Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Mawrth 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Fel rhan o’r cytundeb tâl dwy flynedd ar gyfer 2014-15 a 2015-16 y cytunwyd arno y llynedd gyda’r undebau llafur sy’n cynrychioli staff y GIG sydd ar gontractau Agenda ar gyfer Newid, penderfynwyd sefydlu arolwg yn y GIG i ystyried ystod eang o faterion yn ymwneud â’r gweithlu a thâl yng nghyd-destun adroddiad Ymddiriedolaeth Nuffield Degawd o Galedi yng Nghymru?

Mae’r datganiad hwn yn rhoi gwybod i Aelodau’r Cynulliad am aelodaeth y panel adolygu a’i brif feysydd gwaith.

Cadeirydd yr Adolygiad fydd David Jenkins, cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. Yr aelodau eraill fydd:

  • Yr Athro Ceri Phillips, Pennaeth y Coleg Gwyddorau Dynol ac Iechyd ac Athro Economeg Iechyd yng Nghanolfan Economeg Iechyd Abertawe (SCHE)
  • Dr Clare Gerada, Partner yn yr Hurley Group, Llundain a chyn-Gadeirydd Cyngor Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol
  • Yr Athro Stuart Cole, Athro Emeritws Trafnidiaeth, Prifysgol De Cymru
  • Martin Mansfield, Ysgrifennydd Ochr yr Undebau Llafur ar Gyngor Partneriaeth y Gweithlu, Arweinydd yr Undebau Llafur ar y Cyngor Adnewyddu Economaidd; ac Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru.

Mae pob un o’r aelodau wedi’u dewis yn ofalus i sicrhau bod gan y panel adolygu ystod eang o brofiad, galluoedd a chymwyseddau – a hynny o fewn y byd iechyd a’r tu allan iddo. Efallai y bydd aelodau ychwanegol yn ymuno â’r panel yn ystod yr wythnosau nesaf, a byddaf yn rhoi gwybod i Aelodau’r Cynulliad os caiff rhagor o benodiadau eu gwneud.

Dyma’r materion y bydd yr adolygiad yn eu hystyried:

  • Nodi modelau newydd o ddarparu gwasanaethau, sy’n rhan flaenllaw o’r broses o integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol, a dadansoddi’r hyn sy’n rhwystr i fodelau o’r fath ac i ddulliau gweithio cysylltiedig;
  • Gweithlu’r dyfodol; y cymysgedd o staff a sgiliau y mae ar y GIG eu hangen er mwyn sicrhau bod pobl yn cael gofal o safon uchel mor agos at eu cartrefi â phosibl;
  • Meysydd effeithlonrwydd, gan gymryd i ystyriaeth egwyddorion gofal iechyd darbodus, er mwyn helpu i fynd i’r afael â’r her ariannol hirdymor rhwng 2016-17 a 2025-26 fel y’i nodwyd yn adroddiad Ymddiriedolaeth Nuffield, Degawd o Galedi yng Nghymru?; a
  • Y cyfeiriad strategol hirdymor ar gyfer tâl a chydnabyddiaeth yn achos pobl sydd ar hyn o bryd dan delerau ac amodau contract Agenda’r DU ar gyfer Newid (a swyddi gweithredol ac uwch). Bydd hyn yn cynnwys fforddiadwyedd tâl a chydnabyddiaethau yn y dyfodol, yng nghyd-destun adroddiad Ymddiriedolaeth Nuffield; a sut yr eir ati i ystyried a phennu tâl a chydnabyddiaethau yn y dyfodol.

Bydd yr adolygiad yn cymryd tystiolaeth gan ystod o randdeiliaid allweddol a bydd yn cyhoeddi ei gasgliadau a’i argymhellion terfynol ar ôl cwblhau ei waith.