yr adolygiad gofal cenedlaethol oedd sicrhau bod plant yn cael y canlynol:

• Gofal am yr amser gofynnol mewn amgylchedd priodol sy’n gallu bodloni eu holl 

  anghenion.

• Gofal sy’n grymuso, yn galluogi, ac yn ymgysylltu.

• Y lefel gywir o gymorth ar gyfer lleihau risg, meithrin annibyniaeth, a gwella ansawdd

   bywyd.

• Meddyginiaeth a ragnodir ar y dos lleiaf y mae ei angen i sicrhau’r

   canlyniadau clinigol a nodir, a bod unrhyw sgil effeithiau’n cael eu monitro’n drylwyr.

• Gofal diogel, effeithiol o ansawdd da, gan ddefnyddio cyn lleied â phosibl o ataliaeth

   neu arferion atal eraill.

• Ymyriadau sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau gan amrywiaeth o staff sydd â’r  sgiliau

   a’r profiad priodol.

Ymwelodd y tîm adolygu clinigol ag 11 o blant a oedd wedi eu lleoli mewn unedau o eiddo’r GIG a darparwyr annibynnol yn Lloegr. Roedd y rhain yn cynnwys wardiau gofal seiciatrig dwys ac acíwt lefel isel, canolig a diogel. Roedd yr adolygiad yn edrych yn fanwl ar ba mor briodol oedd y lleoliad, ansawdd y gofal, ac effaith y gofal hwnnw ar y plentyn.

Adeg yr adolygiad, ystyriwyd bod naw o’r un ar ddeg o blant mewn lleoliad priodol, ac ystyriwyd bod dau blentyn yn barod i symud i lefel is o ddibyniaeth. O ran ansawdd y gofal, rwyf wedi fy sicrhau bod yr adolygiad wedi nodi nifer o wahanol feysydd lle’r oedd arferion da ar waith, gan gynnwys meysydd staffio, cynllunio gofal, meddyginiaeth, archwiliadau iechyd corfforol,  ymyriadau therapiwtig, diogelwch a llesiant, addysg, a maeth. Mae’r meysydd hynny lle mae angen gwella wedi cael eu nodi, ac mewn achosion priodol rhoddwyd cynlluniau unioni iddynt eu gweithredu er mwyn rhoi sylw i unrhyw bryderon a oedd yn parhau.  

Ym mis Hydref 2019, mae pum plentyn yn parhau yn yr un ysbyty lle y cawsant eu hadolygu, mae tri yn parhau mewn ysbyty ar ôl cael eu trosglwyddo i gyfleuster mwy lleol, ac mae un plentyn yn aros i gael ei drosglwyddo i gyfleuster sy’n eiddo i GIG Cymru. Mae dau blentyn wedi cael eu rhyddhau o’r ysbyty. 

Mae tîm adolygu Uned Comisiynu Gydweithredol Genedlaethol GIG Cymru wedi sicrhau bod yr holl ganlyniadau wedi cael eu rhannu â’r darparwyr, ac mae bellach yn monitro’r lleoliadau sy’n parhau.

I weld copi o adroddiad yr adolygiad, cliciwch ar y ddolen ganlynol:

https://llyw.cymru/adolygiad-gofal-cenedlaethol-o-wasanaethau-iechyd-meddwl-plant-ar-glasoed-camhs-ddarperir-y-tu