Neidio i'r prif gynnwy

Carl Sargeant AC, Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Gorffennaf 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyfres o gosbau gweinyddol yw sancsiynau sifil sy’n caniatáu i reoleiddwyr osod sancsiynau cymesur, hyblyg ac ystyrlon. Dim ond i’r rheoleiddwyr hynny sy’n dilyn egwyddorion rheoleiddio da – sef bod yn dryloyw, yn atebol, yn  gyson ac yn gymesur – y mae’r sancsiynau hynny ar gael. Mae angen hefyd i sancsiynau gael eu targedu.    

Ac yntau’n rheoleiddiwr ym maes yr amgylchedd, mae gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) y pŵer i ymateb i droseddau amgylcheddol, ac mae’r pŵer hwnnw’n cynnwys defnyddio sancsiynau sifil. Er mwyn rhoi’r sicrwydd priodol i Weinidogion Cymru o ran caniatáu i CNC barhau i arfer sancsiynau o’r fath, gofynnodd Llywodraeth Cymru i’r Swyddfa Cyflawni Rheoleiddio Gwell (BRDO) gynnal adolygiad o CNC yn unol ag egwyddorion rheoleiddio da.

Cynhaliwyd yr Adolygiad dros y chwe mis diwethaf ac aeth BRDO ati i gynnal ymchwiliad i’r modd y mae CNC yn gwneud gwaith rheoleiddio yn y rheng flaen. Er bod yr ymchwiliad yn un lefel uchel, roedd hefyd yn un cadarn a thrwyadl a oedd yn edrych hefyd ar y cysylltiadau a’r berthynas rhwng CNC a’r busnesau a’r endidau eraill y mae’n eu rheoleiddio. Cynhaliodd BRDO gyfres o gyfarfodydd gyda grwpiau ffocws a chyfweliadau gyda busnesau a grwpiau sy’n eu cynrychioli. Ar ôl y gwaith hwnnw gyda rhanddeiliaid, bu'r BDRO yn gweithio gyda CNC i nodi ac i fapio ffynonellau priodol o wybodaeth am CNC ac am sut y mae’n mynd ati i reoleiddio.

Prif argymhelliad yr adroddiad yw y dylai Cyfoeth Naturiol Cymru barhau i gael defnyddio pwerau i osod sancsiynau sifil. Mae BRDO yn nodi mai dyddiau cynnar yw hi o hyd ar CNC o ran datblygu dull rheoleiddio gwahanol i’r dulliau a oedd gan y sefydliadau a’i rhagflaenodd. Er hynny, mae’n nodi hefyd fod ymrwymiad y corff i ragoriaeth wrth reoleiddio i’w weld yn yr ymrwymiadau a wnaed, y gwaith sydd ar y gweill ym maes datblygu polisi, a’i ddyheadau i feithrin gallu’r staff. Mae’r tîm a gynhaliodd yr adolygiad yn awyddus i bwysleisio bod CNC, yn ei olwg ef, yn sefydliad ifanc sy’n dal i ddatblygu a’’i fod  wrthi’n meithrin dull o reoleiddio a fydd yn cynorthwyo gyda chydymffurfiaeth ac yn helpu busnesau i dyfu. Roedd y tîm o’r farn bod y modd y bu’n gweithredu yn hynny o beth yn y sector ynni dŵr yn arbennig o nodedig ac yn esiampl berffaith o gydweithredu wrth reoleiddio.
 
Mae’r adroddiad, sef Review of Natural Resources Wales (NRW) against the principles of Good Regulation gan y Swyddfa Cyflawni Rheoleiddio Gwell (BRDO), yn sylfaen gadarn sy’n golygu y gallaf fod yn fodlon y bydd CNC yn defnyddio sancsiynau sifil mewn modd a fydd yn cyd-fynd ag egwyddorion rheoleiddio da. Mae’r adroddiad, sy’n cadarnhau y dylai CNC gael parhau i ddefnyddio sancsiynau sifil, wedi’i osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.  

http://www.assembly.wales/laid documents/gen-ld10285/gen-ld10285-e.pdf (Saesneg yn unig)

Rwyf yn falch o ganlyniad yr adolygiad a gynhaliwyd gan y BRDO ac yn falch hefyd o weld pa mor bell y mae CNC wedi dod o ran datblygu ei ddull o reoleiddio, yn enwedig felly o ran creu system a fydd yn ymateb i’r anghenion gwahanol sydd gan fusnesau. Nodaf hefyd fod cyfres o argymhellion gan y BDRO a fydd yn fodd i wella mwy ar berfformiad CNC wrth reoleiddio. Bydd fy swyddogion yn gweithio gyda CNC i fonitro’r gwaith o weithredu’r argymhellion hynny.