Neidio i'r prif gynnwy

Edwina Hart, Y Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Mawrth 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Ar 29 Ionawr, rhoddais yr wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau am yr Adroddiad (yn Saesneg yn unig) ar Gam 2 yr Adolygiad o’r Cyllid sydd ar gael i Fusnesau a chyhoeddais y byddai’r Athro Dylan Jones-Evans yn cynnal adolygiad hefyd i ystyried yn fanylach y syniad o Fanc Datblygu i Gymru.

Awgrymodd yr Adroddiad hefyd y dylid cynnig cymorth busnes yn ogystal â chymorth ariannol.  Rwyf felly wedi gofyn i Robert Lloyd Griffiths yn rhinwedd ei swydd fel Cadeirydd Bwrdd Strategol Busnes Cymru i arwain adolygiad i edrych sut y gellid sicrhau bod cymorth anariannol Llywodraeth Cymru’n ategu ac yn cefnogi’r cymorth ariannol sydd ar gael trwy Cyllid Cymru ar gyfer busnesau yng Nghymru.

Wrth gynnal yr Adolygiad, bydd yn gweithio gyda phrif randdeiliaid, busnesau bach a chanolig a’r gymuned fusnes yng Nghymru, a bydd Robert yn cyflwyno ei adroddiad i mi gyda’i argymhellion erbyn diwedd mis Medi 2014.

Byddaf yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau am yr Adolygiad maes o law.