Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Mawrth 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Cafodd Adolygiad Gweithlu GIG Cymru ei sefydlu yn 2015 i edrych tuag at y dyfodol o fewn cyd-destun canfyddiadau Adroddiad Ymddiriedolaeth Nuffield,  Degawd o Galedi yng Nghymru.

Cafodd gwaith yr adolygiad ei arwain gan David Jenkins OBE a'i gefnogi gan banel o arbenigwyr gyda'r nod o ystyried cynaliadwyedd gweithlu'r GIG a'r datblygiadau strategol angenrheidiol i fynd i'r afael â'r heriau ariannol a nodwyd gan Ymddiriedolaeth Nuffield. Wrth ymateb, mae wedi gwneud amrywiaeth eang o argymhellion yn erbyn y pedwar maes penodol a adolygwyd. Bydd yr adroddiad ar gael bellach i'w ystyried gan Lywodraeth newydd Cymru yn nes ymlaen eleni.

Hoffwn achub ar y cyfle i ddiolch i'r panel am ei gyfraniad i'r adolygiad hwn.