Neidio i'r prif gynnwy

Julie James AS, Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Chwefror 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn unol ag adran 15 o Fil Etholiadau Cymru (Coronafeirws) (“y Bil”), gallaf gadarnhau fod Gweinidogion Cymru wedi cwblhau ein hadolygiad cyntaf o’r paratoadau ar gyfer cynnal etholiad y Senedd 2021 ar 18 Chwefror 2021.

Yn gryno, canlyniad yr adolygiad yw ein bod yn parhau’n ymrwymedig i’n bwriad presennol o gynnal yr etholiad ar 6 Mai, ochr yn ochr ag isetholiadau awdurdodau lleol fel y’u penderfynir gan y Swyddogion Canlyniadau, yn ogystal ag etholiadau Comisiynwyr Heddlu a Throseddu, sy’n gyfrifoldeb Llywodraeth y DU. Gan fod y sefyllfa iechyd cyhoeddus yn gwella’n raddol, nid yw’n rhesymol disgwyl i etholiad y Senedd gael ei ohirio ar hyn o bryd. Rhaid i bawb baratoi felly’n seiliedig ar hynny.

Rydym yn parhau i weithio’n agos gyda Llywodraethau’r Alban a’r DU. Ar 3 Chwefror, ymunais â chyfarfod cyntaf y Grŵp Rhyngweinidogol ar gyfer Etholiadau a Chofrestru (dolen allanol, Saesneg yn unig)

Adolygiadau pellach

Bydd yr adolygiad statudol nesaf o’r paratoadau ar gyfer 2021 yn cael ei gwblhau erbyn 12 Mawrth, a byddaf yn gosod datganiad pellach cyn gynted ag y bydd yn rhesymol ymarferol ar ôl hynny. Bydd y Prif Weinidog hefyd yn gosod datganiad, yn unol ag adran 6 o’r Bil, ar 24 Mawrth, neu cyn hynny, yn nodi a yw’n bwriadu arfer ei bŵer o dan yr adran honno i gynnig gohirio’r etholiad.

Meini Prawf a chanllawiau ar gyfer y cyfnod cyn yr etholiad

Cyhoeddir y meini prawf y bydd y Prif Weinidog yn eu defnyddio ar gyfer penderfynu a yw’n angenrheidiol neu’n briodol gohirio’r etholiad, a’r canllawiau ar gyfer arfer swyddogaethau Llywodraeth Cymru yn y cyfnod cyn yr etholiad, cyn gynted â phosibl ac yn unol ag adrannau 4 a 6 o’r Bil.

Ymgyrchu

Mae ein Cwestiynau Cyffredin ynglŷn â’r coronafeirws yn cynnwys canllawiau ar gyfer ymgyrchu.  Byddwn yn parhau i ddiweddaru’r dudalen hon wrth i fwy o gwestiynau ddod i law ac wrth i’r sefyllfa iechyd cyhoeddus ddatblygu, a byddwn yn cyhoeddi canllawiau ar gyfer y rheini sy’n ymgyrchu yn yr etholiad, yn unol ag adran 9 o’r Bil, cyn gynted â phosibl.

Mae’n bwysig nodi nad yw ein safbwynt ar ymgyrchu wedi newid, gan nad oes digon o le i addasu’r cyfyngiadau presennol ar hyn o bryd. Mae hynny’n golygu nad yw gadael cartref i ddosbarthu taflenni ac ymgyrchu o ddrws i ddrws yn esgus rhesymol, er gwaethaf y ffaith ei bod yn esgus rhesymol gadael cartref at ddibenion gwaith hanfodol sy’n gysylltiedig â’r etholiadau (er enghraifft os ydych yn aelod o dîm gwasanaethau etholiadol), er mwyn cydymffurfio â rhwymedigaethau cyfreithiol sy’n gysylltiedig ag etholiadau (er enghraifft casglu llofnodion ar gyfer enwebiad) neu i bleidleisio.

Cynnal yr etholiadau

Rydym yn gweithio’n agos gyda Swyddogion Canlyniadau i’w helpu i ddod o hyd i leoliadau a staff ar gyfer yr etholiadau. Fel rhan o’r gwaith hwn, rydym yn pwysleisio y dylai ysgolion, canolfannau cymunedol, mannau addoli, a chyfleusterau eraill fod ar gael os yw hynny’n bosibl, er mwyn i Swyddogion Canlyniadau allu eu defnyddio fel gorsafoedd pleidleisio a chanolfannau ar gyfer cyfrif y bleidlais, er mwyn sicrhau ei bod yn hawdd cael mynediad at y bleidlais. Mae agor safleoedd at ddefnydd swyddogol mewn perthynas â chynnal etholiadau’n cael ei ganiatáu o dan ein rheoliadau coronafeirws.

Byddem hefyd yn annog gweision cyhoeddus ac aelodau eraill o’r cyhoedd, gan gynnwys y rheini sy’n chwilio am waith, i gynnig eu henwau drwy Wirfoddoli Cymru (gwirfoddoli-cymru.net) i weithio ar yr etholiadau hyn.

Pleidleisio

Bydd y gorsafoedd pleidleisio yn ddiogel o ran COVID-19, a chyfrifoldeb y Swyddogion Canlyniadau fydd sicrhau hynny. Ni fydd angen i bleidleiswyr sy’n mynd i orsafoedd pleidleisio gofrestru ar gyfer Profi Olrhain Diogelu y GIG oni bai bod y lleoliad ar agor at ddibenion eraill sy’n gwneud hynny’n ofynnol. Ni fydd trefnu pleidlais na mynychu gorsaf bleidleisio yn torri’r rheoliadau coronafeirws, sy’n cyfyngu ar symud ac ymgasglu gyda phobl eraill, cyn belled â bod pawb yn cadw at y rheolau pellter corfforol a rheoliadau eraill.

Serch hynny, byddem yn annog pobl, yn enwedig y rheini sy’n gwarchod eu hunain, i wneud  cais am bleidlais drwy’r post. Os ydych yn bwriadu pleidleisio drwy’r post, dylech wneud cais cyn gynted â phosibl gan y bydd hynny’n helpu gweinyddwyr gyda’u paratoadau ar gyfer 6 Mai.

Cyfrif pleidleisiau a chanlyniadau’r etholiadau

Rydym yn cefnogi’n llwyr y camau y bydd angen i Swyddogion Canlyniadau eu cymryd i reoli’r gwaith o gyfrif pleidleisiau mewn ffordd wahanol er mwyn sicrhau cydymffurfedd â chyfraith etholiadol yn ogystal â’r rheoliadau coronafeirws. Rydym yn darparu cyllid ychwanegol ar gyfer hynny. Rydym yn sylweddoli y gallai oedi ddigwydd cyn cwblhau’r cyfrif, ac rydym yn cydnabod bod hyn yn ddealladwy os ydym am sicrhau bod etholiadau’n rhydd ac yn deg o dan yr amgylchiadau presennol.