Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Awst 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020 yn gosod cyfres o gyfyngiadau ar gynulliadau a symudiadau gan bobl, ac ar weithredoedd busnesau, gan gynnwys eu cau. Maent hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i fusnesau sydd ar agor gymryd camau rhesymol i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws. Eu nod yw diogelu pobl rhag lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2).

Mae’n ofynnol i Weinidogion Cymru adolygu’r angen am y gofynion a’r cyfyngiadau yn y rheoliadau, a pha mor gymesur ydynt, bob 21 o ddiwrnodau. Cynhaliwyd yr adolygiad llawn diwethaf – y seithfed – ar 20 Awst ac amlinellwyd y newidiadau a gynlluniwyd ar gyfer yr wythnos hon gan gymryd bod yr amodau’n parhau i fod yn ffafriol.

Mae’r cyngor gwyddonol a meddygol yn dangos, yn gyffredinol, bod trosglwyddiad coronafeirws yng Nghymru yn isel. Rydym yn parhau i fod yn bryderus am y sefyllfaoedd sy’n datblygu ar draws y DU a gweddill y byd.  

Rydym yn gwneud newidiadau i’r rheoliadau ddydd Gwener 28 Awst a fydd yn caniatáu ar gyfer ymweliadau â phreswylwyr mewn cartrefi gofal (oedolion a phlant), hosbisau, neu wasanaethau llety diogel i blant. Paratowyd canllawiau gyda’r diwydiant i reoli’r risgiau a bydd pob lleoliad yn rhoi eu trefniadau eu hunain ar waith ar gyfer ymweliadau. Mae’r newid hwn yn esbonio y caniateir ymweliadau yn unol â’r rheolau ond mai’r sefydliadau unigol fydd yn penderfynu pa bryd y byddant yn gallu hwyluso gweithgarwch o’r fath. Oherwydd y manteision i lesiant y preswylwyr, rwy’n gobeithio y gall llawer o gartrefi ddiweddaru eu gweithdrefnau’n gyflym i alluogi cynnal ymweliadau dan do yn ddiogel. Fodd bynnag, rwy’n gwerthfawrogi pryder rhai darparwyr am y newid sylweddol hwn, ac y bydd angen mwy o amser ar rai ohonynt i roi’r trefniadau ar waith.

Caniateir i gasinos agor hefyd, wedi iddynt roi mesurau lliniaru ac addasiadau ar waith i leihau’r risgiau. Bydd manylion cyswllt yn cael eu casglu a chyfyngir ar y nifer o bobl a ganiateir ym mhob lleoliad ar unwaith.

Yn dilyn trafodaethau gyda’r heddlu, rydym hefyd yn diwygio’r rheoliadau i wahardd trefnu digwyddiadau cerddoriaeth heb drwydded (sef digwyddiad nad yw wedi’i drwyddedu neu ei awdurdodi o dan Ddeddf Trwyddedu 2003) ar gyfer mwy na 30 o bobl. Os bydd rhywun yn mynd yn groes i’r gwaharddiad hwn gellir ei gosbi drwy euogfarn a dirwy diderfyn neu, fel dewis arall i euogfarn, cosb benodedig o £10.000. Mae hyn yn rhoi pwerau cymharol gyfwerth i’r heddlu â’r pwerau sy’n cael eu cyflwyno ar yr un pryd yn Lloegr. Bydd yr heddlu’n defnyddio egwyddorion Ymgysylltu, Esbonio, Annog a Gorfodi er mwyn gweithredu mewn modd cymesur.

Nid ydym wedi gwneud unrhyw newidiadau i’r rheolau ar gyfer cynulliadau o bobl yn ddiweddar. Ni ddylai pobl ymgynnull mewn grwpiau o fwy na 30 o bobl yn yr awyr agored na chwrdd o dan do â phobl nad ydynt yn rhan o’u haelwyd neu aelwyd estynedig. Felly mae’n drosedd i wneud hynny heb esgus rhesymol, fel yn yr amgylchiadau cyfyngedig a nodwyd yn y rheoliadau.

Mae’r Dirprwy Brif Swyddog Meddygol wedi ystyried y newidiadau hyn ac wedi rhoi gwybod eu bod yn fesurau cymesur a phwyllog sy’n gyson â’r nod cyffredinol o reoli’r pandemig.

Nid yw’r coronafeirws wedi diflannu – mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb parhaus i ddiogelu Cymru gyda’n gilydd.