Neidio i'r prif gynnwy

Julie Morgan AS, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Chwefror 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi gwerth mawr ar chwarae a’i bwysigrwydd ym mywydau plant yn ein cymdeithas. Mae mynediad at gyfleoedd chwarae o ansawdd yn hollbwysig o ran datblygiad cymdeithasol, emosiynol a chorfforol pob plentyn. Mae’r profiadau hyn o fudd i blant o ran eu hiechyd, eu hapusrwydd a’u lles, ac maent yn gosod y sylfaen ar gyfer cyflawni eu potensial fel oedolion. Dyna pam fy mod mor falch o gael Adroddiad Adolygiad Gweinidogol y Grŵp Llywio o Chwarae.

Rwyf am ddiolch i holl aelodau’r Grŵp Llywio, sef rhanddeiliaid allweddol o bob rhan o’r sector gwaith chwarae a’r sectorau cysylltiedig, sydd wedi rhoi o’u hamser a chyfrannu eu harbenigedd i’r adolygiad pwysig hwn. Rwyf am ddiolch yn benodol i Chwarae Cymru, yr elusen sy’n cynrychioli chwarae plant yng Nghymru, a arweiniodd y gwaith o ddatblygu’r ddogfen gefndirol a’r adroddiad terfynol eang sydd wedi’i gyflwyno’n dda.

Nod yr adolygiad yw ystyried ein gweledigaeth a’n hegwyddorion o ran chwarae, a rhoi sylw i’r ffordd orau o hyrwyddo polisi chwarae yng nghyd-destun newidiadau a wnaed ers yr adolygiad diwethaf yn 2002.

Fel rhan o’r adolygiad, cynhaliwyd ymgynghoriad ymhlith plant a phobl ifanc drwy Cymru Ifanc, menter Plant yng Nghymru. Yn unol â chanllawiau Covid-19, casglwyd adborth yn amlinellu barn plant a phobl ifanc am eu profiad, ac am chwarae, drwy gyfres o weithdai ar-lein ac ymgyngoriadau wyneb yn wyneb.

Mae argymhellion yr adolygiad yn eang eu cwmpas, a bydd rhai yn galw am waith traws-bolisi gan y llywodraeth a pharhau i gydweithio gyda’r sector. Byddwn yn mynd ati, felly, i ymchwilio ymhellach i’r argymhellion a’r cerrig milltir a awgrymwyd, a fydd yn helpu i lywio’r camau y mae angen eu cymryd. Rwy’n bwriadu ymateb yn ffurfiol i adroddiad y Grŵp Llywio â chynllun gweithredu manwl yn nes ymlaen eleni.