Neidio i'r prif gynnwy

Leighton Andrews, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Medi 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016


Ar 9 Gorffennaf 2012, cyhoeddais adolygiad o’r rhaglen Cymraeg i Oedolion i ystyried sut y gellir gwella darpariaeth a strwythurau Cymraeg i Oedolion. Y prif nod fydd adolygu darpariaeth Cymraeg i Oedolion yn nhermau cyrhaeddiad dysgwyr, cynnwys cwricwlaidd, strwythurau darparu a gwerth am arian. Bydd gofyn i’r Grŵp adrodd i mi erbyn mis Mehefin 2013 a darparu argymhellion ar y ffordd ymlaen.  

Hefyd, ar 9 Gorffennaf 2012, cyhoeddais fod Dr Haydn Edwards, cyn-Bennaeth Coleg Menai, wedi cytuno i gadeirio’r Grwp. Rwyf bellach yn falch bod modd i mi gyhoeddi aelodau eraill y Grwp. Rwy’n falch bod y canlynol wedi cytuno i fod yn aelodau o’r Grwp:

  • Gareth Jones: cyn-Gyfarwyddwr Addysg, Ceredigion
  • Ashok Ahir: ymgeisydd yn rownd derfynol dysgwr y flwyddyn a Phrif Weithredwr Mela-Media
  • Rhian Huws Williams: Prif Weithredwr Cyngor Gofal Cymru
  • Merfyn Morgan: Cyn-bennaeth Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol a Strategaeth Cymwysterau Sector, Llywodraeth Cymru
  • Dr Christine Jones: Pennaeth Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant
  • Dr Eleri Wyn Williams: Cyn-bennaeth Addysg a Dysgu, BBC Cymru
  • Meic Raymant: Pennaeth yr Adran Gwasanaethau Iaith Gymraeg, Heddlu Gogledd Cymru

Bydd gofyn i’r Grŵp ystyried:

  • y dull gorau o ddatblygu sgiliau iaith Gymraeg dysgwyr er mwyn iddynt allu defnyddio’r iaith yn y gweithle, y gymuned a gyda’u teuluoedd, gan gynnwys:
    • ydy’r cwricwlwm cyfredol yn addas?
    • beth yw’r gofynion o ran llyfrau cwrs / adnoddau dysgu ac addysgu? 
    • beth yw’r cyfleoedd i gynyddu defnydd o e-ddysgu o fewn Cymraeg i Oedolion?
    • beth yw’r cyfleoedd ar gyfer cynyddu dysgu anffurfiol o fewn Cymraeg i Oedolion?
    • beth yw’r gofynion hyfforddi ar gyfer y gweithlu?
  • yr opsiynau ar gyfer strwythur datblygu a darparu Cymraeg i Oedolion yn y dyfodol, gan gynnwys:
    • ydy’r model cyfredol yn cyflawni amcanion Llywodraeth Cymru?
    • ydy cydbwysedd y ddarpariaeth yn iawn?
    • a oes cyfleoedd i ddefnyddio’r adnoddau yn fwy effeithiol?
    • sut i fynd i’r afael â materion yn ymwneud â chynllunio’r gweithlu er mwyn sicrhau capasiti i ddarparu cyrsiau Cymraeg i Oedolion o ansawdd yn y dyfodol;
  • y berthynas gyda darparwyr yn y sector breifat; a
  • p’un a yw’r cymwysterau (sydd ar gael ar hyn o bryd a/neu ddulliau eraill o achredu/asesu) yn fodd o hwyluso neu yn rhwystr i ddatblygu sgiliau iaith Gymraeg trosglwyddadwy.
Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.