Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford AS, Y Prif Weinidog

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Gorffennaf 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020 yn gosod cyfres o gyfyngiadau ar gynulliadau a symudiadau gan bobl, ac ar weithrediad busnesau, gan gynnwys eu cau. Maent hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i fusnesau sydd ar agor gymryd camau rhesymol i leihau'r risg o ddod i gysylltiad â'r coronafeirws. Eu nod yw diogelu pobl rhag lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2). 

Mae'n ofynnol i Weinidogion Cymru adolygu'r angen am y gofynion a'r cyfyngiadau yn y rheoliadau, a pha mor gymesur ydynt, bob 21 diwrnod. Bydd yr adolygiad 21 diwrnod nesaf o’r rheoliadau yn cael ei gynnal erbyn 30 Gorffennaf.

Yn yr adolygiad diwethaf o'r rheoliadau, ar 10 Gorffennaf, gwnaethom benderfynu mynd ati'n raddol i lacio'r cyfyngiadau ar fusnesau hamdden, twristiaeth a lletygarwch yng Nghymru yn ystod y tair wythnos hyn. Penderfynasom weithredu fel hyn ar yr amod bod lledaeniad y coronafeirws yn dal i fod o dan reolaeth yma, a dyna yw’r sefyllfa ar hyn o bryd. 

Rydym felly'n cyflwyno diwygiadau i'r rheoliadau er mwyn dileu'r cyfyngiadau ar bob llety sydd â chyfleusterau a rennir, o yfory (25 Gorffennaf) ymlaen. Bydd hyn yn galluogi safleoedd gwersylla i ailagor, ac i hostelau a mathau eraill o lety osod ystafelloedd sydd heb gyfleusterau ystafell ymolchi eu hunain, i bobl o'r un cartref neu aelwyd estynedig. 

Byddwn yn dileu'r cyfyngiad ar atyniadau tanddaearol – mae hyn yn golygu y bydd modd i bob atyniad i ymwelwyr yng Nghymru agor o yfory ymlaen ar yr amod eu bod wedi cymryd y camau angenrheidiol i ddiogelu staff ac ymwelwyr rhag y coronafeirws.

O ddydd Llun (27 Gorffennaf) ymlaen, byddwn yn dileu'r cyfyngiadau presennol ar sinemâu, amgueddfeydd, archifdai ac orielau dan do. Bydd hyn yn caniatáu i'r llefydd hyn ailagor ond nid yw'n gwneud yn ofynnol iddynt wneud hynny. Bydd amseriad yr ailagor yn amrywio o le i le, o ystyried amrywiaeth y sector.

Hefyd, bydd arcedau difyrion, sy'n cynnwys canolfannau gemau oedolion a chanolfannau adloniant teuluol, yn cael ailagor o ddydd Llun (27 Gorffennaf) ymlaen.

Byddwn yn codi'r cyfyngiadau i alluogi gwasanaethau lle y daw unigolion i gysylltiad agos â’i gilydd i ailagor. Mae'r rhain yn cynnwys salonau ewinedd, parlyrau tylino, busnesau sy'n cynnig triniaethau harddwch a thriniaethau lles eraill a thatŵs. Ar hyn o bryd, fodd bynnag, ni ddylent ddarparu unrhyw driniaethau wyneb gan fod cysylltiad wyneb yn wyneb yn cynyddu'r risg o drosglwyddo'r feirws. Byddwn yn parhau i weithio gyda'r sectorau hyn i adolygu’r sefyllfa hon yn rheolaidd.

Rydym yn cyflwyno diwygiadau i ganiatáu ymweliadau ag eiddo heb ei feddiannu. O ganlyniad, bydd y farchnad dai yn gallu ailagor yn llwyr.

Caiff diwygiadau eu gwneud i ddarparu mwy o eglurder a fydd yn sicrhau bod gweithgareddau hamdden o dan oruchwyliaeth i blant a phobl ifanc o dan 18 oed yn cael eu caniatáu.

Mae polisi Llywodraeth Cymru yn dal i fod yn glir y dylai pobl barhau i weithio gartref pan fo’n bosibl. Y cynnydd yn y nifer sy’n gweithio o bell ac yn hyblyg yw un o’r pethau cadarnhaol prin y gallwn ei gymryd o bandemig y coronafeirws ac er iechyd y cyhoedd a rhesymau eraill rwy’n awyddus i hyn barhau – a bydd Llywodraeth Cymru yn arwain drwy esiampl. Serch hynny, er mwyn darparu’r hyblygrwydd angenrheidiol i gynnal y polisi hwn byddwn yn dileu’r gofyniad cyfreithiol i weithio gartref o’r rheoliadau. Bydd canllawiau yn cael eu darparu i sicrhau y bydd gweithio gartref yn parhau’n un o gonglfeini ein gweithgarwch adfer yng Nghymru. Bydd hefyd gyfrifoldebau ar gyflogwyr i gefnogi gweithio gartref.

Yn olaf, byddwn yn diwygio’r rheoliadau i’w gwneud yn orfodol i wisgo gorchudd wyneb ar drafnidiaeth gyhoeddus, gan gynnwys mewn tacsis, o ddydd Llun (27 Gorffennaf) ymlaen.

Gallwn godi’r cyfyngiadau yn rhannol oherwydd bod busnesau a sefydliadau eraill yn newid ac yn addasu eu heiddo a’u dulliau gweithio er mwyn helpu pobl i gadw 2 fetr ar wahân ac i leihau’r perygl o drosglwyddo’r coronafeirws.

Nid yw coronafeirws wedi diflannu. Mae’r mesurau hyn yn cael eu rhoi ar waith i’n diogelu ni i gyd ac i atal trosglwyddiad yr haint. Rydym yn adolygu’r pwerau gorfodi sydd gan awdurdodau lleol ac eraill, ond rwy’n bwriadu cymryd camau a chau unrhyw fusnes neu eiddo sy’n fygythiad i iechyd y cyhoedd.

Wrth i rannau eraill o’n cymdeithas a’n heconomi agor rhaid i bob un ohonom wneud ein rhan i atal ton newydd o’r feirws drwy barhau i gydymffurfio â’r mesurau cadw pellter cymdeithasol. Rhaid inni hefyd olchi ein dwylo yn rheolaidd a chydymffurfio â’r dulliau newydd o weithio a gwneud busnes.

Hoffwn ddiolch i’r llawer o fusnesau a sefydliadau sydd wedi gweithio gyda Llywodraeth Cymru i ddatblygu’r canllawiau, sydd wedi cefnogi degau o filoedd o fusnesau bach a mawr i agor eu drysau i gwsmeriaid ac ymwelwyr unwaith yn rhagor.

Rwyf hefyd am ddiolch i bawb yng Nghymru am eu hymdrechion parhaus sydd wedi ein helpu i gyrraedd y pwynt hwn. Gyda’n gilydd gallwn gadw Cymru yn ddiogel.