Neidio i'r prif gynnwy

Leighton Andrews, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Chwefror 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Ar 9 Chwefror 2012, cyhoeddais fod Panel Adolygu arbenigol wedi’i sefydlu, o dan gadeiryddiaeth yr Athro Syr Adrian Webb, ar gyfer cynnig barn ddeallus, glir a diduedd ar ba fath o ddarpariaeth addysg uwch a fydd yn diwallu orau anghenion economaidd a chymdeithasol, yn ogystal ag anghenion dysgwyr, y Gogledd-ddwyrain. Dyma brif amcanion yr adolygiad:

  • pennu pa fath o ddarpariaeth addysg uwch gynhwysfawr y dylid ei chynnig yn y Gogledd-ddwyrain
  • pennu i ba raddau y mae patrwm presennol y ddarpariaeth addysg uwch yn adlewyrchu’r cynnig hwnnw
  • argymell modelau newydd neu well ar gyfer darparu gwasanaethau, sy’n ystyried proffil demograffig, cymdeithasol ac economaidd y Gogledd-ddwyrain a’r angen i fynd ati mewn modd mwy cydlynol i ddarparu addysg bellach ac addysg uwch.    

Mae’r Panel Adolygu wedi cyfarfod yn rheolaidd ers mis Ebrill y llynedd ac wedi ymgynghori’n helaeth â rhanddeiliaid allweddol yn yr ardal.

Ym mis Ionawr, bu’n rhaid i Syr Adrian Webb ohirio gwaith y Panel Adolygu dros dro yn dilyn profedigaeth yn y teulu agos a salwch difrifol aelod agos arall o’r teulu. O ganlyniad i’r toriad a fu yn y gweithgarwch, rwyf wedi ymestyn y dyddiad ar gyfer cyflwyno adroddiad terfynol y Panel Adolygu tan ddiwedd mis Mehefin eleni. Edrychaf ymlaen at dderbyn yr adroddiad.