Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans, Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Sefydliad:
Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Gorffennaf 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rwyf yn cyhoeddi adroddiad heddiw am yr adolygiad o Chwaraeon Cymru a gynhaliwyd gan y panel annibynnol:

gov.wales/topics/culture-tourism-sport/sportandactiverecreation/sport-wales

Ym mis Chwefror 2017, gwahoddais banel annibynnol i ystyried bwriad strategol, diben a rôl Chwaraeon Cymru mewn perthynas â chreu cenedl fwy egnïol, iach a llwyddiannus, a hynny yng nghyd-destun y pwysau ar gyllidebau gwariant cyhoeddus a’r ffaith bod y cyd-destun polisi yn newid yn gyson. Rwyf yn ddiolchgar iawn i aelodau'r panel am eu gwaith manwl wrth ystyried y materion o dan sylw a'u trylwyredd wrth fynd ati i wneud y darn pwysig hwn o waith.

Bydd angen amser ar y llywodraeth i roi’r ystyriaeth briodol i ganfyddiadau ac argymhellion yr adroddiad, ac rwyf yn bwriadu cyflwyno ymateb llawn i'r Cynulliad yn yr hydref. Mae'r adroddiad yn cadarnhau bod partneriaid yn gwerthfawrogi gwaith Chwaraeon Cymru a'r cyfraniad amlwg y mae Chwaraeon Cymru yn ei wneud i ddatblygiad a llwyddiant y sector chwaraeon yng Nghymru, ar y lefel elît ac ar y lefel gymunedol. Mae'r adroddiad hefyd yn nodi rhai o'r ffyrdd arloesol sy'n cael eu defnyddio i sicrhau bod y sector chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn gynaliadwy yn y tymor hwy.

Dyma brif gasgliadau'r adolygiad:

  1. Dylai Llywodraeth Cymru ddatblygu datganiad polisi hirdymor ar gyfer gweithgarwch corfforol sy'n egluro rolau a chyfrifoldebau Chwaraeon Cymru a chyrff cyflenwi eraill. Bydd y polisi hwn yn cael ei lywio gan ein cynllun ar gyfer Cymru fwy iach ac egnïol. Bydd y datganiad yn nodi sut y dylai pob sefydliad sy'n ymwneud â hybu iechyd, chwaraeon a ffitrwydd corfforol gydweithio i gyflawni’n nodau cyffredin er mwyn sicrhau canlyniadau gwell i bobl Cymru.
  2. Dylai Chwaraeon Cymru arwain y gwaith o ddatblygu strategaeth hirdymor newydd ar gyfer chwaraeon a gweithgareddau hamdden corfforol yng Nghymru a fydd yn ymateb i bolisi'r llywodraeth. Dylai fynd ati i ddatblygu’r strategaeth ar sail yr egwyddorion yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, a dylai ymgysylltu’n llawn â'r sector a nodi sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus y gall gydweithio â nhw, fel Iechyd Cyhoeddus Cymru.
  3. Dylai Llywodraeth Cymru a Chwaraeon Cymru ddatblygu fframwaith canlyniadau newydd, a fydd yn cynnwys metrigau a dangosyddion perfformiad allweddol fel y bo modd dangos yr effaith ehangach a gaiff chwaraeon ar wireddu’r amcanion yn "Symud Cymru Ymlaen". Dylai Chwaraeon Cymru sefydlu perthynas ffurfiol gyda'r sector Addysg Uwch er mwyn comisiynu a lledaenu canfyddiadau ymchwil, meithrin dealltwriaeth o ddogfennau strategol allweddol, a chydlynu gwasanaeth ymchwil i lywio gwaith ar ddatblygu rhaglenni a pholisïau at y dyfodol.
  4. Dylai Llywodraeth Cymru a Chwaraeon Cymru sicrhau bod gwaith cynllunio a chyllidebu yn digwydd ar yr un pryd, a bod cyllideb hirdymor yn cael ei darparu fel y bo modd mynd ati i gynllunio’n strategol ar gyfer y tymor hir. Dylai egwyddorion a strategaeth fuddsoddi Chwaraeon Cymru gael eu hadolygu a'u diwygio er mwyn sicrhau bod cysylltiad clir rhwng penderfyniadau buddsoddi a chyflawni. Dylai penderfyniadau buddsoddi a gwerthusiadau  gael eu gwneud mewn ffordd dryloyw, agored a chyson.
  5. Dylai Chwaraeon Cymru sicrhau bod gan y sefydliad y cyfuniad priodol o sgiliau i gyflawni'r strategaeth hirdymor newydd ac i ychwanegu gwerth i’r sector. Dylai hyn gynnwys creu amgylchedd lle mae syniadau a chreadigrwydd yn cael eu hannog, eu hyrwyddo a’u dathlu.

 

Chwaraeon Cymru yw corff cyflawni allweddol Llywodraeth Cymru ar gyfer chwaraeon a gweithgarwch corfforol. Bydd yr adroddiad hwn yn helpu i lywio’r modd yr eir ati yn y dyfodol i wireddu’n dyheadau ar gyfer poblogaeth fwy egnïol. Fel cam cyntaf, rwyf wedi gofyn i fy swyddogion weithio gyda Chwaraeon Cymru i ddatblygu model newydd ar gyfer chwaraeon cymunedol, gan weithio gyda phartneriaid lleol i gael mwy o effaith.

Hoffwn roi cydnabyddiaeth i aelodau'r Bwrdd a staff Chwaraeon Cymru am gydweithredu â’r adolygiad a diolch iddynt am eu proffesiynoldeb wrth ganolbwyntio ar gyflawni yn ystod y misoedd diwethaf. Gwn y byddant yn ymateb mewn ffordd ymroddedig i awgrymiadau'r adolygiad ac i’r cyfle i lunio strategaeth newydd ar gyfer y dyfodol.