Neidio i'r prif gynnwy

Leighton Andrews, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Gorffennaf 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016


Mae Cymraeg i Oedolion yn rhaglen dysgu oedolion yn y gymuned. Prif nod rhaglen Cymraeg i Oedolion yw darparu cyfleoedd i oedolion ddysgu Cymraeg yn eu cymunedau lleol, eu gweithleoedd neu gyda’u teuluoedd, er mwyn eu galluogi i ddefnyddio’r iaith a chyfrannu at nod Llywodraeth Cymru o weld yr iaith yn ffynnu.
Sefydlwyd chwe Chanolfan Cymraeg i Oedolion yn 2006 (yn seiliedig ar ranbarthau ELWa ar y pryd), yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus a phroses ymgeisio ar gyfer grant, er mwyn rhesymoli’r holl ddarpariaeth amrywiol a fodolai ar y pryd gyda’r nod o godi safonau. Yn 2010/11 roedd 18,205 o oedolion yn dysgu Cymraeg trwy’r chwe Chanolfan.
Mae pwysigrwydd parhaus rhaglen Cymraeg i Oedolion yn cynnig cyfleoedd i oedolion ddysgu Cymraeg yn cael ei bwysleisio yn Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg Llywodraeth Cymru. Mae’r Strategaeth yn cynnwys nifer o gamau gweithredu penodol mewn perthynas â datblygiad parhaus y rhaglen trwy’r Canolfannau.
Er mwyn symud y gwaith ymlaen, rwyf am sefydlu Grŵp Adolygu i ystyried sut y gellir gwella darpariaeth a strwythurau Cymraeg i Oedolion. Y prif nod fydd adolygu darpariaeth Cymraeg i Oedolion yn nhermau cyrhaeddiad dysgwyr, cynnwys cwricwlaidd, strwythurau darparu a gwerth am arian. Bydd gofyn i’r Grŵp adrodd i mi erbyn mis Mehefin 2013 a darparu argymhellion ar y ffordd ymlaen.  
Bydd gofyn i’r Grŵp ystyried:

  • y dull gorau o ddatblygu sgiliau iaith Gymraeg dysgwyr er mwyn iddynt allu defnyddio’r iaith yn y gweithle, y gymuned a gyda’u teuluoedd, gan gynnwys:
    • ydy’r cwricwlwm cyfredol yn addas?
    • beth yw’r gofynion o ran llyfrau cwrs / adnoddau dysgu ac addysgu? 
    • beth yw’r cyfleoedd i gynyddu defnydd o e-ddysgu o fewn Cymraeg i Oedolion?
    • beth yw’r cyfleoedd ar gyfer cynyddu dysgu anffurfiol o fewn Cymraeg i Oedolion?
    • beth yw’r gofynion hyfforddi ar gyfer y gweithlu?
  • yr opsiynau ar gyfer strwythur datblygu a darparu Cymraeg i Oedolion yn y dyfodol, gan gynnwys:
    • ydy’r model cyfredol yn cyflawni amcanion Llywodraeth Cymru?
    • ydy cydbwysedd y ddarpariaeth yn iawn?
    • a oes cyfleoedd i ddefnyddio’r adnoddau yn fwy effeithiol?
    • sut i fynd i’r afael â materion yn ymwneud â chynllunio’r gweithlu er mwyn sicrhau capasiti i ddarparu cyrsiau Cymraeg i Oedolion o ansawdd yn y dyfodol;
  • y berthynas gyda darparwyr yn y sector breifat; a
  • p’un a yw’r cymwysterau (sydd ar gael ar hyn o bryd a/neu ddulliau eraill o achredu/asesu) yn fodd o hwyluso neu yn rhwystr i ddatblygu sgiliau iaith Gymraeg trosglwyddadwy.

Rwyf wedi gofyn i Dr Haydn Edwards, cyn Bennaeth Coleg Menai, i gadeirio’r Grŵp. Mae gan Haydn gyfoeth o brofiad ac rwy’n falch ei fod wedi cytuno i symud y gwaith pwysig hwn ymlaen. Byddaf yn cadarnhau enwau’r aelodau eraill, a fydd yn cael eu dethol ar sail eu profiad a’u harbenigedd ym maes addysg a hyfforddiant, ym mis Medi 2012.