Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Chwefror 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, rwy'n cyhoeddi Adolygiad Gweinidogion Cymru o Ddeddf Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu) 2022  a chrynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad a gynhaliwyd i geisio barn ar y mecanweithiau priodol ar gyfer gwneud newidiadau i Ddeddfau Trethi Cymru.

Dyma'r cam olaf o ran cyflawni'r ddyletswydd a osodwyd ar Weinidogion Cymru i adolygu gweithrediad y Ddeddf ac ystyried mecanweithiau deddfwriaethol amgen ar gyfer gwneud newidiadau o'r fath. Mae'n rhaid cyhoeddi casgliadau'r adolygiad erbyn 8 Medi 2026. Bydd yr adolygiad hefyd yn helpu i baratoi'r ffordd ar gyfer gwneud penderfyniadau yn nhymor nesaf Senedd Cymru, ac i'r Senedd a Llywodraeth Cymru sefydlu'r dull gweithredu y mae'n dymuno ei fabwysiadu o ran gwneud newidiadau i Ddeddfau Trethi Cymru. 

Er i'r ymgynghoriad gadarnhau mai deddfwriaeth sylfaenol a ystyrir fel y mecanwaith mwyaf priodol ar gyfer newid trethi, ceir cydnabyddiaeth eang bod angen pwerau hyblyg ar Gymru o hyd i ymateb yn gyflym i ddigwyddiadau allanol sy’n effeithio ar drethi datganoledig.

Cyn bo hir, rwy’n bwriadu gosod Rheoliadau drafft i estyn y cymal machlud yn Neddf Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu) 2022 i'r uchafswm a ganiateir, sef 30 Ebrill 2031. Bwriad hyn yw rhoi'r amser i'r Senedd nesaf a Llywodraeth Cymru sefydlu'r dull gweithredu y maent yn ei ystyried yn briodol ar y cam hwn o’r daith ddatganoli i wneud newidiadau i'n trethi datganoledig.