Neidio i'r prif gynnwy

Huw Irranca-Davies AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Mai 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rwy'n cydnabod yn llawn yr effaith y mae achosion TB yn ei chael ar ffermwyr, eu teuluoedd a'u busnesau ac rwyf wedi clywed am y materion hyn gan ffermwyr unigol yr effeithir arnynt, UAC, NFU Cymru ac eraill.

Gall lladd gwartheg ar y fferm beri gofid arbennig i'r rhai sy'n ei weld a gall gael effaith niweidiol ar les a iechyd meddwl. Y prif resymau pam y caiff gwartheg eu lladd ar y fferm at ddibenion rheoli TB yw naill ai oherwydd nad ydynt yn gallu teithio ar sail lles, yn enwedig os ydynt yn ystod beichiogrwydd hwyr, neu o ganlyniad i gyfnodau o dynnu meddyginiaeth yn ôl.

Ar 15 Ebrill, cyhoeddais aelodaeth y Grŵp Cynghori Technegol TB Buchol (TAG). Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf TAG ar 17 Ebrill, a'u blaenoriaeth gyntaf oedd trafod a rhoi cyngor ynghylch lladd ar y fferm.

Rwyf wedi cael eu cyngor, a'i dderbyn yn llawn. Byddwn nawr yn gwneud newidiadau ar unwaith i'r polisi lladd ar y fferm, gyda'r nod o leihau nifer y gwartheg sy'n cael eu difa ar y ffermydd yng Nghymru. 

Gall ffermwyr ddewis gohirio symud buwch neu heffer yn ystod 60 diwrnod olaf beichiogrwydd ac anifeiliaid sydd wedi rhoi genedigaeth yn y 7 diwrnod blaenorol, yn amodol ar amodau bioddiogelwch i amddiffyn gwartheg eraill yn y fuches. Yn yr un modd, sicrhau hyblygrwydd cyfyngedig i ynysu ac oedi symud os bydd cyfnod tynnu meddyginiaeth yn ôl o fewn ychydig ddyddiau, fesul achos. 

Rwyf hefyd wedi gofyn i swyddogion weithio gydag NFU Cymru, UAC a chynrychiolwyr perthnasol eraill o'r sector gwartheg i sefydlu gweithgor partneriaeth dan arweiniad y diwydiant a fydd yn parhau i edrych ar sut y gellir lleihau, am wahanol resymau, lladd ar y fferm a'i effeithiau, trwy gynllunio a chyflwyno ar y cyd. "Rydym hefyd yn gwybod na all y Llywodraeth ddileu TB ar ei phen ei hun. Mae gweithio mewn partneriaeth â'n ffermwyr a'n milfeddygon yn hanfodol er mwyn cyrraedd ein nod cyffredin o Gymru heb TB."