Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AS, Y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Chwefror 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rwy'n cyhoeddi heddiw fy mod wedi comisiynu Adolygiad Cyflym o'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol ("y Ganolfan"). Sefydlwyd y Ganolfan yn 2015 am gyfnod grant o 7 mlynedd, sy'n dod i ben ar 31 Gorffennaf 2022.

Ers ei sefydlu, mae'r Ganolfan wedi datblygu Cwricwlwm Cenedlaethol a sylfaen adnoddau cryf ar gyfer darpariaeth Dysgu Cymraeg, wedi darparu cyfeiriad strategol a chenedlaethol i ddarparwyr Dysgu Cymraeg rhanbarthol, wedi sefydlu system casglu data cadarn, ac wedi cynyddu'r ystod o ddarpariaeth sydd ar gael i ddysgwyr ledled Cymru, yn enwedig mewn ymateb i’r pandemig. Mae ymateb y Ganolfan i'r pandemig wedi bod yn arbennig o drawiadol gyda phobl yn gallu parhau i ddysgu Cymraeg yn ddi-dor er gwaethaf dysgu wyneb yn wyneb yn dod i ben yn sydyn.

Rwyf wedi penderfynu cynnal Adolygiad i ystyried darpariaeth Dysgu Cymraeg o 1 Awst 2022 ymlaen. Rwyf wedi gofyn i Steve Morris, Cadeirydd Pwyllgor Craffu Cymraeg i Oedolion Llywodraeth Cymru arwain yr adolygiad, gyda chefnogaeth tîm o arbenigwyr sydd ag arbenigedd amrywiol. Byddant yn dechrau'r gwaith hwn ar unwaith ac yn adrodd yn ôl i mi erbyn diwedd mis Gorffennaf. Rwy'n ddiolchgar iawn iddynt am gytuno i ymgymryd â'r gwaith hwn. Byddant yn ystyried ac yn darparu argymhellion ar y materion canlynol:

  • Ystyried a yw cynnydd y Ganolfan yn erbyn argymhellion “Codi Golygon” (yr adroddiad a arweiniodd at ei sefydlu) wedi cael ei wireddu;
  • ystyried a yw gweithgareddau'r Ganolfan yn cyfrannu ar ymdrechion i wireddu targedau perthnasol “Cymraeg 2050”;
  • ystyried ymateb y Ganolfan i Covid, ac a yw’r datblygiadau yn sgil hynny yn cynnig cyfleoedd am newidiadau hirdymor i sut mae’r Ganolfan yn gweithredu neu sut mae darpariaeth Dysgu Cymraeg yn cael ei ddarparu;
  • ystyried gweithgareddau a chyfrifoldebau presennol y Ganolfan, ac os yw’r arbenigedd sydd wedi’i feithrin a’r adnoddau sydd wedi’u creu ers ei sefydlu yn cynnig cyfleoedd i ymestyn gweithgareddau’r Ganolfan i feysydd addysg statudol
  • ystyried os yw’r Ganolfan wedi rhoi sylw priodol i ddatblygu cyfleoedd Dysgu Cymraeg i gynulleidfaoedd newydd a phenodol e.e. rhieni di-Gymraeg, pobl o liw a lleiafrifoedd ethnig gan gynnwys ffoaduriaid a cheiswyr lloches;
  • adolygu data’r Ganolfan o ran y niferoedd sy’n Dysgu Cymraeg, a chostau bras fesul person, ac ystyried pa ffactorau y gellid eu defnyddio i ddiffinio gwerth am arian, a pha ddeiliannau sy’n cael eu cyflawni gan ddulliau dysgu eraill, a’r safonau sy’n cael eu cyrraedd ganddynt, ac 
  • argymell sut sydd orau i Weinidogion sicrhau darpariaeth ar ôl 31 Gorffennaf 2022 (h.y. model grant yn debyg i’r trefniant presennol neu fabwysiadu trefn arall).

Dyma’r tîm llawn fydd yn ymgymryd â’r gwaith:

Steve Morris – Awdur yr Adroddiad

Mae Steve yn Gymrawd Ymchwil er Anrhydedd yn yr Adran Ieithyddiaeth Gymhwysol ym Mhrifysgol Abertawe. Mae ganddo dros 35 mlynedd o brofiad fel ymarferwr addysgu, asesu a chwricwlwm yn yr iaith Gymraeg, gan ymuno â’r Adran Addysg Barhaus yn 1991 cyn trosglwyddo i Goleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau yn 2010 fel Athro Cysylltiol mewn Cymraeg ac Ieithyddiaeth Gymhwysol. Etholwyd Steve i Bwyllgor Gwaith Cymdeithas Ieithyddiaeth Gymhwysol Prydain (BAAL) yn 2012 ac mae’n gyd-ymchwilydd ac yn aelod o dîm rheoli prosiect ymchwil CorCenCC: Corpws Cenedlaethol Cymraeg Cyfoes a ariennir gan ESRC/AHRC. Mae Steve hefyd yn Gadeirydd Pwyllgor Craffu Cymraeg i Oedolion Llywodraeth Cymru.

Aelodau’r Bwrdd Cynghori

Yr Athro Enlli Thomas

Mae Enlli yn Ddirprwy Is-Ganghellor Cynorthwyol (y Gymraeg), Prifysgol Bangor, ac yn Athro mewn Ymchwil Addysg. Mae ei phrif ddiddordebau ymchwil a'i harbenigedd yn cynnwys dulliau seicoieithyddol o astudio caffael iaith ddwyieithog.  Mae Enlli hefyd yn Aelod o Gyngor Partneriaeth y Gymraeg Llywodraeth Cymru.  Bydd Enlli’n ychwanegu gwybodaeth fanwl am y sector addysg ac adnoddau addysgol i'r Adolygiad.

Yr Athro Tess Fitzpatrick

Tess Fitzpatrick yw Pennaeth yr Adran Ieithyddiaeth Gymhwysol a Chyfarwyddwr y Ganolfan Ymchwil Iaith ym Mhrifysgol Abertawe. Fe ddychwelodd i Brifysgol Abertawe yn 2017 ar ôl pum mlynedd yng Nghanolfan Ymchwil Iaith a Chyfathrebu Prifysgol Caerdydd. Mae ei hymchwil academaidd ar brosesu, caffael a phrofi geirfa yn cael ei lywio gan ei gyrfa gynnar mewn addysgu iaith. Roedd Tess yn Gadeirydd Cymdeithas Ieithyddiaeth Gymhwysol Prydain (BAAL) rhwng 2015 a 2018, ac mae wedi ennill Cymrodoriaeth Academi'r Gwyddorau Cymdeithasol am ei gwaith mewn astudiaethau geiriadurol ac mewn dealltwriaeth ehangach o brosesau gwybyddol mewn dysgu iaith ac addysg. Bydd hi’n ychwanegu arbenigedd ar gaffael a phrofi geirfa ail iaith i’r Arolwg.

Dr Gwenllian Landsdown Davies

Astudiodd Gwenllian Lansdown Davies Ffrangeg a Sbaeneg yn Rhydychen a byw am gyfnod yn Galisia a Brwsel cyn cwblhau gradd MScEcon a Doethuriaeth mewn Athroniaeth Wleidyddol ym Mhrifysgol Caerdydd ble bu hefyd yn diwtor gwleidyddiaeth. Yn 2011, fe’i penodwyd i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ym Mhrifysgol Aberystwyth fel Swyddog Cyhoeddiadau a Chynorthwyydd Golygyddol y cyfnodolyn ymchwil ‘Gwerddon’. Cychwynnodd ar ei swydd fel Prif Weithredwr Mudiad Meithrin ym mis Medi 2014. Y Mudiad yw’r darparwr a’r hwylusydd mwyaf o ofal ac addysg blynyddoedd cynnar cyfrwng Cymraeg yn y sector gwirfoddol yng Nghymru gyda dros fil o leoliadau ledled y wlad. Bydd Gwenllian yn ychwanegu arbenigedd ar flynyddoedd cynnar, a’r defnydd o’r Gymraeg o fewn teuluoedd a chartrefi i’r Arolwg.

Rhian Huws Williams

Mae Rhian wedi gweithredu ar lefel uchaf Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru am dros 30 mlynedd, yn fwyaf diweddar fel Prif Weithredwr Cyngor Gofal Cymru. Mae ei phrofiad yn cynnwys datblygiad asiantaethol a rheoli newid, llywodraethiant, cyngor polisi, datblygu strategaethau ac arweinyddiaeth. Mae wedi ei pherswadio yn sgil profiad o’r angen am arweinyddiaeth ddewr, pwysigrwydd gweithio mewn partneriaeth a gwerth diwylliant sy’n annog dysgu a datblygiad parhaus ar lefel corff ac ar lefel personol. Mae wedi bod yn aelod o sawl Tasglu Gweinidogol a grwpiau arweinyddiaeth gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Ers ymddeol mae wedi canolbwyntio ar ddau faes: Yr Iaith Gymraeg, ac addysg a sgiliau. Mae’n aelod o Gyngor Partneriaeth y Gweinidog ar yr Iaith Gymraeg; ac yn ymddiriedolwr lleol a chenedlaethol i sawl corff sy’n cefnogi cynnydd yn y defnydd o’r Gymraeg.