Neidio i'r prif gynnwy

Carl Sargeant, Gweinidog Tai ac Adfywio

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Ebrill 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae fy mlaenoriaethau ym maes tai yn ymwneud â thair prif thema – mwy o dai, tai gwell a gwasanaethau tai gwell.  Yn ein Papur Gwyn ar Dai, fe wnaethom ymrwymiad clir i wella’r ffordd y gwneir addasiadau yng nghartrefi pobl.

Rwy’n falch o gyhoeddi bod yr adolygiad pwysig a gomisiynais o’n rhaglenni addasiadau presennol wedi dechrau.  Fel sylfaen iddo, fe wnaethom ofyn i’n rhanddeiliaid am eu barn ac mae hyn wedi’n helpu i ddeall beth sy’n bwysig wrth wneud addasiadau yng nghartrefi pobl er mwyn eu helpu i fyw’n annibynnol cyn hired â phosibl.

Ar hyn o bryd, mae gennym nifer o wahanol raglenni ar waith: er enghraifft, Grant Cyfleusterau i’r Anabl, Rhaglen Addasiadau Brys a Grant Addasiadau Ffisegol.  Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, rydym wedi bod yn treialu rhaglen newydd Grant Byw’n Annibynnol.  Mae’r rhaglenni hyn un ai yn neu wedi chwarae eu rhan i sicrhau bod addasiadau hanfodol yn cael eu gwneud, popeth o osod rheiliau llaw a chawodydd camu-i-mewn i adeiladu ystafelloedd ychwanegol.  Wrth gwrs, mae gan y rhaglenni hyn eu cryfderau a’u gwendidau ac mae’r ffordd y maen nhw’n cael eu cynnal a’r meini prawf sy’n sail iddyn nhw ychydig yn wahanol.  Gall y drefn gymorth bresennol fod yn anodd ei deall.
 
Mae’r astudiaeth yn cael ei chynnal gan gonsortiwm ymchwil sy’n cynnwys Shelter, Tai Pawb a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd a bydd yn trafod y materion hyn.  Bydd yn ystyried a oes angen newid y systemau a’r trefniadau sydd ar waith ar hyn o bryd ar gyfer addasu cartrefi pobl er mwyn eu helpu i fyw’n annibynnol.  Yn fwy penodol, bydd yn ystyried opsiynau ar gyfer creu system all gyflawni fy uchelgais sef sicrhau bod help hawdd mynd ato ac o ansawdd da ar gael i bobl.  Y nod cyffredinol yw sicrhau y gwneir addasiadau yn gynt yng nghartrefi’r bobl hynny sydd eu hangen.  Drwy wneud hyn, gallwn leihau unrhyw anghydraddoldebau sy’n bodoli yn y system ar hyn o bryd a sicrhau bod atebion di-dor ar gael sy’n rhoi pwyslais ar atal yr angen ac ymyrryd yn gynnar.

Yn yr wythnosau nesaf, bydd y tîm ymchwil yn cysylltu â’r rhanddeiliaid  ac yn gofyn iddyn nhw gyfrannu at yr astudiaeth – rwy’n edrych ymlaen at glywed beth fydd ganddyn nhw i’w ddweud.  Hoffwn i weld gymaint o bobl â phosibl yn cymryd rhan yn y gwaith hwn.  Drwy addasu cartrefi pobl, gallwn atal pobl rhag gorfod mynd i’r ysbyty’n ddi-angen neu droi at ofal preswyl yn ddi-angen ac wrth gwrs, byddai hynny’n lleihau’r baich ar ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol a’n gwasanaethau cymdeithasol.  Bydd y gwaith yn cael ei cynnwys yn y camau gweithredu ar gyfer 2014-15 ac mae cyllid ychwanegol ar gael drwy’r Gronfa Gofal Canolraddol newydd.  Ni fydd yr adolygiad yn effeithio ar yr help hwn, help sy’n cael ei ddarparu gan awdurdodau lleol, Byrddau Iechyd Lleol a chyrff yn y trydydd sector fel Gofal a Thrwsio Cymru.  Ar y llaw arall, bydd yr adroddiad, a gyhoeddir ym mis Medi, yn sylfaen i’r gwelliannau fydd yn cael eu gwneud yn y dyfodol i helpu pobl ac i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i ansawdd eu bywydau.