Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Mai 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Fel rhan o'r ymyrraeth a’r cymorth wedi'u targedu a roddir i Fwrdd Iechyd Hywel Dda, dan Drefniadau Uwchgyfeirio ac Ymyrryd GIG Cymru, cafodd adolygiad cwbl gynhwysfawr o gostau ychwanegol posibl sy'n codi o batrwm presennol gwasanaethau gofal iechyd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ei gomisiynu gan arbenigwyr allanol annibynnol.

Gan ystyried y pryderon hirdymor ynghylch materion strwythurol, demograffig a daearyddol o fewn Hywel Dda, nod yr adolygiad oedd:

Ymgymryd ag adolygiad cwbl gynhwysfawr ar gyfer patrwm presennol gwasanaethau gofal iechyd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, hynny yw asesu costau "ychwanegol" patrwm presennol y gwasanaethau hyn.

Dyfarnwyd y contract i Deloitte LLP drwy gystadleuaeth agored a gynhaliwyd drwy Fframwaith ConsultancyOne Gwasanaethau Masnachol y Goron.

Bu Deloitte yn cydweithio â'r Bwrdd Iechyd a swyddogion Llywodraeth Cymru drwy gydol yr adolygiad, ac roedd yn canolbwyntio ar bedwar ffactor cyffredinol sy’n effeithio ar gostau  iechyd (demograffeg, pellter, graddfa ac effeithlonrwydd). Ar gyfer pob un o'r ffactorau hynny, datblygwyd amcangyfrifon o gostau ychwanegol Hywel Dda drwy gymharu costau'r Bwrdd Iechyd â chyfartaledd Cymru.

Fe wnaeth yr adroddiad ganfod bod dau ffactor, sef demograffeg a graddfa, yn arwain at gostau ychwanegol nad oedd modd eu hosgoi i'r Bwrdd, ond nad oedd y ddau ffactor arall, sef pellter ac effeithlonrwydd, yn arwain at gostau ychwanegol i'r Bwrdd.

Cyflwynwyd adroddiad llawn yr adolygiad mewn cyfarfod o'r Bwrdd Iechyd a gynhaliwyd ar 29 Mawrth 2018.

ttp://www.wales.nhs.uk/sitesplus/documents/862/Item 2.6 Report of the Chief Executive1.pdf

Mae'r adolygiad yn cadarnhau'n rhannol y farn bod Hywel Dda yn wynebu cyfres unigryw o heriau gofal iechyd sydd wedi cyfrannu at y diffygion cyson a ysgwyddir gan y Bwrdd a'i sefydliadau rhagflaenol. Wrth ymateb i'r canfyddiadau hyn, rwyf wedi cymeradwyo rhyddhau £27 miliwn o gyllid rheolaidd ychwanegol i'r Bwrdd Iechyd. Mae hyn yn gosod y Bwrdd Iechyd ar sylfaen gyllido deg o gymharu â'r byrddau iechyd eraill drwy ariannu'r costau ychwanegol a nodwyd yn yr adroddiad. Mae hyn hefyd yn sylfaen gadarn i'r Bwrdd ddatblygu a thrawsnewid gwasanaethau.

Yn dilyn fy mhenderfyniad i ariannu’r costau ychwanegol a nodwyd ar gyfer gofal iechyd yn y Canolbarth a’r Gorllewin, rwyf bellach yn disgwyl i'r Bwrdd ganolbwyntio ar y costau yr oedd yr adolygiad yn nodi eu bod o fewn eu rheolaeth, a chyflawni'r arbedion effeithlonrwydd a nodwyd.